Newyddion > Blog Sian Gwenllian

Blog Sian Gwenllian

Sian Gwenllian yw Cynghorydd Y Felinheli ar Gyngor Gwynedd. Cafodd ei hethol ym Mai 2008 yn enw Plaid Cymru. Hi hefyd yw Cadeirydd y Cyngor Cymuned. Dyma flas ar rai o'r pethau mae hi'n ymwneud a nhw wrth gyflawni'r gwaith yn y pentref ac yn y Cyngor.

Felin Ar Y Blaen - cliciwch yma

Holi Hwn a Holi Llall- Blog Sian Gwenllian- cliciwch yma

 

Annwyl etholwyr Y Felinheli,

Fel cynghorydd dros y Blaid yn Y Felin, rwy'n eich annog i gefnogi Hywel Williams fory. Mae wedi bod yn gefnogol iawn i mi yn fy ngwaith ac wedi cefnogi nifer o ddigwyddiadau a mentrau yn ein cymuned. Mae hefyd wedi helpu nifer o bobol yn y pentref gyda phroblemau tai, budd-daliadau ac yn y blaen.

As Plaid councillor for Felin, I urge you to support Hywel Williams tomorrow. He has been very supportive of my work in the village and has supported numerous events and projects. He has also helped a number of people in the village with housing, benefits and other problems.

Gwnewch yn siwr mai Hywel fydd yn mynd yn ol San Steffan ar ran pobol Arfon drwy fwrw pleidlais fory rhwng 7 y bore a 10 y nos yn yr Ysgol neu Neuadd yr Eglwys. Gadewch mi wybod os hoffech lifft.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Rwyf yn credu fod cymunedau gweldig Gwynedd yn hollol hanfodol i ffyniant y Gymraeg. Mae nhw'n greiddiol i'n hunaniaeth ni fel Cymry. Gwn hefyd fod y cymunedau yma dan fygythiad wrth i bobol ifanc adael i chwilio am waith.
Dyna pam y credaf fod rhaid i ni newid : newid er mwyn diogelu yr hyn sydd yn werthfawr i ni. Os y byddwn yn cadw pob ysgol ar agor, yna mi rydan ni'n rhedeg i ffwrdd o'n cyfrifoldeb i ddiogelu cymunedau Gwynedd. Os na wnawn ni rhywbeth positif yn fuan iawn, fe fydd yr ysgolion yn cau eu hunain wrth i rieni symud eu plant i ysgol sydd yn meddu ar ddyfodol gwell yn nhermau niferoedd disgyblion. Fe ddigwyddodd hyn yn Llawr y Betws ger Y Bala. Roedd y rhifau wedi gostwng ac ym Medi 2008, fe symudodd y rhieni eu plant i ysgolion eraill yn yr ardal. Ydy hyn yn deg i blant, rhieni ac athrawon? Ydy hi'n deg gadael i ysgolion gau yn ddi-drefn a di-gynllun? Onid ydy hi'n well i gynllunio a chreu dyfodol mwy sefydlog? Fy mhryder yw y bydd gwneud dim yn golygu y bydd rhieni yn symud eu plant fesul dipyn draw i Dywyn - ac y bydd yr ysgolion gwledig wedi mynd mor fach y bydd yn amhosib eu cynnal.
Dyna pam yr wyf yn cefnogi ad-drefnu yn yr ardal. Dwi meddwl fod na gyfle gwych yma i ddod a 4 ysgol at ei gilydd mewn un ysgol ardal newydd. Gall hyn fod yn hwb sylweddol i'r ardal. Bydd rhieni yn gallu teimlo sicrwydd ynghlych dyfodol addysg eu plant a gall y cymunedau sy'n bwydo'r ysgol elwa yn sgil hyn : dyma arwydd o hyder y Cyngor yn yr ardal. Arwydd ein bod yn malio ac isho gwneud rhywbeth i helpu.
Bydd gan lywodraethwyr yr ysgol newydd ran ganolog wrth drefnu sut i gynnwys y cymunedau fydd yn bwydo'r ysgol ym mywyd yr ysgol. Dwi'n gobeithio y bydd pawb sydd wedi dangos consyrn gwirioneddol yn fodlon helpu efo hyn.
Onid ydy bywyd cymunedol yn un gymysgfa gymhleth o weithgareddau. Dydw i ddim yn credu yn y slogan “Cau ysgol = Lladd cymuned” . Mae llawer mwy i fywyd cymunedol nag ysgol - llawer yn digwydd gyda'r nos, yn y dafarn neu ganolfan gymunedol neu gapel neu eglwys. Strwythur o frics a mortar yw ysgol ble mae plant yn cael eu dysgu rhwng 9 a 3. Yn amlwg, mewn rhai cymunedau mae'r adeilad yma'n ganolbwynt i fywyd y gymuned. Yn yr achosion yma, gall y Cyngor weithio gyda'r cymunedau fel bod y cyfleusterau yn cael eu cynnal gan y gymuned os yw'r elfen o ddysgu plant yn cael ei dynnu oddi yno.
Ond nid dyma'r sefyllfa mewn llawer i gymuned. Mae bywyd cymunedol yn parhau tu hwnt i adeilad yr ysgol a thu hwnt i'w giatiau. Gaf i fod mor hy ag awgrymu fod bywyd y gymuned yr hyn mae'r gymuned ei hun yn ei greu ac yn ddymuno ei chreu? Mae'r holl ddarogan gwae am ddyfodol y cymunedau Cymraeg yn ddinistriol - mae pobol yn dechrau credu nad oes gobaith. Ond mae na obaith - drwy newid a thrwy fod yn hyderus. Ac oni ddylem ni fod yn gweithio'n gadarnhaol yn ein cymunedau i annog gweithgareddau cymunedol newydd os yw hyn yn bwysig i ni?
Rwy'n cydymdeimlo efo'r pryder ynglyn a chludo plant bychain i'r ysgol. Ond rwy'n siwr, wrth i gynlluniau'r ysgol newydd ddwyn ffrwyth y bydd modd trafod yr opsiynau gorau ar gyfer yr ardal. Rwy'n hyderus y gall y Cyngor weithio efo rheini ac athrawon i sefydlu dulliau diogel o gludiant. O ran yr effaith ar yr amgylchedd - mi fydd cau 5 ysgol yn golygu arbed llawer o ynni - llawer mwy na fydd y cludiant ychwanegol yn ei greu.
Rwyf wedi ceisio ateb y pwyntiau sydd wedi cael eu codi gan y rhai sy'n gwrthwynebu'r ad-drefnu yn Dysynni. Fel Cynghorydd Sir, mae gen i ddyletswydd i feddwl am ddyfodol POB un o'n cymunedau ni - a PHOB plentyn yng Ngwynedd. Dim ond un cyllideb sydd gennym ni ac mae'n rhaid iddi gael ei rhannu'n decach ar draws y sir. Rwy'n credu hefyd fod yr ad-drefnu yn cynnig cyfleon newydd a chyffrous i ardaleodd fel Dysynni – cyfleon fydd yn eu helpu i ddiogelu eu dyfodol - rhywbeth sy'n holl- bwysig i ni gyd.

Mewn cyfarfod o'r Cyngor Cymuned cafwyd trafod brwd ar broblem parcio yn Y Felin - rhywbeth sy'n effeithio llawer iawn ohonom. Hyd yma, mae'r Cyngor a minnau wedi bod yn canolbwyntio ar wneud canol y pentref yn le SAFF i gerddwyr a gyrrwyr ceir. Rwan rydym yn ceisio sortio'r problem parcio. Yn amlwg mae angen mwy o lefydd parcio tymor hir - YM MHLE ydy'r cwestiwn pwysig. Mae cau'r maes parcio ger y Feddygfa yn creu mwy o broblem - er fod staff a chleifion a mynychwyr y Capel yn cael defnyddio maes parcio Neuadd yr Eglwys - diolch!

Rwyf wedi gofyn i Gyngor Gwynedd brisio cynllun i greu cilfan parcio newydd o flaen Uwch Menai. Os oes gan unrhyw un ragor o syniadau - dewch a nhw! Dau neu dri o lefydd yma ac acw - dyna fyddai orau. Neu beth am sustem trwyddedau parcio i bobol leol?

Cafodd canol y pentre ei chreu cyn dyddiau ceir. Rwan mae gan lawer o deuluoedd nid un ond dau neu dri car. I'r dyfodol, mae'n debyg y bydd llai o geir o gwmpas wrth i bris petrol gynyddu ac yn sgil polisiau newid hinsawdd. Ond yn y cyfamser, mae parcio yn broblem yn Felin! Be fedrwn ni wneud? Anfonwch eich syniadau i siangwenllian@yahoo.com

Mae’r Cynghorydd Aeron Jones, Llais Gwynedd, wedi codi nyth cacwn am bres gafodd ei roi i Ysgol Syr Hugh gan y Cyngor Sir. Mae’r wasg wedi cam – ddehongli rhai ffeithiau sylfaenol ac wedi defnyddio termau fel “dyled”, “gor-wario”, “ mynd i’r coch” – ANGHYWIR. Dim ffasiwn beth. Fel llywodraethwr yn yr Ysgol, dyma gyflwyno’r gwir ffeithiau :

Mae niferoedd disgyblion Syr Hugh wedi gostwng o 1200 i 900 mewn 3 blynedd - yn rhannol oherwydd tueddiadau ar draws y wlad ( llai o blant wedi eu geni ) OND hefyd pan unodd yr ysgol ar un campws, roedd pryder ar led fod yr ysgol yn rhy FAWR ac fe symudodd rai plant i ysgolion eraill. Erbyn hyn, mae pethau wedi sefydlogi ac fe gafwyd adroddiad Estyn calonogol iawn yn ddiweddar ac mae'r ddelwedd yn cryfhau unwaith eto. Mae pob ysgol yn cael pres yn ôl disgybl y pen. Llai o blant = llai o bres.

Ar ben hyn, mae’r ysgol, fel pob ysgol ac fel pob gwasanaeth llywodraeth leol wedi gorfod gwneud arbedion ariannol  - a’r rheiny wedi eu gorfodi o'r tu allan – yn bennaf am nad ydy llywodraeth San Steffan yn coelio mewn llywodraeth leol. Roedd hyn hefyd yn golygu fod llai o bres yn y gyllideb. Felly, roedd rhaid tocio swyddi a dros 4 blynedd mae 17 swydd wedi diflannu OND dim ond 2 allan o'r 17 oedd yn ddiswyddiadau GORFODOL. Aeth y lleill i ysgolion eraill neu fe fu iddyn nhw ymddeol yn gynnar – ni lanwyd y swyddi oedd yn dod yn wag.

Serch hyn, ni fu  gostyngiad mewn safonau ac roedd un athro i bob 15 disgybl yn yr ysgol.( Medi 2008).

OND, roedd y sefyllfa yn gwaethygu ac fe gamodd y Cyngor Sir i mewn – yn gwbwl ddoeth a phriodol – a chyfrannu £150,000 o gronfa argyfwng ysgolion. Heb yr arian hwn, byddai'r ysgol wedi gorfod wynebu mwy o doriadau - fyddai wedi gostwng safonau - a dim ond drwy ddiswyddo gorfodol y gellid fod wedi gwneud hynny. O roi yr arian, mae’r Sir wedi arbed hyn rhag digwydd, wedi cynnal safonau AC arbed arian i'r Sir ar daliadau diswyddo. Mae gorfod diswyddo’n orfodol yn broses ddrud. Gan fod y niferoedd yn codi eto - mi fyddai angen recriwtio mwy o staff yn y dyfodol agos beth bynnag  - gwiriondeb felly fyddai cael gwared â rhagor o staff yn y tymor byr.

Yn fy marn i roedd y penderfyniad yn un doeth a rhesymol : yn ariannol ac yn addysgol ac fe ddylid parchu proffesiynoldeb y swyddogion fu'n gwneud y penderfyniad. Sgen i mond diolch i Aeron Jones a Llais Gwynedd am godi sgwarnnog di-angen. Diolch i’r wasg am fethu deall y ffeithiau ac am greu niwed i enw da Ysgol Syr Hugh. Does ond gobeithio y daw pawb i ddeall y gwir ffeithiau maes o law.

Adborth? cliciwch yma

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni:

 

  • 02.03.09 SOS Cylch Meithrin (Nursery Group) Y Felinheli ...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - Felin Sgwrio "Officially Open"...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - "Grandad's anger at foul problem" ...cliciwch yma
  • 24.12.08 Parcio Felinheli ...cliciwch yma
  • 06.11.08 - "'Dangerous' bus stop is finally improved"...cliciwch yma
  • 18.09.08 "Something needs to be done at blackspot!"...cliciwch yma
  • 04.09.08 "Owners 'don't plan to house youngsters' in new dwelling"...cliciwch yma
  • 31.07.08 - Felinheli - "Pensioner's reflief at path action pledge"...cliciwch yma
  • 24.07.08 - Bryn Menai - "Council Opposes care home plans"...cliciwch yma
  • 23.01.09 - Felin Sgwrsio - "Agor Melin i Sgwrsio ynddi"...cliciwch yma