Be sy' mlaen > Neuadd Goffa, Y Felinheli
Neuadd Goffa, Y Felinheli
Yng nghefn y stryd fawr, Stryd Bangor mae Neuadd Goffa’r pentref. Y Cyngor Cymuned yw perchennog y neuadd hon tra’r Eglwys sy’n rhedeg Neuadd yr Eglwys sydd ar y brif stryd ger Cofeb y Cloc.
Mae’r Neuadd yn cynnwys Ystafell Gymuned yn y cefn a neuadd fawr sy’n gallu dal oddeutu 400 o bobol. Sefydlwyd Pwyllgor Defnyddwyr ar gyfer y neuadd yn cynnwys cynrychiolwyr y mudiadau sy’n defnyddio’r lle yn gyson sef y Clwb Badminton, Clwb Bowlio, Clwb yr Henoed a’r Clwb Ieuenctid.
Mae’r Neuadd a’r Stafell Gymuned ar gael i’w llogi ar gyfer perfformiadau neu bartion penblwydd drwy gysylltu a Chlerc y Cyngor Cymuned (linc ebost). Codir tal bychan ar fudiadau o tu allan i’r pentref a defnyddwyr preifat.
Ffurflen Llogi y Neuadd Goffa - cliciwch yma
Ffurflen Gais Grwp - Llogi Bloc - cliciwch yma
Aelodau o'r Pwyllgor Rheoli - cliciwch yma
Yn yr adran yma:
-
Yn yr adran yma o'r wefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol:
- Be sy' mlaen
- Mudiadau
- Ieuenctid
- Felin Sgwrsio
- Neuadd Goffa
- Chwaraeon

