Y Pentref > Hanes
O Aberpwll i Felinheli
O Aberpwll i ledled y byd, dyma ychydig am hanes y Felinheli gan Len Williams o'r pentref.
Mae 'na sawl enw wedi bod ar y pentref dros y blynyddoedd. Dechreuodd fel Aberpwll - wedyn y Felinheli, sy'n gysylltiedig efo'r felin a oedd wrth geg afon Heulyn sy'n mynd i'r môr ger y pentref.
"Wedyn, yn sgîl y chwarel lechi, newidiwyd yr enw gan Lord Assheton-Smith i Port Dinorwig gan mai porthladd i chwarel Dinorwig oedd o. Ar ôl i'r chwarel gau yng nghanol y 1870au, newidiwyd yr enw yn ôl i'r Felinheli gan y cyngor plwy.
"Roedd y Felinheli yn borthladd prysur iawn yn y 19eg ganrif. Dwi'n cofio darllen bod dros 400 o longau wedi gadael y porthladd yn ystod un flwyddyn brysur, yn mynd â nwyddau ledled y byd - Awstralia, America, Ffrainc, yr Alban.
"Mi ddaru'r pentref newid ar ôl i'r porthladd gau gan ei fod yn rhoi gwaith i gymaint o bobl. Mi ddaeth yna rai diwydiannau gwahanol i mewn, fel Roberts and Sons, y cwmni cig sy'n dal i fodoli yn ochrau Caernarfon, ond doedd o ddim yr un fath.
Ty Hanner Ffordd tua 1890 - 1900
Hysbyseb i'r Ty Hanner Ffordd tua 1900
Stryd Bangor tua 1906
Cei Mawr tua 1910
Y gwch fferi yn Moel y Don tua 1910
Stryd Bangor tua 1910
Tai Terfyn tua 1910
Y pentref o'r awyr tua 1920
Rhan o'r pentref o Foel y Don tua 1920
Dadorchuddio'r Cloc Coffa 1926
'Vodol House', Stryd Bangor tua 1930
Siop Fecws, Stryd Bangor tua 1930 - yn ddiweddarach newidiwyd i fferyllfa
Stryd Bangor ddiwedd y 1940au
Yn nawr yn 'Llofft Hwyliau' - y llun tua 1950
Cychod y 'Portdinorwic One Design' canol y 1950au
Y pentref o'r 'beach' tua 1955
Cei Mawr a'r tollty 1966
Glan y Mor tua 1969
Stryd Bangor gyda'r hen pont rheilffordd tua 1970
Capel Moriah a'r Ty Capel 1987
Capel Moriah yn cael ei ddymchwal 1987
Fferm Tafarn Grisiau cyn ei dymchwal 1990
Ffordd Caernarfon/Bangor ar gychwyn adeiladu'r ffordd osgoi 1992
Ffordd osgoi (ochr Plas Menai) 1993
Ffordd osgoi with Nant y Garth 1993
Capel Elim, Stryd Bangor 1993
Gorymdaith i fyny Penceunant (ni wyr ddim o'i hanes)
"Mae'r Felinheli ychydig yn wahanol i bentrefi eraill gan fod ganddo Neuadd Goffa a Chloc Coffa - y ddau yn dyddio o 1926 gan fod un garfan eisiau cloc ac un arall eisiau neuadd i gofio'r rhyfel, felly cafwyd y ddau!
"Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y pentref ac rwyf wedi cyhoeddi tri llyfr o hen luniau o'r ardal. Mae'r rhan fwyaf wedi eu gwerthu erbyn hyn ond mae 'na wastad gopïau ar gael yn y llyfrgell neu yn archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon.
"Dechreuodd fy niddordeb pan wnes i roi'r gair allan fy mod yn chwilio am hen luniau o'r ardal ar gyfer arddangosfa ac mi ges i dros 600 - mae'n syndod o ble daethant i gyd! Daeth un ddynes gyda llun mewn ffrâm dan ei braich - tystysgrif o eisteddfod Caernarfon yn 1935 oedd o, pan enillodd y Girl Guides lleol y wobr gyntaf am ddawns werin! Pethau fel 'na sy'n troi i fyny, pethau gwerthfawr iawn i'r gymuned.
"Mae cael arddangosfeydd o'r lluniau yma yn rhoi pleser i bobl, yn enwedig hen bobl - mae'n rhoi hwb iddynt.
"Dwi'n aelod o Gymdeithas Hanes y Felinheli, sy'n cyfarfod bob yn ail ddydd Mawrth yn y mis rhwng Medi ac Ebrill, yn Neuadd yr Eglwys ger y cloc coffa.
"Rydym yn cael siaradwyr neu weithiau yn trefnu arddangosfeydd fel yr un gawsom ni yng Ngŵyl Y Felinheli, 2006."
Yn yr adran yma:
-
Yn yr adran yma o'r wefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol:
- Y Pentref
- Hanes
- Mynd am Dro
- Busnesau
- Pobol y Pentref
- Luniau
- Map


