Popeth am Felin mewn un lle. Dyna sydd yn y wefan yma. Mae Felinheli yn bentre bywiog ar lannau'r Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon. Mae'r wefan yma ar gyfer pobol y pentre ac ar gyfer y rhai sydd am ddysgu mwy amdanom ni....mwy
Dogfennau i'w Lawrlwytho
Cofnodion Cyfarfod Cyngor Cymuned Y Felinheli Rhagfyr 2011
Y Cynghorydd Siân Gwenllian yn sefyll fel ymgeisydd Cyngor Gwynedd eto
Mewn cyfarfod o Gangen Plaid Cymru Y Felinheli yn ddiweddar cafodd Y Cynghorydd Siân Gwenllian ei dewis fel ymgeisydd swyddogol Plaid ar gyfer etholiadau lleol Cyngor Gwynedd sydd i'w cynnal ar Fai 3, 2012.
Mae Siân wedi cynrychioli'r pentref fel Cynghorydd Cyngor Gwynedd ers 2008 ac ers dwy flynedd hi yw Arweinydd Cyllid y Cyngor Sir.
Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones: “Dwi’n edrych ymlaen i barhau i gydweithio â Siân er lles pobl y Felinheli. Mae hi’n gwybod sut i gydweithio’n lleol er lles y pentref a sut i arwain yn ddoeth o fewn y Cyngor Sir. Bydd gwir angen pobl fel Siân yn y Cyngor ar adeg sy’n anodd yn economaidd. Pob lwc iddi yn yr Etholiadau lleol.”
Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams: “Mae Siân yn gynghorydd galluog iawn, yn uchel ei pharch yn lleol, ac mae ei hymrwymiad i’r Felinheli yn gryf ac amlwg. Fel eich Aelod Seneddol cefais fudd mawr o’i chyngor a’i gwybodaeth ar faterion lleol a chenedlaethol. Rwy’n hynod o falch o’i chymeradwyo atoch fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Y Felinheli.”
Yn ôl Cadeirydd Cangen Felinheli, Margaret Tuzuner: "Yn y bedair blynedd diwethaf mae Siân wedi gweithio ' n ddygn ar ran ein trigolion a’r gymuned. Llwyddodd i sicrhau arian tuag at bob math o brosiectau er budd y gymuned. Yn eu mysg gwella'r Neuadd Goffa, creu'r Felin Sgwrsio, ymgyrchoedd baw cwn a chodi sbwriel, creu gwefan i'r pentref a gwella'r Lôn Las a Cherrig yr Afon."
Yn ôl Siân Gwenllian: "Mae hi wedi bod yn fraint cael cynrychioli'r ardal ers pedair blynedd. Mi faswn wrth fy modd yn cael fy ail-ethol ar Fai 3 gan fod llawer mwy o waith i'w wneud. Dwi’n awyddus i sicrhau mwy o dai i bobl ifanc yn y pentref a maes parcio arall. Baswn hefyd yn hoffi gweld ardal Lan y Môr yn cael man-welliannau. Mae digon o gynlluniau a syniadau ar y gweill, a’r cyfan er lles pawb yn Y Felinheli.
Ychwanegodd: “Diolch i bawb am eu cefnogaeth dros y bedair blynedd diwethaf a gobeithio bydd y trigolion lleol yn fy nghefnogi eto drwy fwrw pleidlais i mi ym mis Mai!" meddai Siân Gwenllian.
Bydd lansio Ymgyrch Siân Gwenllian a Chwis Gwyl Ddewi yn digwydd nos Sul, 4 Mawrth, 7.30yh yn Nhafarn y Fic.
Newyddion 02:02:12
1) Codwyd dros £400 i'r Urdd gyda'r Noson Salsa.
2) Llwyddwyd i godi dros £1,500 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2012 a Chyfeillion yr Ysgol yn y noson
gynahliwyd yn yr Hen Lechan er cof am Esyllt. Diolch i bawb fu'n trefnu'r noson.
3) Mewn cyfarfod o Gangen Plaid Cymru Y Felinheli cafodd Sian Gwenllian ei dewis fel ymgeisydd ar gyfer Etholiadau'r Cyngor Sir ym mis Mai.
Dywedodd Sian : "Mae fy mhedair blynedd cyntaf fel cynghorydd Sir bron ar ben felly. Mae hi wedi bod yn fraint cael cynrychioli'r pentref a byddai'n braf cael fy ail-ethol ar Mai 3. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth."
4) Galwch heibio'r Felin Sgwrsio ar fore Gwener rhwng 10.30-12.00 am banad os ydych yn pasio!
Gwefan yn parhau yn boblogaidd.
Diolch am ymweld a ni! Nid chi yw'r unig un!
Ion 2012 = 37,693 hits
Rhag 2011 = 40,957 hits
Tach 2011 = 87,992 hits
Hyd 2011 = 34,231 hits
Cynllun Datblygu Lleol : Y Felinheli
C&D Herald 2/2/12 - Cynllun Datblygu Lleol
Cliciwch ar y llun i weld yr erthygl
Uchod mae erthyglau o’r papurau newydd am y Cynllun Datblygu Lleol allai gael effaith mawr ar natur y pentref i’r dyfodol.
Dyma linc i wefan Cyngor Gwynedd os ydych am wybod mwy: cliciwch yma
Mae’r ddogfen a’r cynigion dynodiadau tir wedi eu trafod ar dri achlysur yn y Cyngor Cymuned ac mae’r map yn Y Felin Sgwrsio yn dangos y syniadau sydd wedi eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd. Mae croeso i unigolion anfon eu sylwadau hefyd erbyn Chwefror 13 . Manylion ar wefan Cyngor Gwynedd.
Crynodeb o bapur sydd wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sian Gwenllian ar y mater
Rhai ffeithiau :
• Mae 72% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
• Tai Haf : Mae tua 12% o dai haf yn y pentref.
• Prisiau tai : Mae prisiau tai yn uchel ac mae pobl ifanc yn cael anhawster cael tŷ.
• Tai i bobl leol : Yr unig angen am dai yn y pentref yw'r angen am dai i bobl leol o bob math. Mewn Arolwg Tai Lleol yn Hydref 2005 roedd 84% o blaid tai fforddiadwy.
• Datblygiadau newydd ar y gweill :1130 o dai sydd yn y ward ( Mai 2006). O fewn ffin datblygu presennol Y Felinheli , mae un datblygiad mawr ar y gweill ger yr ysgol fel rhan o'r Cynllun Unedol ( 52 o dai) ac mae cae arall gerllaw wedi ei glustnodi ar gyfer ei ddatblygu(dros 30 o dai). Mae 7 o dai newydd wedi eu hadeiladu o fewn y ffin yn ddiweddar. Mae 7 o dai unigol (mawr) newydd wrthi’n cael eu codi ar hyn o bryd ac mae o leiaf 45 o ganiatâdau cynllunio yn bodoli yn barod ond heb eu gweithredu. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 141, sy’n golygu y gallai’r pentref dyfu 10% CYN unrhyw Gynllun Datblygu newydd. Mae hyn yn hen ddigon ac yn profi’r angen am statws gwarchodaeth.
• Tai sydd eu hangen : Yr angen yn Y Felinheli yw tai fforddiadwy i bobl ifanc, tai cymdeithasol a thai cymdeithasol llai i bobl oedrannus er mwyn caniatáu iddyn nhw symud o dai rhent cymdeithasol 3 llofft er mwyn eu rhyddhau i deuluoedd ifanc. Beth nad oes angen yw gwneud Y Felinheli yn bentref lloeren i weithwyr y trefi cyfagos. Mae’r Cyngor Cymuned wedi adnabod tair safle fechan ble gellid datblygu stadau ar gyfer pobol leol yn unig a rheini o fewn ffin y pentref. Mae un llecyn wrth stad Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn Y Wern fyddai’n addas ar gyfer tai henoed. Mae llecyn arall ar Ffordd Caernarfon fyddai’n addas fel rhes o dai fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf ac mae llecyn arall ar waelod Pen y Bryn wedi ei adnabod, eto er mwyn ateb angen lleol yn unig.
• Yr amgylchedd naturiol: Mae’r Felinheli wedi ei ffinio gan Y Fenai, stad Y Faenol, a thir amaethyddol. Mae’r Fenai yn meddu statws arbennig. Mae diogelu’r prydferthwch naturiol, y mwynderau arbennig a’r tir amaethyddol gwerthfawr yn ddadl arall dros warchod y pentref. CASGLIADAU Mae angen i’r Cynllun newydd
1) warchod ffin datblygu presennol Y Felinheli
2) warchod y pentref rhag unrhyw ddatblygiad tai newydd oni bai eu bod yn diwallu’r angen lleol mewn safleoedd sydd wedi eu cynnig gan y Cyngor Cymuned oddi fewn y ffin presennol
3) gynnwys rhannau i’w cadw fel safleoedd agored/hamdden neu gyflogaeth fel sydd wedi eu nodi gan y Cyngor Cymuned ar y map
Cynghorydd Sian Gwenllian, Ionawr 2012
Noson Abba er cof am Esyllt
Llwyddwyd i godi dros £1,500 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2012 ac Ysgol Y Felinheli.
Diolch i bawb fu wrthi'n brysur yn trefnu.
Cyrsiau Cymraeg Newydd yn eich ardal - cliciwch yma
Mr & Mrs K. Parry, 1 Bush Road
Mr & Mrs D. Parry, Nashville, Tan y Maes
Mr & Mrs E. Owen. Allandale, Beach Road.
PRIF ENNILLYDD - MR & MRS TWM JONES, 30 Y WERN
Adroddiad Cynghorydd Ionawr 2012 BLWYDDYN NEWYDD DDA I CHI GYD 1)Mae llythyrau yn gofyn am brisiau wedi mynd at ddau gwmni sydd a diddordeb mewn cael cytundeb i wella’r tirlun ar y llethr gwyrdd gyferbyn â Londis. Mae grant wedi ei roi gan Trefi Taclus. Rydym yn awyddus iawn i gael syniadau pobol y pentref a bydd cyfarfod yn cael ei drefnu.
2)Cais Cymunedau Cynaliadwy : mae’r Felin yn un o 5 cymuned sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma. Cyfarfodydd yn cael eu cynnal i symud hwn ymlaen. Byddaf yn ebostio eto efo mwy o fanylion am y cynllun yma.
3) Lon Las: Mae Cyngor Gwynedd eisiau symud ymlaen ym Mawrth 2012 gyda’r gwelliannau i Lonydd Las y pentref. Mae hyn yn cynnwys creu darn newydd o Lon Las newydd ar hen drac y rheilffordd rhwng Allt Dinas a Ffordd Caernarfon. Bydd angen caniatâd cynllunio a bydd cyfle i bobl leisio barn am y datblygiad newydd yma bryd hynny.
4)Mae Pwyllgor yr Urdd wedi trefnu nosweithiau er mwyn codi’r £2,000 sydd yn weddill.Mwy o wybodaeth i ddilyn.
5)Cynllun Tai Drws y Coed ger Tan y Maes. Mae’r tir yn rhan o’r Cynllun Datblygu Unedol ac mi fyddai’n rhaid cynnwys 18 allan o’r 52 fel tai fforddiadwy. Nid yw’r cais wedi ei gyflwyno yn ffurfiol eto a bydd cyfle i bawb weld y cynlluniau a mynegi barn drwy’r broses cynllunio.
6)Llwybr Cyhoeddus Pistyll ger Ffordd Brynffynnon : mae’r gwaith yn unol a’r caniatâd cynllunio.
7)Bun halen top Penceunant : roedd bun yn arfer bod yma ond mae wedi ei symud i leoliad arall ar y stryd ac felly ni fydd un arall ar gael.
8)Kiosk Aberpwll: Dywed BT mai eu cyfrifoldeb nhw yw trwsio’r kiosk ac na ellid ei symud am ei fod mewn ardal gadwraeth. Byddwn yn dal ati efo BT.
9)Cyfyngiadau cyflymder yn Aberpwll ar y ffordd i fewn i’r pentre. Daeth cais am gael unai symud y 30MPH fwy allan o’r pentre neu am arwyddion 40MPH cyn y rhai 30 ac am ddulliau tawelu traffig.
10)Lon Las ger Yr Hen Orsaf (Penningtons): mae preswylwyr yn poeni am ddiffyg rheolaeth ar geir a beiciau ger yr eiddo. Mae llinellau ffordd newydd wedi eu gosod yma.
11)Cynllun Datblygu Lleol Y Felinheli : mae hwn yn cael ei drafod yn Cyngor Cymuned a bydd sylwadau cychwynnol yn cael eu cyflwyno. Mi gysylltaf eto gyda mwy o fanylion.
12)Biniau ailgylchu wedi eu symud o’r Half way ar gais y perchennog. Rydym yn gobeithio cael lleoliad newydd yn y maes parcio ger y Doc.
13)Bum yn yr ysgol yn trafod materion cymunedol a byddaf yn ail-ymweld i gytuno ar gynllun gweithredu.
14)Bum yn Ysgol Syr Hugh hefyd yn trafod fy ngwaith fel cynghorydd.
15)Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n cynnal gweithgareddau cymunedol dros y Nadolig. Cefais gyfle i fwynhau llawer ohonyn nhw.
16)A hefyd, llongyfarchiadau i bawb gafodd wobr am erddi gorau llynedd. Manylion a lluniau ar y wefan yn fuan. www.felinheli.org
ER COF AM ESYLLT Noson Abba yn yr Hen Lechan, Felinheli Nos Sadwrn Ionawr 21.
Noson i ddathlu bywyd ffrind- y "dancing queen go" iawn- ac i godi
arian at achosion oedd yn agos i'w chalon.
Rywun ffansi? Gwisg ffansi, £20 am docyn yn cynnwys bwyd a band byw.
Tocynnau gan Iona, Meleri neu Rhiannon (30 Y Wern)
Cangen Plaid Cymru Y Felinheli
Cyfarfod i ddewis ymgeisydd ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd Mai 2012
Nos Fercher, Ionawr 25 am 8.
Cyfarfod i aelodau yn unig OND croeso i chi ymuno a'r Blaid drwy plaidcymru.org/ymuno .... cewch wedyn fwrw pleidlais dros Arweinydd newydd
ac Ymgeisydd ar gyfer Felin.
Tegeingl
Gofynnwyd i mi roi gwybod i chi am yr Wyl yma sydd yn wych yn ol y rhai fu yno llynedd ( ardal yr Wyddgrug) - cliciwch yma
Beirdd Y Felin !
Dyma ffrwyth gwaith rhai Cylch Cynganeddu Y felinheli sy'n cwrdd yn Felin Sgwrsio bob nos Fawrth. Bu'r sesiwn ola' cyn Nadolig yn canolbwyntio ar drio cyfansoddi englyn ar gyfer cyfnod y Nadolig. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a'r Prifardd KAREN OWEN dimondkaren@hotmail.com .......................... 07766 966124
Gobaith 2011
Daw Herod i'r Fictoria, - am Y Wern,
Bryn Môr a'r marina;
ond o hyd, daw dynion da
â'r Iesu trwy Dafarngrisia'.
Gwil John, Wil Williams a Karen Owen
CYWYDD 'C' AM Y DOLIG
Cracer cŵl yn cracio'r côd,
cweryl, a chlec i Herod;
cwrw cartra', drama drist,
Cwîn y byd, cân y Bwdist;
cawn hosan lond cynhwysion,
coeden aur, codwn ni hon;
cynnau oll ein canhwyllau
cêbl hir, cyn cwblhau
coes twrci wedi'i ffrïo,
carots o dun ers cyn co'...
cnau a Bud yn cnoi'n y bol,
cael wystrys - a colestrol!
Cinio, wisgi a cognac,
carol drist, y Crist, a'r craic.
Noson Salsa
Noson i godi arian tuag at Steddfod yr Urdd eleni. Cynhelir ar Nos Wener, 27 Ionawr yn Neuadd Goffa, y Felinheli am 7.30pm.
Bydd gwersi i ddechreuwyr ond y pwsylais ar gael hwyl tra'n codi arian at achos da.
Felly,os da chi isio trio rwbath newydd, dewch draw!
Mynediad £5
Cymdeithas Heli’r Heulyn
Ionawr 20fed
GERAINT PERCY JONES
“John Eilian: Y Cymro a’r Ford Gron”
Cadeirydd: Grace Roberts
Mae pump o gymunedau Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau i dderbyn cymorth drwy’r prosiect Cymunedau Cynaliadwy er mwyn datblygu mentrau cymunedol a fydd yn sicrhau gwasanaethau a chyfleoedd newydd i drigolion lleol.
Cafwyd 20 o geisiadau gan gymunedau ledled Gwynedd, ac fel rhan o’r broses agored gystadleuol, bydd gwaith ar gynlluniau Dyffryn Ogwen, Y Felinheli, Botwnnog, Penllyn a Dinas Mawddwy yn cychwyn yn ystod Ionawr 2012.
Mae Cymunedau Cynaliadwy yn brosiect arloesol a chyffrous sy’n cael ei ariannu drwy Gynllun Datblygu Gwledig Gwynedd (2007 – 2013) ac yn cael ei chydlynu gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Economaidd Gwynedd.
Dywedodd Gwynedd Watkin, Cadeirydd Is-Grwp Datblygu Gwledig Partneriaeth Economaidd Gwynedd:
“Dyma brosiect arloesol a newydd i’r Bartneriaeth ei gydlynu, ond mae’r ffaith fod cyn nifer o diddordeb wedi bod yn y cymorth sydd ar gael drwy’r prosiect hwn yn profi gwir angen y math hwn o brosiect. Y gobaith yw wrth gwrs y bydd y prosiect hwn yn torri tir newydd yn y maes datblygu iechyd economaidd a safon bywyd yng nghymunedau gwledig y sir.”
Ychwanegodd Sioned Morgan, Swyddog Prosiect Cymunedau Cynaliadwy:
“Bydd y cymunedau hyn yn derbyn cefnogaeth am ddwy flynedd gan elwa o gymorth ymarferol ac ariannol i ddadansoddi sefyllfa bresennol eu cymunedau, yr asedau cymunedol sydd ganddynt a datblygu cynlluniau ar gyfer mentrau cymunedol.
“Nod y cynlluniau hyn fydd galluogi’r cymunedau eu hunain i gynyddu cynaliadwyedd hir dymor eu hardal gan ddatblygu gallu pobl leol i barhau i fyw a gweithio yn yr ardal drwy ddatblygu cynlluniau a allai gynnwys rhannu asedau cymunedol, darganfod dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau neu ddatblygu cyfleoedd gwaith lleol.
“Yr hyn sy’n gyffrous am y cynlluniau wirioneddol gymunedol yma ydi fod y sail ar gyfer llwyddiant yn tarddu yn uniongyrchol o drigolion lleol a’u dyheadau ar gyfer eu hardal – gobeithio hefyd y bydd y cymunedau hyn yn eu tro yn ysbrydoli cymunedau eraill yng Ngwynedd i ddilyn eu hesiampl.”
Mae’r cynlluniau sydd gan y pum gymuned yn amrywio:
Y FELINHELI
Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian, sy’n cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd: “Mae hwn yn amser cyffrous i’r pentref, ac rydym yn ymfalchïo yn ein llwyddiant yn sicrhau’r cymorth ymarferol sydd ar gael drwy’r prosiect ynghyd a’r cyfle i geisio am fuddsoddiad ariannol o tua £100,000 fydd yn ein cynorthwyo ni fel cymuned i wireddu ein syniadau.
“Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar y posibiliadau o gychwyn menter drafnidiaeth cymunedol fydd yn cyfuno agweddau gwahanol; o gludo pobl i’r feddygfa, i glybiau a chymdeithasau o fewn y pentref, cludo bwyd a chynnyrch lleol i drigolion y pentref ynghyd a sicrhau fod y cerbyd yn rhedeg ar danwydd gwyrdd.”
DYFFRYN OGWEN
Dywedodd Morfudd Roberts, Clerc Cyngor Cymuned Llanllechid ar ran Partneriaeth Ogwen: “Dyma gyfnod cyffrous i ardal Dyffryn Ogwen, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau cymorth ymarferol drwy prosiect Cymunedau Cynaliadwy, yn ogystal a’r cyfle i geisio am fuddsoddiad ariannol er mwyn ein helpu i wireddu ein syniadau ar gyfer y gymuned.
“Yn y lle cyntaf, bydd gwaith yn digwydd i edrych i gydweithio gyda’r heddlu a’r undeb credyd er mwyn sicrhau presenoldeb yr heddlu a banc yn ôl i stryd fawr Bethesda.”
BOTWNNOG
Un syniad sydd wedi'i adnabod yn ardal Botwnnog yw'r posibilrwydd o ddatblygu rhan o adeilad fel adnodd i brosesu a gwerthu bwyd - creu cegin bwrpasol gydag adnoddau pwrpasol fel adnodd a fydd yn cynnig cyfle i ddatblygu, cynhyrchu a threialu cynnyrch, gan rannu ymarfer da ac arbenigedd gyda chynhyrchwyr eraill.
“Mae gennym weledigaeth o weld cynnyrch Llyn yn cael ei brosesu a'i werthu mewn lleoliad canolog yma ym Mhen Llyn, a fydd yn ei dro yn ehangu i farchnadoedd eraill,” meddai Meinir Jones, Cydlynydd Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf yr ardal.
“Rydym yn credu y gall cymorth ymarferol ac ariannol drwy’r prosiect Cymunedau Cynaliadwy ein cynorthwyo i wireddu y weledigaeth sydd gennym a chredwn y gall y cynllun yma weithredu fel deorfa ar gyfer ardal Llyn i yrru ymlaen a datblygu syniadau yn y maes prosesu bwyd a chynnyrch lleol.”
PARTNERIAETH PENLLYN
Mae Partneriaeth Penllyn yn awyddus i gydweithio gydag asiantaethau gwirfoddol a chynghori megis Trais yn y Cartref, Age Concern, Gwynedd Ni, Cyngor ar Bopeth, Gwasanaethau Ieuenctid, gwasanaethau ambiwlans a llawer mwy er mwyn gallu sicrhau’r gwasanaeth a chymorth i drigolion yr ardal.
Nododd Alun Price, Cadeirydd Partneriaeth Penllyn: “Ffurfiwyd y Bartneriaeth oherwydd pryder cyffredinol yn yr ardal bod gwasanaethau'n cael eu darparu o bell - neu ddim o gwbl - ac felly ddim yn cyrraedd anghenion y defnyddwyr. Cred Partneriaeth Penllyn bod gwasanaethau'n cael eu darparu orau ar lefel leol hyd y bo'n ymarferol bosib, ac ein bwriad yw gwireddu hyn mewn nifer o feysydd a chyda cynifer o asiantaethau â phosib.”
Bydd y prosiect yn cynorthwyo’r gymuned i sicrhau lleoliad addas ar gyfer sicrhau presenoldeb y gwasanaethau hyn yn yr ardal.
DINAS MAWDDWY
Dywedodd Elwyn Jones, Cadeirydd Grwp Adfywio Dinas Mawddwy y bydd y ddwy flynedd nesaf yn amser cyffrous i Ddinas Mawddwy, ac ychwanegodd Arfon Hughes, Ysgrifennydd y grwp adfywio: “Rydym yn falch iawn ein bod fel cymuned wedi llwyddo i sicrhau cymorth ymarferol ynghyd a’r cyfle i geisio am gymorth ariannol hyd at ryw £100,000 a fydd yn cynorthwyo ardal Dinas Mawddwy i ddatblygu menter gymunedol fydd yn sicrhau incwm sefydlog i’r gymuned.”
Nododd y Cynghorydd John Pughe Roberts sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd: “Mae gennym griw brwdfrydig sydd yn awyddus iawn i sicrhau cynaliadwyedd yr ardal, ynghyd a nifer o syniadau. Bydd cael cymorth drwy’r prosiect i flaenoriaethu a datblygu syniadau sydd am fod yn realistig a hyfyw i’w cyflawni yn sicr o gynyddu capasiti’r gymuned ar gyfer y dyfodol.”
Bydd lansiadau lleol ym mhob un o’r pum cymuned yn cael eu cynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd - edrychwch allan hefyd am ddiweddariad ynghylch prosiectau eich cymuned yn y papurau lleol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, Sioned Morgan ar 01286 679628 neu SionedMorgan@gwynedd.gov.uk
Gŵyl Y Felinheli - Nadolig
FFAIR NADOLIG
Bydd FFAIR yn y Neuadd Goffa ar fore Sadwrn, Rhagfyr 3.
Mae cyfle i fudiadau lleol logi bwrdd/stondin.
Croesi i bawb.
Cysylltwch a Myfanwy ar 07767210825
Côr Meibion Elen ap Robert
Bydd ymarfer o'r côr nos Sul yn yr Eglwys am 8. Fe gofiwch fod y cor yma wedi cael ymateb da iawn yng Nghwyl Y Felin eleni.
Mi fydden nhw'n gweithio ar ddwy gan nadoligaidd ac o bosib yn perfformio rhywle rhywbryd dros y Nadolig!
Croeso cynnes i aelodau newydd. Cysylltwch efo Llion Derbyshire
Cynllun Datblygu Lleol
Neges gan Gyngor Gwynedd :
Datblygu gweledigaeth, amcanion strategol ac opsiynau twf a dosbarthiad - Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Atodaf gopi o lyfryn a holiadur sydd wedi cael ei roi i'r Cynghorau Cymuned,nifer o grwpiau lleol ac unigolion yn holi am eu barn.
Ychydig cyn iddi farw, derbyniwyd neges gan Esyllt Vaughan Jones yn dweud fod trydydd Shelterbox a brynwyd gydag arian a godwyd yn Y Felinheli wedi cyrraedd Colombia. Mae rhif ar bob bocs ac mae mod eu tracio. Mae un arall wedi ei anfon i Haiti ac un i Japan yn dilyn trychinebau yno.
Dyma luniau o focsys yn cael eu dosbarthu yn Colombia - cliciwch yma