Croeso

NEGESEUON Anfonwch luniau a manylion eich digwyddiadau i post@felinheli.org

Croeso

I wefan Cyngor Cymuned Y Felinheli

Popeth am Felin mewn un lle. Dyna sydd yn y wefan yma. Mae Felinheli yn bentre bywiog ar lannau'r Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon. Mae'r wefan yma ar gyfer pobol y pentre ac ar gyfer y rhai sydd am ddysgu mwy amdanom ni....mwy


 

Dogfennau i'w Lawrlwytho

Newyddion Diweddaraf

Bysiau Llun nesaf - 28:05:12

LLUN NESAF : Neges gan ARRIVA : Bydd y bysus ( gan gynnwys bysys Ysgol) yn teithio drwy Felinheli fel arfer dydd Llun nesaf, Mai 28. Bydd oedi rhwng 5 a 6 pan fydd yn Fflam a'r orymdaith yn pasio drwy'r pentref.

line

Mistar Urdd a'r Olympics

bunting ffenest felin sgwrsio mr urdd

Mae'r Felin yn edrych yn lliwgar iawn wrth i'r pentref baratoi i groesawu'r Fflam Olympaidd dydd Llun nesaf, Mai 28 ac yna wythnos gyfan o Eisteddfod yr Urdd i Glynllifon yr wythnos wedyn. Diolch i griw Gwyl Y Felin am osod y bunting. Bydd yn aros fyny rwan tan ar ol Gwyl y Felin sydd i'w chynnal o Mehefin 29 ymlaen. Bydd y rhaglen allan yn fuan ar www.gwylfelin.org. Diolch hefyd i Bwyllgor Apel yr Urdd drefnodd fod y pentref wedi codi £8,000 tuag at gynnal yr Eisteddfod. Mwy am y digwyddiadau yng Nglynllifon : www.urdd.org/eisteddfod. Pob lwc i holl blant a phobl ifanc y pentref sy'n cystadlu yno.

Mae Rhian wedi addurno ffenestri Y Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor ac fe fydd posteri lliwgar yn ymddangos mewn cartrefi ac yn y siopau, diolch i blant yr ysgol a'r Guides.

Dydd Llun nesaf, bydd y Fflam a'r orymdaith yn dod heibio tua 5.15 p.m. Bydd Stryd Bangor a Ffordd Caernarfon ar gau yn gyfangwbl i draffig rhwng 5 a 6.30 p.m. Hefyd fydd dim modd mynd allan na dod mewn i Felin ym mhen Seilo/Nant y Garth rhwng 10 bore Llun nesaf a hanner nos gan fod cyngerdd yn Y Faenol. Gofynnir i bawb deithio ar y ffordd osgoi a dod mewn/gadael y pentref yng nghylchfan Plas Menai.

line

10K Faenol (Gwyl y Felin)
Bydd y ras yn cael ei chynnal ar Gorff 4 am 7.15pm. Mae llefydd ar ol o hyd ac mae croeso i redwyr lleol. Mae'r ffurflenni mynediad ar gael ar wefan gwyl Y Felin ac yma. Dyddiad cau yw Mehefin 18.

line

Holiadur

Os nad ydych wedi llenwi'r holiadur am y pentref, plis ellwch chi wneud cyn dydd Gwener drwy fynd i'r linc isod.
www.mabis.co.uk/survey/felinheli/

line

Newyddion am y Fflam Olympaidd sy'n dod drwy'r pentref ar Mai 28 a MWY ar: www.felinheli.org

line

Arian i Felin

olympics Mae'r Felinheli yn un o 8 cymuned i gael pres at Mai 28 pan fydd y Fflam Olympaidd yn dod drwy'r pentref. Cwis yn y Fic am 7 ar Mai 28 os nad ydych am fynd i'r cyngerdd yn Faenol.


Mae wyth o grwpiau cymunedol Gwynedd wedi derbyn buddsoddiad gan gronfa Cist Gwynedd Cyngor Gwynedd i’w helpu i baratoi ar gyfer dathliadau taith y Fflam Olympaidd - cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

Boreau Coffi Y Felin Sgwrsio

Mae rhain yn cael eu cynnal ar fore Gwener olaf y mis. Croeso cynnes i bawb.
Dyma'r dyddiadau: Mai 25 ( er budd Ty Gobaith), Gorffennaf 27, Awst 31, Medi 28 ( er budd elusen Macmillan), Hyd 26.
Dim bore coffi yn mis Mehefin gan fod hi'n wythnos Gwyl Y Felin.

line

Clwb Cinio Y Felin Sgwrsio 2012

Dyma'r dyddiadau ar gyfer y tymor hwn. Croeso cynnes i bawb.

Mis

Dyddiad

Mehefin

14

Gorffennaf

12

Awst

9

Medi

13

Hydref

13

Tachwedd

8

Rhif cyswllt  
Eluned 01248 671191
Myfanwy 01248 670420  Mobile 07767 210825

line

BORE COFFI

Gwener 25 Mai 
10.30am – 12.00pm 
Bore Coffi er budd Ty Gobaith 
gyda Helen Wynn yn son am waith Ty Gobaith.

 

line

Dyddiadur Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli

  • Iau 10 Mai 12.00pm Clwb Cinio , 2.30pm - 4.30pm Clwb Celf Felin
  • Gwener 11 Mai 10.30am – 11.30am Dewch am banad gyda'r cynghorwyr lleol
  • Sadwrn 12 Mai 11.00am – 12.00pm Clwb y Dysgwyr. Ymarfer eich Cymraeg dros banad
  • Mawrth 15 Mai 10.00am – 11.30am Yoga Cadair/ panad a sgwrs
  • Mercher 16 Mai 10.00am – 12.00pm “Ti ddim yn dweud”/ "You don't say" cyfle i siaradwyr Cymrage a dysgwyr ddod at ei gilydd am sgwrs.
  • Iau 22 Mai at 2.30pm – 4.30pm Clwb Celf Felin
  • Gwener 25 Mai 10.30am – 12.00pm Bore Coffi er budd Ty Gobaith gyda Helen Wynn yn son am waith Ty Gobaith.

Mwy o wybodaeth gan Dilys Myfanwy
Ysg Y Felin Sgwrsio
22 Stryd Bangor
Y Felinheli
Tel 07767 210 825

line

Mets iaith yn Half Way House Y Felinheli
26 Llun 8.30pm – dosbarth i ddysgwyr Cymraeg, gyda llawer o hwyl. Croeso i bawb
Mwy o wybodaeth gan : Aled Job
12 Pendorlan
Y Felinheli
Tel 078818 068205

line

Cyngerdd y Fflam Olympaidd - Y Faenol, 28 Mai

Gorau po gyntaf y ceisiwch am docynnau - FFORDD AR GAU RHWNG 5 a 6.30 ar Mai 28 .... drwy brif lon Felin

Bydd noson i’w chofio ar Stad y Faenol ar 28 Mai, pan gynhelir digwyddiad arbennig - un o bedwar yng Nghymru - i groesawu'r Fflam Olympaidd.
· 16:00 - 19:30, dydd Llun 28 Mai 2012
· Stad y Faenol

Sut i gael tocynnau
Gallwch archebu tocynnau o 1 Mai tan 21 Mai.
Bydd y tocynnau am ddim - y cyntaf i’r felin. Dim mwy na 6 tocyn i unrhyw gartref.

Er mwyn archebu tocynnau:· archebu tocynnau dathliad Fflam Olympaidd

Bydd angen i chi gasglu’r tocynnau o Ganolfan Groeso neu lyfrgell yng Ngwynedd. Byddwch yn dewis pa ganolfan / llyfrgell wrth wneud cais, a byddwn yn anfon e-bost atoch yn dweud pryd y gallwch eu casglu.
Os na allwch fynd ar y we adref, dewch i un o lyfrgelloedd Gwynedd i ddefnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus.
Os bydd tocynnau ar ôl, byddant ar gael o Ganolfan Croeso Caernarfon o 21 Mai tan 27 Mai, 9:30 - 16:30.

Cyrraedd y Faenol
Bydd gwasanaeth bws arbennig yn mynd yn ôl ac ymlaen o Fangor a Chaernarfon yn sgil partneriaeth rhwng y Cyngor a chwmnïau Arriva, Express Motors a Padarn.
Bydd y bysiau’n rhedeg bob 20 munud. Tocyn dwy ffordd ar gael wrth gasglu’r tocynnau:
· £6 i oedolion
· £3 i blant
Bydd lle i barcio ar Stad y Faenol. Gallwch brynu tocynnau parcio wrth gasglu’r tocynnau:
· £10 y car
Bydd yr unig safle ar gyfer tacsis a gollwng pobl mewn rhan arbennig o’r maes parcio cyhoeddus. Bydd y safle ar gyfer codi pobl yn Cast Technium ym Mharc Menai.

Y wybodaeth ddiweddaraf
www.twitter.com/CyngorGwynedd
www.facebook.com/CyngorGwyneddCouncil

Telerau ac amodau tocynnau Cyngerdd y Fflam Olympaidd

line

Bootcamp Amaeth

gwybodaeth bootcamp

Ydych chi angen cynyddu incwm y fferm? Chwilio am syniadau a chymorth i arallgyfeirio?
Os 'YNDW' yw'r ateb i un o'r rhain, ac eich bod chi'n aelod o deulu fferm, yna mae angen i chi gofrestru ar Bwtcamp Amaeth Gwynedd.

Cyfres o weithdai bywiog fydd yn:
• Tanio syniadau masnachol newydd ar gyfer eich busnes.
• Egluro y cymorth sydd ar gael yng Ngwynedd
• Ymweld â busnesau sydd wedi arallgyfeirio'n lwyddiannus.

Mae Bwtcamp Amaeth Gwynedd yn rhad ac am ddim, ond mae lle i ddeg person yn unig, felly cysylltwch â thîm Galluogi nawr i sicrhau eich lle 01766 514057

Dyddiadau y Bootcamp Amaeth:
3ydd o Fai, 2012- Pant Du, Penygroes 10yb-4yh
8fed o Fai, 2012- Congl Meinciau, Botwnnog + Fferm Crugeran 10yb-4yh
10fed o Fai, 2012- Fferm Cefn Uchaf, Llanbedr 10yb-4yh

line

Darparu cymorth cyntaf : Mai 28, Fflam Olympaidd yn Felin
Mae Ambiwlans Cymru yn gofyn (gan eu bod hwy o dan bwysau) a allai'r cymunedau adnabod pobl hefo cymwysterau cymorth cyntaf oddi fewn i’w cymunedau a fyddai yn fodlon gweithredu ar y diwrnod fel ‘first responders’.

Gofynnwyd i bob cymuned anfon yr enwau yma i Rhiannon Jones rhiannonjones@gwynedd.gov.uk i’w pasio ymlaen i’r Gwasanaeth Ambiwlans. Rhowch gopi o'r ebost i post@felinheli.org os gwelwch yn dda.

line

Ffordd ar Gau
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi rhybudd y bydd y ffordd drwy Felin AR GAU rhwng 5 a 6.30 p.m. ar Mai 28 pan fydd y Fflam Olympaidd yn dod drwy'r pentref.

line

Swyddog Heddlu Cymunedol
Mae gennym swyddog heddlu newydd yn Y Felinheli. Manylion isod. Pob dymuniad da i PCSO Gethin Edwards yn ei swydd newydd yng Nghaernarfon.

Ian Rooksby PCSO 2906
Caernarfon Police Station
07768 555871 / 01286 683689

line

HOLIADUR PARTNERIAETH FELINHELI - ENNILL! £50

Mae pentref Felin yn un o 5 cymuned yng Ngwynedd sydd wedi bod yn llwyddiannus i ymgeisio am grant sylweddol (£100,000) er mwyn datblygu gwasanaethau newydd - ac felly cyn ymgeisio am yr arian mae angen eich barn ar beth sydd ei angen yn y gymuned. Mae'n holl bwysig i'r prosiect greu incwm gan y bydd rhaid i'r gwasanaeth dalu am ei hun ar ol blwyddyn. Nid oes prinder syniadau ac mae cwblhau'r holiadur byr yma yn mynd i siapio ble mae'r prif ddiddordeb. O'r syniadau sydd wedi eu cyflwyno'n barod, mae bws mini cymunedol, cynllun i werthu eitemau ail-law/llysiau lleol er mwyn codi arian i'r gymuned a chreu ynni gwyrdd (solar). Gan mai syniadau bras ydi rhain ar hyn o bryd, hoffem wybod ganddo chi beth sydd ei angen.
Wrth lenwi'r holiadur byddwch yn ein helpu i wneud y dewis iawn. Mae'r holiadur yn ddienw, ond gallwch fod yn y raffl i ennill £50 trwy gwblhau darn olaf yr holiadur . Cwblhewch yr holiadur a'i dychwelyd drwy wasgu'r botwm 'Submit' ar y gwaelod erbyn Mai 18fed. (Dim ond un holiadur i bob person os gwelwch yn dda.)

Dyma'r linc: torrwch a phastiwch i'ch bar cyfeiriad i fynd at yr holiadur : www.mabis.co.uk/survey/felinheli/

line

Bore Coffi
Bore Coffi yn Y Felin Sgwrsio bore Gwener nesaf 10.30 tan 12.
Codi arian i gynnal ein canolfan ar y stryd. Diolch i'r Clwb Arlunio am drefnu.
line

Y Plac

plac Y plac sydd yn coffhau safle hen Gapel Moreia wedi ei greu gan gwmni Inigo Jones
   
plac 2 Ken Brown, Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Peter Simpson o Gyngor Gwynedd a Menter Trefi Taclus a'r Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian wrth y plac.

line

Etholiadau Lleol 2012

Cyhoeddwyd yn swyddogol fod Sian Gwenllian wedi ei hail-ethol fel Cynghorydd Sir dros Y Felinheli.
Nid oedd enw arall wedi ei gyflwyno ac felly ni fydd etholiad ar Mai 3. Etholwyd Cyng Sian Gwenllian yn ddiwrthwynebiad.

O ran y Cyngor Cymuned, etholwyd y canlynol yn ddi-wrthwynebdiad:
Lena Ashley
Patricia J Jones
Kenneth R Brown
Eluned Owen
Sian Gwenllian
Daniel Ll Williams
George H Smith
Gareth Wyn Griffith
Iestyn Th Harris
Hywel V Jones

line

Crynodeb o gofnodion Cyngor Cymuned Y Felinheli ynglyn a chais cynllunio 54 ty ger Y Wern

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i'r cyfarfod yn enwedig i aelodau o'r cyhoedd oedd yn bresennol ar gyfer trafod cais cynllunio i adeiladu 54 o dai, gwaith draenio, mynedfa newydd a thirlunio ar dir ger Drws y Coed, Tan y Maes, Y Felinheli.
Galwodd y Cadeirydd ar y Cyng Daniel Williams i egluro'r cais a gwahoddwyd sylwadau oddiwrth aelodau o'r cyhoedd oedd yn bresennol. Bydd y Cynghorwyr yn cael cyflwyno eu sylwadau wrth drafod y cais ymhellach gan ystyried sylwadau'r cyhoedd pan yn cyflwyno eu pendefyniad.
Eglurodd Cyng Daniel Williams cyn dechrau rhoi sylw i'r cais, bod y tir yma wedi ei glustnodi ar gyfer tai o dan Gynllun Datblygu Lleol.

O'r 54 o dai bydd 12 yn dai fforddiadwy – tai cymdeithasol.
Cyfansoddiad y nifer tai fydd: 10 pedair ystafell wely datgysylltiedig; 9 tair ystafell wely datgysylltiedig; 8 tair ystafell wely datgysylltiedig; 8 tair ystafell wely un talcen; 10 ystafell wely un talcen; 5 dwy ystafell wely un talcen a 4 fflat 2 ystafell wely yn gwneud cyfanswm o 54.

35% yn dai fforddiadwy sef 4 fflat dau ystafell wely, 8 tair ystafell wely un talcen a 7 o dan gynllun rhannu ecwiti. Bydd y 12 ty fforddiadwy yn cydymffurfio a gofynion cymdeithas tai lleol.
Eglurwyd bod côst ty fforddiadwy yn 70% o bris marchnad.
Derbyniwyd sylwadau ysgrifennedig Mr Hywel V. Jones a Mr Carl Mather

Nodwyd bod angen tai 1 llawr ar gyfer yr henoed. Angen pendant am fwy o dai cymunedol.
Bydd edrychiad y datblygiad yn anaddas i'r ardal. Dim darpariaeth ar gyfer tir agored ar y cynllun. Tir yr ysgol – bydd angen cyfyngiadau ar ddefnydd y tir tu allan i oriau'r ysgol.
Derbyniwyd bod aelodau or cyhoedd yn bresennol yn cynrychioli'r pentref ac yn cytuno 100% i ddatgan eu bod yn gwrthwynebu'n gryf y cais i godi 54 o dai ar y safle.
Diolchodd y Cadeirydd am eu presennoldeb a'i hymateb i'r cais ac eglurodd bydd y Cyngor yn trafod y cais ymhellach ac yn ymateb I Gyngor Gwynedd gan gymeryd eu sylwadau i ystyriaeth..

10) Ceisiadau Cynllunio / Planning Applications:

1. Tir Ger/Land Adj. - Drws y Coed, Tan y Maes, Y Felinheli
Codi 54 o dai, gwaith draenio, mynedfa newydd a thirlunio / Erection of 54 dwellings, drainage works, new access and landscaping.

Yn dilyn trafodaeth a sylwebaeth ar ddechrau'r cyfarfod, penderfynwyd
gwrthod y cais yn gryf.

RHESYMAU – cefnogi'r hyn sydd wedi eu cyflwyno gan Mr Hywel V.
Jones and Mr Carl Mather.
Gor-ddatblygiad o'r ardal.
Dim digon o dir agored.
Cymysgedd o dai ddim yn siwtio.
Angen tai 1 llawr ar gyfer pobl oedrannus
Angen llawer iawn mwy o dai cymunedol
Mwy o ystyriaeth yw roi ar ddyluniadau'r tai i wneud yn sicr bod y tai yn ymdoddi i'r ardal a dim fel datblygiad trefol.
Peryglon y ffordd.
Ysgol gerllaw a mynediad i lwybr Cerrig yr Afon.
Ysgol yn llawn – 160 o blant
Dim angen datblygu'r tir yma ar hyn o bryd.
Wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad i'r dyfodol o dan Gynllun Datblygu Lleol.

line

Hwyl Pasg
Llun y Pasg
Cae Seilo 10.30 a.m.
Ras Hwyiaid am 12 pm

line

Safle Moriah

safle moriah safle moriah eto


Mae'r gwaith bron a gorffen. Rydym yn disgwyl am y plac i'w osod ar y slab llechen.

line

Bore Coffi gyda Hywel Williams AS yn y Felin Sgwrsio

Hywel Williams

line

Fersiwn Gymraeg o’r dogfennau gwahoddiad i wneud cais am gyllid Trefi Taclus

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ychydig iawn o alw fu (llai na 5 cais y flwyddyn) gan dros 300 o randdeiliaid a wahoddwyd, i’r ddogfennaeth gael ei chyhoeddi yn ddwyieithog. Fodd bynnag, rwy’n derbyn, wedi ei darparu’n ddwyieithog i Gyngor Sir Gwynedd yn ystod 2011-2012, y dylai’r ddogfennaeth fod wedi bod ar gael yn ddwyieithog i chi ac i unrhyw berson arall fydd yn gwneud cais amdani yn ystod 2012-13.

Mae’r fersiwn Gymraeg o’r dogfennau gwahoddiad i wneud cais am gyllid Trefi Taclus o dan arweiniad y gymuned rownd 2012-13 wedi’i atodi, gan gynnwys y Ffurflen Gais a’r Canllawiau.

GWAHODDIAD I WNEUD CAIS - cliciwch yma

NODIADAU CANLLAW - cliciwch yma

FFURFLEN GAIS - cliciwch yma

line

NEWYDDION mis Mawrth

Gwahoddiad i Ddangosiad: Mae'r cynllun i adeiladu 54 o dai, gan gynnwys 19 o dai fforddiadwy, wedi ei gyflwyno gan Watkin Jones i Gyngor Gwynedd. Mae'r Cyngor Cymuned yn gwahodd pentrefwyr i weld y cynllun yn neuadd yr Ysgol am 8 p.m. nos Fawrth , Mawrth 27. Croeso o bawb.

Cliciwch yma a rhoi rhif y cais sef C12/0144/20/LL am y manylion diweddaraf sydd yn cadarnhau fod 19 nid 12 uned fforddiadwy yn rhan o'r cais. Bydd y cais yn cael ei drafod gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd ar Ebrill 16 pan fyddaf yn bresennol. Mae'r tir yma wedi ei glustnodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Unedol presennol.

Fflam Olympaidd yn Felinheli
Bydd y Fflam yn teithio drwy'r Felinheli am 17.17 ar Mai 28. Ein bwriad yw 'addurno y pentref' gyda bunting, baneri a phosteri. Bydd cyfle i bawb gasglu ar Stryd Bangor i weld y Fflam yn mynd heibio. Bydd Felin Sgwrsio ar agor ar gyfer paneidiau a diodydd oer. Mae nifer o fudiadau'r pentref yn cydweithio ynglyn a'r trefniadau. Mae cais am grant wedi ei gyflwyno gan Cyng Sian Gwenllian ar ran Grwp y Fflam Felinheli i dalu am faneri a bynting newydd fydd wedi yn cel ei ddefnyddio yn ystod Gwyl y Felin ac Eistedddod yr Urdd. Anogir pentrefwyr i wisgo mewn dillad chwaraeon ar y diwrnod os mai dyma eu dymuniad. Bydd un o athletwyr talentog y pentref,Mabli Williams, Bryn y Mor,yn cario'r Fflam ym Mae Colwyn. Pob lwc Mabli!

Safle Capel Moriah : Mae'r gwaith sy'n diwgydd gyda grant Trefi Taclus Llywodraeth Cymru yn tynnu at ei derfyn ar safle'r hen gapel. Bydd y lafant yn cymryd tua blwyddyn i dyfu i lenwi'r siap ton sydd wedi ei chynllunio i ddathlu cysylltiadau morwrol yr hen gapel a'r pentref. Mae cynlluniau ar y gweill i blannu bylbiau yma yn yr hydref gyda help yr ysgol a chlwb iuenctid y pentref. Mwynhewch eistedd ar y fainc yn gwylio'r byd ym mynd heibio!

Holiadur Cymunedau Cynaliadwy: Mae'r Grwp Llywio wedi bod yn brysur yn llunio holiadur sydd i'w ddosbarthu o gwmpas y pentref ym mis Ebrill. Mae hyn yn dilyn cael ein dewis fel un o 5 cymuned drwy Wynedd ar gyfer creu cynllun 'gwyrdd' fydd yn cyllido ei hun i'r dyfodol. Un syniad yw bws cymunedol ond mae nifer o syniadau eraill yn cael eu cynnig hefyd ar sut i ddefnyddio'r £100,000. Rhaid i'r cynllun fydd yn cael ei ddewis ddod o fewn telerau'r grant. (Nid yw maes parcio newydd yn gymwys yn anffodus). Rydym angen GWIRFODDOLWYR i helpu ddosbarthu'r holiaduron yn ystod cyfnod gwyliau'r Pasg. Rhowch wybod i'r Cyng Sian Gwenllian os ellwch chi helpu. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobol y pentref roi barn yn glir am yr hyn y dymunent ei weld.

Ni fyddaf yn Felin Sgwrsio Gwener yma (Mawrth 23) ond byddaf ar gael ar Mawrth 30 yn ystod bore coffi Patran Pat 10.30 - 12.00

line

Gwefan am dai

Dyma wefan all helpu rhai sydd am wybod am gynlluniau prynu tai - cliciwch yma

line

poster

line

Taith y Fflam Olympaidd drwy Felinheli

Bydd yn Fflam yn dod drwy'r pentra am 17.17 ar Mai 28. Y bwriad yw 'addurno'r' pentref gyda bunting, baneri a phosteri. Bydd cyfle i bawb ddod i Stryd Bangor i weld y Fflam yn pasio drwodd. Bydd Felin Sgwrsio ar agor gyda phaneidiau a diodydd. Mae nifer o fudiadau yn y pentref yn cydweithio ar y trefniadau. Mae cais am grant wedi ei gyflwyno gan Cyng Sian Gwenllian ar ran Grwp y Fflam Felinheli i dalu am faneri a bunting newydd fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio yn ystod Eisteddfod yr Urdd a Gwyl Y Felin. Anogir pentrefwyr i wisgo mewn dillad chwaraeon o bob math os dymunir. Mae un o athletwyr ifanc dawnus y pentref, Mabli Williams, Bryn y Mor, wedi ei dewis i gario'r Fflam ym Mae Colwyn ar y diwrnod. Pob lwc Mabli!

Manylion am y daith drwy glicio isod:
Cyngor Gwynedd - cliciwch yma
BBC - cliciwch yma

line

Shelterbox

Dyma lythyr o ddiolch gan Shelterbox am y cyfraniad wnaed o'r casgliad er cof am Esyllt Meleri Vaughan Jones. Gallwch ddilyn hynt a helynt y bocsys. Mae'r manylion yn yr atodiad. - Cliciwch yma am fwy

line

(Saesneg yn unig)

Tidy Towns funding for Community Led Funded Projects 2012-13
The Local Environmental Quality branch of the Welsh Government is inviting bids, under the Tidy Towns initiative from community based organisations seeking funding to improve their local environmental quality.

Please fully read all the documentation attached to ensure your organisation is eligible to apply, your project is suitable and meets the key criteria including the minimum and maximum contract size limit.

Applications must be received by the deadline of 16.00 hours on Friday 13th April 2012 . No late applications will be accepted

Please be aware that in previous years we have received bids for funding far in excess of our budget and we expect this years community led projects bidding round to follow a similar pattern.

INVITATION TO BID - click here

GUIDANCE NOTES - click here

APPLICATION FORM - click here

line

Lafant i ddathlu ein treftadaeth

gweithio gweithio 2

 

Mae safle hen gapel yn y Felinheli wrthi’n cael ei weddnewid gan brosiect i wella amgylchedd y pentref.
Diolch i hwb ariannol gan gynllun tirlunio Trefi Taclus Gwynedd – a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru – mae llecyn ac iddo thema forwrol wedi ei greu yng nghanol y pentref.
Yn ogystal â lleoedd i eistedd, mae’n cynnwys carreg goffa i nodi safle hen gapel Moriah (1862 – 1987), a oedd yn adnabyddus yn lleol fel man addoli i forwyr a oedd yn gweithio yn y diwydiant allforio llechi. Bydd y llethr sydd gyferbyn â’r Swyddfa Bost yn cynnwys gwely ar siâp ton o blanhigion lafant a gaiff eu tyfu’n lleol i roi lliwiau a pherarogl tymhorol.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch-arweinydd Portffolio’r Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Dw i’n hynod falch fod cynllun Trefi Taclus Gwynedd wedi galluogi’r Cyngor a’i bartneriaid i wella golwg canol y pentref. Trwy weithio mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd, y Cyngor Cymuned ac arbenigwr tirwedd lleol, mae’r Clwb Garddio wedi datblygu prosiect arloesol iawn, a ddylai ennyn diddordeb a gweithgaredd lleol am flynyddoedd i ddod.”
Meddai’r aelod dros y Felinheli ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Sian Gwenllian: “Mae wedi bod yn bleser gweld y prosiect llawn dychymyg yma’n datblygu o’r syniad gwreiddiol a bellach yn cael ei wireddu. Mi fydd o’n goffadwriaeth teilwng i’r capel a safai unwaith ar y safle ac mi fydd yn tynnu sylw hefyd at dreftadaeth forwrol a diwydiannol y Felinheli a gwella ardal yr oedd angen ei gwella. Hoffwn longyfarch pawb am eu hymdrechion wrth gydweithio i gyrraedd y nod.”
Ychwanegodd Ken Brown, Cadeirydd Cyngor Cymuned y Felinheli: “Dechreuodd y syniad yn y Clwb Garddio ac ers hynny mae’r Cyngor Cymuned, Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd Sian Gwenllian wedi gweithio efo’i gilydd i wireddu’r prosiect. Diolch i’r fenter Trefi Taclus am y grant a diolch am waith caled pawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect.”
Mae’r grant Trefi Taclus wedi bod yn bosibl trwy ariannu gan raglen wella amgylcheddol Llywodraeth Cymru, ac mae Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth â Chadw Cymru’n Daclus.
Am fwy o wybodaeth am gynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd, cysylltwch â TrefiTaclus@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01766 771000.

line

Neuadd Goffa

Ffurflen Llogi y Neuadd Goffa - cliciwch yma

line

I weld ein Newyddion i gyd cliciwch yma

 

Ar ein Gwefan

  • Y Pentref

    Cyflwyniad Cyffredinol, Hanes, Busnesau, Taith Rithwir a Map o'r Pentref Mwy…

  • Cyngor Cymuned

    Gwybodaeth am eich Cyngor a Dogfennau i'w lawrlwytho Mwy…

  • Be sy' mlaen

    Digwyddiadau diweddaraf a Mudiadau Lleol Mwy…

Lluniau Diweddaraf

Dyma y lluniau diweddaraf or Albwm

 

Cliciwch yma i weld fwy o luniau