Archif Newyddion

Yma mae'r newyddion o fisoedd ynghynt am fywyd y pentref, gan gynnwys newyddion gan y Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian.



Parti llefaru Parti'r Heulyn

Sefydlwyd y parti llefaru pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol yn 2005. Ers hynny mae'r parti wedi cystadlu 4 gwaith gan gynnwys Eisteddfod y Bala o dan arweiniad Sian Mair sydd gyda phrofiad eang o lefaru. Mae Sian yn un o enillwyr Llwyd o'r Bryn.

Mae'r parti wedi bod yn cyfarfod ar ol y Nadolig i baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r sesiynnau ymarfer wedi bod yn cael eu cynnal yng Nghapel Bethania ar nos Lun.

Cysylltwch gyda Nerys John ar 670634

----------------------------------------------

LANSIO FFILM Y FELIN

Bydd Clwb Ffilm newydd, FFILM Y FELIN yn cael ei lawnsio yn y Felin Sgwrsio nos Sul nesaf, Awst 2.

Bydd FFILM Y FELIN yn dangos ffilmiau rhyngwladol unwaith y mis ar nos Sul, a'r ffilm cyntaf gaiff ei ddangos ydi'r ffilm Gaeleg SEACHT( 2008), sydd wedi ennill sawl gwobr o bwys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cyflwynir SEACHT ( The Inaccessible Pinnacle) gan Jonathan Ervine, darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor, sydd hefyd yn aelod o Glwb y Dysgwyr Y Felinheli.

"Mae Seacht yn ffilm sy'n edrych ar hanes cyfoes a mytholegol yr Alban a hynny trwy berthynas taid a'i wyr sy'n byw ar ynys Skye" meddai Jonathan. "Mae'n stori bwerus iawn,a dwi'n meddwl y bydd pobl yn ei mwynhau'n arw."

Darperir Caws a Gwin i bawb ddaw draw ar gyfer y noson agoriadol ac fe fydd cyfle hefyd i bobl ymaelodi a Ffilm y Felin yn ystod y noson.

Bydd y noson yn cychwyn am 7.00. Mwy o fanylion drwy ffonio Cadeirydd Y Felin Sgwrsio, Aled G Job ar 07818 068 205.

------------------------------------

HAF 2009

Bydd llyfrau Cymraeg a Saesneg ail-law ar werth yn Y Felin Sgwrsio drwy'r gwyliau haf. Mae dewis da o bob math o lyfrau - gyda mwy o lyfrau yn cyrraedd wrth i'r rhai sydd yno gael eu gwerthu. Ambell i lyfr prin a bargen ar gael! Dewch a'ch llyfrau draw ( rhaid iddyn nhw fod mewn cyflwr da.) Bydd y ganolfan ar agor DRWY'R HAF ar yr adegau canlynol gyda aelodau'r pwyllgor yn cynnig panad i bawb sy'n galw heibio.

Nos Lun : 7 - 8.30 p.m. (Bydd y grwp sy'n cyfarfod i sgwrsio mewn Sbaeneg yno hefyd).
Mercher 10 - 12
Gwener 10 - 12
Sadwrn 11 - 12.30 (Bydd Clwb y Dysgwyr yn cyfarfod hefyd).

Bydd y gweithgareddau Clwb arferol yn ail-gychwyn yn Medi - gyda'r Clwb Ieuenctid yn cyfarfod pob nos Fawrth hefyd. Mae'r lle ar gael fel arfer ar nosweithiau Mercher a Iau ac ar adegau eraill - cysylltwch a Sian Gwenllian i logi lle. £5 y sessiwn gyda lle i hyd at 25 o bobol.

Mae digwyddiadau eraill yn cel eu cynllunio at yr hydref - croeso i awgrymiadau.

Rydym wedi cael blwyddyn gyntaf lawn a llwyddiannus - cewch weld be sy wedi bod yn digwydd ar www.felinheli.org.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Adroddiad Cynghorydd

Mehefin/Gorffennaf 2009

  1. Parcio oddi-ar-y-stryd : mae'r Cyngor Cymuned yn cynnal arolwg i ganfod maint y broblem yng nghanol y pentref ac yn trafod be sy'n bosib. Maes y Felin : a wnewch chi nodi fod y mannau parcio ar gyfer tenantiaid yn unig.
  2. Arosfan bws Ffordd Caernarfon : tra'n derbyn nad yw'r trigolion lleol i gyd yn hapus, erbyn hyn mae gennym ni leoliad parhaol ar gyfer arosfan bws yn yr ardal yma. Cafodd y lleoliad yma ei awgrymu gan Gyngor Gwynedd fel y cyfaddawd gorau o dan yr amgylchiadau.
  3. Rwyf wedi bod yn trafod ffyrdd o ddatblygu'r Clwb Ieuenctid gyda'r Arweinydd a gyda swyddogion Gwynedd. O fis Medi ymlaen bydd y Clwb yn defnyddio'r Felin Sgwrsio (7 tan 8) a'r Neuadd Goffa (8 tan 9) ar nosweithiau Mawrth. Pan fydd y gwaith ar y Neuadd wedi ei gwblhau bydd cyfleusterau gwych ar gael. Yn y cyfamser, roedd yr Arweinydd yn teimlo y byddai defnyddio'r ddau le yn creu gwell cyfleon i'r aelodau. Mae prosiect awyr agored i adeiladu bocys adar a llwybr pren yn y goedwig fechan tu cefn i'r Maes Parcio Cymunedol yn cychwyn yn Medi gyda help grant gan FelinDaclus (y grwp amgylcheddol) sydd wedi bod yn gweithio gyda Cadw Cymru'n Daclus a Chyngor Gwynedd ar nifer o brosiectau. Mae'r Clwb ieuenctid ar agor i bobol ifanc y pentref o Blwyddyn 8 ymlaen.
  4. Mae'r FelinDaclus wedi derbyn grant o £1,000 ar gyfer ymchwilio a datblygu prosiect rhandiroedd ar gyfer y pentref. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda Cyngor Gwynedd a Trefi Taclus ac fe fydd cynllun prosiect yn cael ei lunio. Bydd aelodau FelinDaclus yn ymweld ag ardaloedd eraill yn yr hydref i gasglu gwybodaeth.Mae llawer o ddiddordeb yn y syniad. Mae'r tir ger y Lon Las tu ol i Arvonia dan ystyriaeth.
  5. Lon Las : mae pont newydd wedi ei chodi yn Seilo. Cafodd y goeden oedd wedi disgyn ger Tai Hen Stesion ei symud yn brydlon.
  6. Llwybrau : Rwyf wedi gofyn i Gyngor Gwynedd gynnal gwaith cynnal a chadw ar y tri llwybr oddi ar Ffordd Caernarfon.
  7. Mae'r Gang Cymunedol wedi bod yn gweithio yn y pentref eto wythnos diwethaf yn dilyn rhestr waith y bum yn ei thrafod efo nhw.Fe fuon nhw'n torri tyfiant ac yn paentio'r fainc a thrwshio'r wal ger stepiau Cei. Fe fyddan nhw'n ol mis nesaf.
  8. Tai i bobol leol : Mae datblygwr yn ystyried cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygiad cymysg o hyd at 30 o dai newydd ger Y Wern.
  9. Gofynnais i Dwr Cymru ymchwilio i'r broblem dwr sy'n casglu ger eiddo ar Ffordd Caernarfon. Cafodd peipen oedd wedi byrstio oedd yn effeithio'r Lon Las ger Tafarngrisiau ei thrwsio. Mae'r broblem o oglau drwg o'r beipen carthffosiaeth tu ol Arvonia dal yno.
  10. Felin mewn Blodau: bydd y gerddi yn cael eu harchwilio a'u beirniadu dros y bythefnos nesaf a bydd seremoni wobrwyo yn Medi. Diolch i'r Cynghorydd Pat White (07765411475) am drefnu.
  11. Lon Inclein : mae arwyddion newydd yn atal loriau mawr wedi eu gosod gan Gyngor Gwynedd i geisio lleihau'r difrod i waliau ar ddwy ochr y ffordd gul.
  12. Rhyd Y Fenai : rwyf wedi cael cyfarfod safle gyda swyddog o Wynedd. Dwi'n dal yn anhapus ynglyn a'r tir bler o gwmpas y tai.
  13. Diolch o galon i drefnwyr Gwyl Y Felin am achlysur hynod llwyddiannus.Roedd yr adroddiad papur newydd am ddigwyddiadau fu oriau ar ol diwedd swyddogol y carnifal yn gamarweiniol ac anheg. Roeddwn yn dyst i un digwyddiad pan gafodd gwr ifanc ei roi mewn car heddlu ac fe ddefnyddiwyd chwistrell pupur tu mewn i'r car, a digwyddiad arall pan ddechreuodd dau o fechgyn o tu allan i'r pentref ymladd tu allan y toiledau ar Lan Mor. Byddaf yn gweithio efo Pwyllgor yr Wyl a'r heddlu i atal problemau tebyg flwyddyn nesaf ond mae'n bwysig eu cadw mewn cyd-destun.
  14. Baw Cwn - yn parhau i fod yn broblem mewn rhai rhannau ac rwyf yn gweithio efo'r plisman cymunedol i wella petha. Mae rhai yn troseddu yn aml ac fe fydd rhain yn cael eu targedu. Mae rhai o'r llefydd gwaethaf yn cynnwys o gwmpas yr arosfan bws yn Aberpwll, cefn Stryd Bangor, Stryd Bangor ei hun, y Lon Las tu ol Arvonia, y maes parcio cymunedol. Mae'r rhan fwyaf o berchnogion yn gyfrifiol iawn.
  15. Canglwm Siapaneaidd : mae hwn yn broblem mewn rhannau. Mae angen ei chwistrellu'n systematig gan ymgymerwr gyda thrwydded. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Chlerc y Cyngor Cymuned, Wynne Barton ar 01286 673036.
  16. Lansiwyd y cynllun Yma i Helpu yn Felin. Mae modd i berchnogion tai preifat gael help gyda inswleiddio a mesurau arbed ynni.

Cysylltwch a Adrian Roberts yng Nghyngor Gwynedd.

UN BANQUETE DE ESPANOL - GWLEDD O SBAENEG >
Daeth y tymor o sesiynau Sbaeneg presennol yn Y Felin Sgwrsio
i ben nos Lun gyda gwledd o fwydydd Sbaeneg.
Daeth wyth aelod o'r Clwb Hablar Espanol ynghyd i fwynhau'r
bwyd oedd wedi ei baratoi gan Anwen Lyn, Anwen Owen a Dilys Myfanwy.
Bydd y sesiynau gan Mary Pampolini Roberts ar gyfer
dechreuwyr yn ail-gychwyn ym mis Medi. Ond bydd y ddarpariaeth ar
gyfer dysgwyr mwy rhugl sydd am ymarfer eu Sbaeneg yn cario mlaen dros yr haf pob nos Lun y Y Felin Sgwrsio am 7.00.
Am fwy o fanylion cysylltwch ag Aled G Job ar: 07818 068
205.

------------------------------------

Times On- Line 05.06.09

'10 great village fetes

WALES
Climbing the non-greasy pole
Gwyl Y Felinheli, Y Felinheli, Gwynedd, North Wales
Welsh villages hold festivals — or gwyl — with traditional sports. This one involves a lumberjack show on the village green in which a pole is rammed into the ground and locals compete to climb it. Another challenge involves making a chair out of a log as quickly as possible. Festivities, including a 10km fun run and congregational singing on the beach, take place for a week in the run-up to the festival parade on July 5. Free.'

------------------------------------

Ystadegau Felinheli.org

Rydych ymhlith rhai miloedd o bobol ar draws y byd sy'n ymweld a'r wefan hon! Anfonwch eich newyddion, lluniau a digwyddiadau at post@felinheli.org
Dyma'r ystadegau :

Meh/ June 2009 = 29,839 hits
Mai / May 2009 = 27,796 hits
Ebr / April 2009 = 29,487 hits
Maw / March 2009 = 25,385 hits

------------------------------------

O FLAEN DY LYGAID: CYFRINACH OLAF FRIDA

Dydd Mawrth, Gorffennaf 7, BBC Cymru ar S4C, 9pm ac eto nos Sadwrn Gorffennaf 11 a nos Lun Gorffennaf 13 (digidol yn unig

)I’r newyddiadurwr Karen Owen, mae amgylchiadau marwolaeth ei hen-nain yn dipyn o ddirgelwch. Darganfuwyd Frida Williams yn farw yn ei chartref 24 Stryd Menai, Y Felinheli ar fore’r 10fed o Ragfyr 1949 ac er bod marwolaeth naturiol wedi ei gofnodi gan y doctor ar y pryd, nid yw darnau’r jig-so cymhleth hwn yn cwympo i’w lle.

Naw mlynedd yn ôl fe benderfynodd Karen, sy’n gweithio i BBC Cymru ym Mangor, ymchwilio i farwolaeth Frida. Mae O Flaen dy Lygaid: Cyfrinach Olaf Frida (Dydd Mawrth, Gorffennaf 7, BBC Cymru ar S4C) yn dilyn ei thaith emosiynol wrth iddi geisio gwneud synnwyr o symudiadau olaf Frida a’r digwyddiadau o gylch ei marwolaeth.

Mae Karen wedi clywed yr hanes lawer tro am sut y bu i fab Frida, Adrian (taid Karen) ei darganfod ar y bore Sul hwnnw. Er bod ei choban wedi ei rwygo a chleisiau o gylch ei gwddw ni fu ymchwiliad swyddogol gan yr heddlu i’w marwolaeth. Roedd y bwrdd wedi ei osod i ddau a neb wedi cyffwrdd â’r  llestri sy’n awgrymu fod y wraig weddw yn disgwyl cwmni y noson honno.

Yn ystod y rhaglen mae Karen yn galw yn 24 Stryd Menai am y tro cyntaf ac yn gweld yr ystafell wely lle cymerodd Frida ei hanadl olaf. Wrth iddi ymweld â’r bedd, mae ei hamheuon am y dirgelwch yn cryfhau wrth weld y garreg fedd blaen ymysg cerrig addurniadol y cyfnod.

“Pan dwi’n sbïo ar hon y prif beth ella sy’n dod i’r meddwl, yw bod ’na rhyw frys, rhyw awydd i gladdu Frida fan hyn a rhoi diwedd ar y bennod erchyll yn hanes y teulu. Falle fod y gwir wedi ei gladdu yma gyda hi.”

Pan laddwyd Edith Williams o Siliwen, Bangor ym 1967 a hithau’n 84 mlwydd oed fe gafodd dyn lleol, Arthur Phillip Wynne ei gyhuddo o’i llofruddio. Roedd Arthur hefyd yn ffrind i Frida ac roedd i’w weld yn aml yn gwario’i harian yn nhafarndai pentref Felinheli. Yn ystod yr ymchwiliad i farwolaeth Edith, fe wnaed cais gan yr heddlu i godi corff Frida er mwyn gwneud profion fforensig ond fe wrthododd y teulu ar y pryd.

Dengys ymchwil Karen fod Arthur Phillip Wynne wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes ond cafodd ei ryddhau ar ôl treulio 12 mlynedd dan glo. Yn fuan ar ôl cael ei ryddhau ym 1979  fe drawodd eto gan ladd Eirlys Roberts, dynes 23 oed o Landudno. Mae Karen yn penderfynu ymchwilio’n bellach i weld a oedd y dyn yma yn gysylltiedig â marwolaeth Frida.

“Ella mai’r newyddiadurwr ynof i sy’n credu os oes 'na stori i’w deud ei bod hi’n cael ei deud yn iawn ac yn gywir un waith a mae’n osgoi’r holl siarad a’r hel clecs sy’n gallu codi wedyn,” esbonia Karen.

 

------------------------------------

Rhai o ddigwyddiadau diweddar Y Felin Sgwrsio

Roedd noson Body Shop yn boblogaidd iawn a llwyddwyd i godi dros £140 i'r Felin Sgwrsio. Mae'r swyddog diogelwch cymunedol yr heddlu, Mike Davies, yn galw heibio weithiau i'r Sesiwn Clonc a Chyngor ar fore Gwener (10 tan 12) lle mae cyfle i chi drafod materion lleol efo'r Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian a'r Cynghorwyr Cymuned Ken Brown a Pat Jones. Neu jest galwch am banad! Bob bore Sadwrn mae Clwb y Dysgwyr yn helpu dysgwyr i sgwrsio a dod yn fwy rhugl eu Cymraeg. Lluniau isod.

Bydd petha'n tawelu dros gwyliau'r haf ( manylion yn ffenest Felin Sgwrsio) ond bydd y Clybiau yn cyfarfod eto o fis Medi ymlaen.

------------------------------------
Neges gan yr heddlu : pwynt cyswllt-manylion

Er eich gwybodaeth, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ac aelodau o’r cyhoedd gysylltu â’ch Tîm Plismona Cymdogaeth lleol.
Mae gan bob swyddog gardiau cyswllt sy’n cynnwys rhif eu ffôn symudol ynghyd â’u cyfeiriad e-bost.
Mae gennym linell iaith di-frys 0845 607 1001 (Cymraeg) 0845 607 1002 (Saesneg) ar gyfer gwybodaeth gyffredinol. Gallwch ofyn am fanylion cyswllt swyddogion lleol drwy ffonio'r rhifau hyn.
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth ar y wefan: Heddlu Gogledd Cymru / North Wales Police. Bydd map o Ogledd Cymru yn ymddangos ar eich sgrin, cliciwch ar eich ardal a byddwch wedyn yn gallu cael mynediad at wybodaeth sy’n berthnasol i’ch ward chi.
Ar y dudalen hon bydd manylion cyswllt eich Tîm Plismona lleol ynghyd â blaenoriaethau’r ward a dyddiadau/lleoliadau cyfarfodydd cyhoeddus. Gallwch anfon e-bost at unrhyw un o’r Swyddogion yn syth o’r dudalen hon.
Mi fyddwn yn hynod ddiolchgar am ychydig o adborth ynghylch y wybodaeth uchod yn unol â’n “Addewid Plismona”.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y dulliau/opsiynau sydd ar gael i chi gysylltu â’ch Tîm Plismona Cymdogaeth yna gadewch i mi wybod os gwelwch yn dda fel y gallwn ymdrin ag unrhyw faterion sydd heb eu datrys.

Heddlu Ategol
Diogelwch Cymunedol
Pencadlys Rhanbarthol
Maesincla
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BU
tel 01407 724219
mobile 07854 327647


------------------------------------

Grantiau Tai Preifat - cliciwch yma

------------------------------------

Grantiau Celfyddyd mewn Addysg - cliciwch yma

------------------------------------

Gorffennaf 22 a Gorffennaf 23

FFAIR Lyfrau yn Y Felin Sgwrsio 11 tan 6 Llyfrau Cymraeg a Saesneg ail-law.
Galwch heibio efo'rch llyfrau bore Iau, Gwener neu Sadwrn

------------------------------------

BARDDONIAETH BYRLYMUS Y DYSGWYR - 13.06.09

Cafwyd gweithdy barddoni llwyddiannus gyda Chlwb y Dysgwyr yn Y Felin Sgwrsio ddydd Sadwrn dwytha.

Daeth tua hanner dwsin o ddysgwyr ynghyd o dan arweiniad y bardd Ifor ap Glyn i ysgrifennu cerddi yn dathlu ieithoedd lleiafrifol a’u cynefin.

“Ieithoedd lleiafrifol oedd y thema ac fe welson ni fod y criw a ddaeth ynghyd yn meddu ar wybodaeth o sawl iaith gan gynnwys Sbaeneg, Gwyddeleg, Malay, Pwyleg ac “iaith tacsi Cantonese!” meddai Ifor ap Glyn.

“ Criw o “ddysgwyr” a siaradwyr “iaith gyntaf” oedd y criw ond a dweud y gwir roedd pawb yn dysgu wrth ddyfnhau eu hymwybyddiaeth o ieithoedd llai a darganfod eu creadigrwydd eu hunain. Roedd yn bleser cyd-weithio a nhw!”

Cynhaliwyd y sesiwn fel rhan o Celf Eden sydd wedi’i drefnu gan Barc Cenedlaethol Eryri. Hoffai Glwb y Dysgwyr ddiolch i’r Parc am eu cyfraniad ariannol at goffrau’r Clwb.

LLUNIAU: Y dysgwyr wrthi’n brysur yn y sesiwn farddoni yn y Felin Sgwrsio.

Dyma dwy gerdd a gyfansoddwyd yn Y Felin Sgwrsio fore Sadwrn:

Dwr yw iaith

Dwr croyw Euskerra’n
byrlymu fel siampên
o grombil y Pyrrenees,

yn dathlu parhâd yr hil
wrth ddawnsio tua’r aber
yn Donostia

cyn sobri’n San Sebastien
ac yna ymgolli
ym môr mawr y Sbaeneg.

Ond er i’r llanw hallt
lyncu beunydd
geiriau croyw’r mynyddoedd

mae’r Euskerra’n mynnu
ei llwybr tua’r môr;
ac nid yw’r afon wedi sychu byth

-Wyn, Margaret ac Ifor

Salchicha
(gair Sbaeneg am selsig ond hefyd y gair a ddefnyddir i annog rhywun i wenu wrth dynnu llun)

Rhyngom ni ceir môr o eirfa
Pob gair â’i flas ei hun
Fel gwên ar flaen fy nhafod;
“salchicha” wrth dynnu llun

Rhyngot ti a fi mae afon lân
â phont i’w chroesi’n iawn
Wel dyma iaith y nefoedd,
â’n gwydr yn hanner llawn

-Mary a Nora

------------------------------------

Ocsiwn Cylch Meithrin

Llongyfarchiadau mawr i griw'r Cylch Meithrin ar lwyddo i godi tua £6,000 yn yr Ocsiwn Addewidion yn Seiont Manor.

Cwmni'r Body Shop fydd yn cynnal noson yn Y Felin Sgwrsio nos Iau yma ( Mehefin 18) am 7.30p.m. Does dim llawer o docynnau ar ol - ond os bydd digon o ddiddordeb bydd modd cynnal noson arall yn fuan. Tocynnau gan Myfanwy 07870688783.

Cofiwch am Gyfarfod Blynyddol y Clwb Peldroed yn Y Felin Sgwrsio am 7.30 p.m. nos Fercher, Mehefin 17.

Gwyl y Felin - mae gwledd o'n blaenau eto eleni. Rhaglen lawn ar gael yn www.gwylfelin.org a bydd lluniau, canlyniadau ac ati ar gael yn gyson yno drwy'r wythnos. Dewch i lansio Gwyl 09 mewn bore coffi arbennig yn Y Felin Sgwrsio ble bydd arddangosfa o hen Garnifalau'r Felin o ddeg o'r gloch ymlaen ar fore Gwener, Mehefin 26.

Dewch a'ch llyfrau Cymraeg a Saesneg ail-law draw i'r Felin Sgwrsio - Ffair Lyfrau Gorffennaf 22 a 23.

------------------------------------

Ras Rafftiau
Llongyfarchiadau i griw y Cylch Meithrin am gyrraedd Porthaethwy mewn dwy awr - record i'w thorri gan griw y flwyddyn nesaf ! Roedd pawb oedd arni yn rieni o'r Cylch Meithrin neu Meithrin Mwy ac yn cael eu noddi i godi pres i'r Cylch.

Roedd nifer o hogia'r pentref ar Rafft Clwb Rygbi Caernarfon. Ond yn anffodus, daeth y rafft yn ddarnau tua Plas Newydd a bu rhaid troi nol cyn cyrraedd Porthaethwy! Gwell lwc tro nesaf hogia!

------------------------------------

SEIONT NURSERIES

NOSON DDA! CODWYD £160 WRTH WERTHU TICEDI AR GYFER Y NOSON A RAFFL A MI ENNILLODD REBECCA PARRY IS-ALUN FASGED O FLODAU I FYND AFREF GYDA HI.

DIOLCH I BAWB AM GEFNOGI Y CYLCH A DIOLCH YN ARBENNIG I CATHERINE HUMMEL AISTAFF YN GERDDI SEIONT AM EI HAMSER A NOSON MOR DDIFYR.CAWSOM WYBODAETH AR SUT I WNEUD BASGEDI I HONGIAN,A SUT I LENWI POTIAU GYDA GWAHANOL FLODAU A PA LIWIAU SYDD YN GWEDDU GYDA’I GILYDD.MAE’N WERTH MYND DRAW I WELD YR AMRYW O BLANHIOGION SYDD YNA BELLACH.

MAE RHAI PLANHIGION SYDD WEDI CAEL EI TYFU AM Y TRO CYNTAF ERIOED YN SEIONT A BELLACH YN CAEL EI GWERTHU DROS Y BYD.MAE’R CYLCH AR YSGOL YN CASGLU TOCYNNAU A GEWCH YN SEIONT AR OL GWARIO £25 PUNT.

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo

------------------------------------

CHLOE

Mae pawb yn y pentref yn cydymdeimlo'n llwyr gyda Jolene Bunney a Mark Owen ar golli Chloe mewn ffordd mor ofnadwy. Bydd yr ysgol ar gau dydd Llun Mehefin 8 pan fydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Egwlys Santes Fair.

------------------------------------

Moonwalk Llundain 2009

Mae'n siwr fod rhai ohonoch wedi sylwi ar bedair gwallgof o'r Felin yn cerdded ar hyd llwybrau y fro yn ystod yr wythnosau diwethaf .Wel , Rhiannon ,Dwynwen ,Carol a Nia oeddynt yn ymarfer tuag at "Moonwalk " yn Llundain ar Fai 16 .

Roedden nhw a 17 mil o rai eraill yn cerdded 26 milltir drwy brif ddinas Lloegr gan gychwyn am hanner nos o Hyde Park ac yn cael eu noddi i godi arian tuag at Ymchwil Cancr y Fron .
Llwyddodd y bedair i gwblhau'r daith (yr un cwrs a Marathon Llundain )gan enill medal bob un a casglu dros fil o bunnoedd tuag at Ymchwil Cancr y Fron .

Dymunant ddiolch yn fawr iawn i bawb a'u noddodd .

Dyma limerig a anfonwyd iddynt :-

Roedd blisters y genod yn fawr
'Rol cerdded drwy'r nos am saith awr
Ar y Moonwalk yn Llundain
A Rhiannon yn arwain
Roeddent 'nol yn Hyde Park cyn y wawr .

Adroddiad y Cynghorydd SIAN GWENLLIAN ~ Mai 2009

1) Cafodd yr ardal gyfan ei brawychu gan farwolaeth Chloe Bunney, 10 oed o Bendorlan. Byddaf yn cydweithio gyda'r cynghorydd lleol yn Morfa Bychan i gael gwelliannau i'r ffordd.

2) Bryn y Waun. Rwyf yn gohebu gyda Priffyrdd am y sefyllfa parcio.

3) 11 Ffordd Caernarfon. Rwyf yn dal i bwyso am amod i wneud yn siwr mai pobol leol gaiff brynu'r fflatiau yma, am ostwng yr uchder ac am fwy o lefydd parcio. Os na fydd yr asiant yn fodlon, byddaf yn gofyn am i'r cais gael ei glywed yn y Pwyllgor Cynllunio llawn.

4) Pant Erys, Lan y Mor. Yn ol y Cyngor Sir, ymddengys fod y perchennog wedi cymryd tir nad yw'n eiddo iddo. Rwyf wedi gofyn am weithredu i atal unrhyw ddatblygu pellach ac am ymchwiliad i fater perchnogaeth. Nid yw'n glir ai'r Cyngor Sir yntau'r Cynulliad bia'r tir yma.

5) Cornel Gardd Fon. Rwyf wedi gofyn i Priffyrdd ddod a syniadau ymlaen ar sut i wneud y gornel yn fwy diogel gan fod ceir yn gor-yrru mewn ardal brysur.

6) Carchar. Ymddengys fod cais Bluefield wedi ei dynnu nol ac fod swyddogion yr Adran Cyfiawnder yn trafod cais am garchar gyda swyddogion cynllunio.

7) Cafwyd diwrnod o gasglu sbwriel llwyddiannus iawn ar Mai 17.

8) Diolch i'r Cynghorydd Pat White am drefnu achlysur i goffhau D-Day ger Cofeb y Cloc.

Digwyddiadau i ddod:
Gwyl y Felin Mehefin 26 - Gorff 4.
Mehefin 12 : Cylch Meithrin yn Seiont Manor
Mehefin 17 : AGM Clwb Peldroed
Mehefin 18 : Body Shop yn Felin Sgwrsio
Mehefin 26 : arddangosfa hen Garnifalau yn agor yn Y Felin Sgwrsio
Gorff 4 : Cyngor Cymuned yn yr Wyl
Pob nos Lun : sgwrsio Sbaeneg yn Y Felin Sgwrsio
Gorff 14 : Helfa Drysor yr Ysgol
Gorff 22 a 23 : Ffair Lyfrau ( Cymraeg a Saesneg) yn Y Felin Sgwrsio. Dewch a'ch llyfrau ail-law draw dros yr wythnosau nesaf.

CYSTADLEUAETH GARDDIO : OS YDYCH AM GYMERYD RHAN ELENI, CYSYLLTCH A'R CYNGHORYDD PAT WHITE 07765411475

------------------------------------------------------------------------------------

Daeth yr awdures plant Emily Huws draw at blant y Felin Stori ( yn Y Felin Sgwrsio) yn ddiweddar wrth iddyn nhw gychwyn darllen ei haddasiad Cymraeg "Y Dyn Haearn"

cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo.

--------------------------------------------------------

NOSON Y CWIS
Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth i chwech tim gystadlu yng Ngwis blynyddol Cangen Plaid Cymru Y Felinheli. Roedd pump tim o'r pentrefa'r chweched, yn cynnwys Hywel Williams, AS, wedi dod draw o swyddfa'r Blaid yng Nghaernarfon. Yn gosod y cwestiynau eleni oedd Guto, Iwan a Barry - diolch am gwis difyr iawn. Yr ennillwyr oedd Hogia'r Fic ( Dilwyn, Alun, Sgil ac ati) ac fe gawson nhw botel o siampen a'r anrhydedd o osod cwestiynau'r cwis nesaf! Enillwyd y raffl gan Patsi, Alwen ac Aled. Yn ail oedd Tim Aled, trydydd Tim Anemiw, pedwerydd tim Hywel, pumed Triawd MNS ac yn chweched Tim gwan gwan gawn!


DAU DDIGWYDDIAD PWYSIG
Mae hi'n noson brysur yn Felin nos Iau yma ( Mai 21) . Mae Cyfeillion yr Ysgol yn cynnal eu Ffair Miri Mai blynyddol ger yr Ysgol i godi arian. Bydd hwn ymlaen yn syth ar ol yr ysgol tua 3.30 ac yn gorffen ar ol rhyw ddwyawr. Jest digon o amser i gael swper cyn mynd draw i'r Fic am noson sy'n argolei'n un dda iawn. Criw Bwletin, y gem banel ar BBC Radio Cymru, fydd draw yn recordio rhaglen o flaen cynulleidfa fyw. Mae'r noson yn cychwyn am 7.30p.m. ac mae'r cwbwl am ddim. Ymunwch a Gary Slaymaker, Himyrs, Llyr Evans, Rhydian Bowen Phyllips a Dilwyn Morgan mewn noson o hwyl a chwerthin.

NEWYDDION O'R FELIN SGWRSIO
Chwilio am rhywbeth i ddifyrru'r plant dros hanner tymor : dewch draw i'r Felin Sgwrsio fore Gwener, Mai 29 pryd bydd cwis i blant blwyddyn 4,5,6,7 a bore coffi i'r rhieni. O tua unarddeg mlaen.

STONDIN LYFRAU AIL-LAW - galwch heibio unrhyw bryd mae'r Felin ar agor.

FFAIR LYFRAU AIL-LAW : GORFFENNAF 22 a 23

ARDDANGOSFA "Carnifal ers Talwm" o Mehefin 26 ymlaen mewn bore coffi i lansio Gwyl Y Felin ; dewch a'ch lluniau draw i'r Felin Sgwrsio.

BODY SHOP : Nos Iau, Mehefin 18

COFIWCH yn ystod y tymor ysgol : FELIN ERS TALWM ( BORE IAU) ; Felin Stori (NOS IAU am 5.30) a Clonc a Chyngor ( Bore Gwener), Clwb y Dysgwyr (bore Sadwrn). Mae'r Clinig Cyfifiadurol yn cael saib dros yr haf.

MAN DELFRYDOL ar gyfer cyfarfodydd o 25 neu lai ; cyfleusterau te, coffi a sgrin fawr. £5 y sesiwn. Beth am gychwyn Clwb newydd? Clwb Llyfrau, Clwb Gwin, Clwb Celf i blant ....... mae help ar gael i sefydlu clwb newydd .... mae angen 2 neu 3 newydd er mwyn bod yn hunan-gynhaliol.

Digwyddiadau diweddar
: Clwb Cawl; crosio noddedig ; te pnawn i Glwb yr Henoed; Emily Huws yn ymweld a'r Felin Stori; parti hel sbwriel FelinDaclus.

Defnyddwyr rheolaidd : Cyngor Cymuned, Gwyl y Felin, Pwyllgor Eisteddfod, FelinDaclus.
Defnyddwyr achlysurol : Clwb Peldroed, Cymorth Cristnogol, Masnach Deg Felinheli.

DIOLCH AM EICH CEFNOGAETH

Rhai o'r plant ar gychwyn i gasglu sbwriel yn y pentref 17.05.09

Daeth criw mawr o blant ac oedolion at ei gilydd pnawn Sul i gasglu sbwriel yn y pentref. Roedd rhai wedi eu noddi i godi pres i'r Clwb Peldroed. Daeth Lee Oliver o Trefi Taclus draw i roi cyngor i bawb cyn cychwyn. Trefnwyd gan FelinDaclus, grwp amgylcheddol y pentre a cafodd pawb hufen ia a panad a chacenni yn Y Felin Sgwrsio ar ddiwedd pnawn da o waith. Casglwyd tua deuddeg llond bag o sbwriel a defnydd ailgylchu.

 

CLWB FFILM Y FELIN

Bydd Clwb Ffilm newydd yn cychwyn yn Y Felin cyn bo hir! Bydd y FFILM Y FELIN yn cael ei gynnal yn Y Felin Sgwrsio unwaith y mis ar nos Sul am 7.00.

Pwrpas y clwb fydd dangos ffilmiau o wahanol wledydd, ffilmiau " world cinema", a'r syniad ydi bod aelodau'r clwb yn cymryd eu tro i gyflwyno ffilm o'u dewis hwy. Bydd cyfle i ddweud gair neu ddau ar y dechrau am y dewis o ffilm ac mi fydd yna drafodaeth fer am y ffilm ar ei ddiwedd.

Cysylltwch hefo Aled G Job, cadeirydd y Felin Sgwrsio am fwy o fanylion:

07818 068 205; aled.job@btopenwold.com

--------------------------------------------------------

Noson basgedi bloda
Nos Fercher 20fed o Fai 2009 -yn seiont ... cliciwch yma am fwy o wybodaeth

--------------------------------------------------------

Casglu sbwriel pnawn Sul YMA (17/05/09)

Ymunwch a FelinDaclus a'r Clwb Peldroed Ieuenctid i gasglu sbwriel
Dydd Sul am 2 o'r Felin Sgwrsio
Panad a Hufen ia ar y diwedd
Noddwch y plant neu dewch i glirio'r pentref!
Bydd teclynnau arbennig ar gael a gair o gyngor gan Lee o Trefi Taclus.

Y criw fu'n casglu sbwriel ddwy flynedd yn ol.

 

 

 

--------------------------------------------------------

NOSON CWIS

Gwybodaeth Gyffredinol
Tafarn y Fic, Felinheli
Nos Wener, Mai 15ed

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

-------------------------------------------------------

TISIO DYSGU SBAENEG?

Wyt ti ffansi dysgu Sbaeneg? Bydd cwrs newydd ar gyfer pobl sydd isio dysgu Sbaeneg yn cychwyn yn Y Felin Sgwrsio fis nesaf.

Bydd y sesiynau dysgu Sbaeneg yn cael eu cynnal rhwng 7.00 ac 8.00 pob nos Lun yn Y Felin Sgwrsio.

Y tiwtor fydd Mary Pampolini Roberts. Am fwy o fanylion, ffonia Mary ar 01248 671465 neu trwy e-bost: mary_iwan@yahoo.co.uk

-------------------------------------------------------

CYNGANEDDU CYMUNEDOL

Ydach chi ffansi rhoi cynnig ar gynganeddu?! Bydd dosbarth
cynganeddu yn cael ei gynnal yn fuan dan arweiniad Karen Owen, ar nosweithiau Mawrth yn y Felin Sgwrsio.

Os oes gynno chi ddiddordeb, rhowch wybod i Aled G Job,
Cadeirydd Y Felin Sgwrsio ar aled.job@btopenworld.com/ neu ffonio 07818 068205.

-------------------------------------------------------

05.05.09 ~ CROSIO CATH DDU

Fe fydd pedair merch o'r Felinheli yn ceisio crosio dros 400 o sgwariau mewn un bore er mwyn codi arian i'w canolfan gymunedol leol.

Bydd y digwyddiad rhwng 10 a 1 bore Gwener nesaf ( Mai 8) yn Y Felin Sgwrsio, dan lygad barcud Cynghorydd Y Felinheli, Sian Gwenllian.
"Un o aelodau pwyllgor Y Felin Sgwrsio, Dilys Myfanwy, gafodd y syniad yma er mwyn codi pres i'r fenter," meddai Sian.

"Bydd tair arall yn ymuno a mi ac fe fyddwn ni'n crosio cyn gymaint o sgwariau ag fydd yn bsoib mewn tair awr," meddai Dilys Myfanwy.
"Rydym angen 425 o sgwariau fydd wedyn yn cael eu gwnio at ei gilydd i ffurfio Afgan gyda chynllun cath ddu arni. Bydd yn addas ar gyfer rhoi ar gefn cadair neu ar y gwely."

Bydd y cynnyrch gorffenedig yn cael ei rafflo yn ystod Gwyl Y Felin ddechrau Gorffennaf.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i Dilys a'r gwirfoddowlyr eraill am drefnu'r digwyddiad yma fydd yn codi arain i gadw'r ganolfan yn yr hen gaffi ar ei thraed," meddai Sian.

"Croeso i bawb alw heibio am goffi ac i ddangos cefnogaeth fore Gwener nesaf a byddaf ar gael yno fel arfer i drafod unrhyw faterion sydd yn poeni trigolion y pentref," meddai Sian sydd ar gael yn Y Felin Sgwrsio pob bore Gwener.

Mae'r ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer sesiynau anffurfiol i ddysgwyr Cymraeg ( Sadwrn 11 - 12 .30), grwp hanes Felin Ers Talwm ( Iau 10 -12), Clinig Cyfrifiduron ( Mercher 10-12), Y Felin Stori i blant ( Iau 5.30 - 6.30) ac mae ar gael i'w llogi ar gyfer grwpiau o hyd at 25 o bobol. Mae stondin ffeirio llyfrau yn y ganolfan. Bydd noson gan Body Shop yno ar Mehefin 18.

Cysylltwch a'r Cynghorydd Sian Gwenllian ar 07775642202 am fwy o wybodaeth.

Adroddiad Y Cynghorydd SIAN GWENLLIAN ~ Ebrill 2009

1) Bryn y Waun : mae Sat Nav yn anfon cerbydau mawr ar hyd Bryn y Waun a Lon Inclein ac mae difrod wedi ei achosi i waliau. Rwyf wedi bod yn trafod y mater gyda swyddogion o'r Cyngor ac mae'r wal yn cael ei thrwshio. Rwyf hefyd wedi bod yn trafod problemau parcio yn Bryn y Waun a byddaf yn trafod ymhellach gyda swyddogion Gwynedd.

2) Coeden wedi disgyn ger Aberpwll : Mae Cyngor Gwynedd yn pryderu am gyflwr nifer o goed sy'n gwyro dros y ffordd fawr ar ol i un ddisgyn yr wythnos diwethaf. Mae nhw mewn cysylltiad efo'r tirfeddainnwr am y mater.

3) Dwr ar ochr y ffordd ger Glan Menai, Ffordd Caernarfon : mae'r Cyngor yn ymchwilio i hyn.

4) Step tua llan i dy yn Uwch Menai. O'r diwedd, mae'r step wedi cael ei symud gan wneud lle i ddau gar barcio. Mae croeso i chi anfon eich syniadau am gynlluniau bychain i wella parcio yn y rhan yma o'r pentref.

5) Mae'r pafin oedd wedi torri ar Stryd Bangor wedi ei drwshio.

6) Gwaith adeiladu yn Pant Erys, Lan y Mor. Mae'r Cyngor yn monitro'r gwaith.

7) Arosfan bws yn Ffordd Caernarfon : unwaith eto mae gyrrwyr Arriva wedi cael eu hatgoffa fod arosfan bws yma er nad oes arwydd.

8) 11 Ffordd Caernarfon Road : cais cynllunio am 4 o fflatiau. Rwyf wedi bod yn trafod hyn efo'r Swyddog Cynllunio ac rwyf yn pwyso am gymal "angen lleol", llefydd parcio digonol a chyfyngiad uchder.

9) Arogl drwg ar y Lon Las tu cefn i Arvonia. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad a Dwr Cymru ynglyn a'r broblem hon. Mae nhw wedi archwilio'r gorchudd ac nid dyma'r broblem. Mae nhw wedi cynyddu'r cyflenwad cemegol yn y gwaith carthffosiaeth yn Bethel.

10) Rwyf yn parhau a fy ngwaith ar lefel Gwynedd fel aelod o'r Pwyllgor Craffu Datblygu, Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, Panel Ymgynghorol Plant a Phobol Ifanc, Cadeirydd Gweithgor Gwaith Ieuenctid, aelod o'r Gweithgor Sgilau, arweinydd Arfon o grwp cynghorwyr Plaid Cymru.

11) Rwyf yn parhau i ddatblygu'r wefan. Mae'n fwriad cynhyrchu matiau paned i hyrwyddo www.felinheli.org . Cafwyd 29,487 o hits yn Ebrill 2009. Mae fy ngwaith efo'r Felin Sgwrsio a FelinDaclus (grwp amgylcheddol) yn parhau fel mae fy rol fel llywodraethwr ysgol yn Syr Hugh ac Ysgol Felinheli. Rwyf hefyd mewn cysylltiad agos efo'r Plisman lleol Michael Davies.

12) Arolwg llwybrau : mae canlyniadau Arolwg y Cyngor Cymuned i law - diolch arbennig i George, Andy a Nerys am eu help. Byddwn yn dod a'r holl wybodath at ei gilydd ac yn blaenoriaethu'r gwaith.

13) Neuadd Goffa : mae arolwg strwythurol wedi dangos nad oes unrhyw broblemau a bydd y cynlluniau manwl yn cael ei ffurfio. Mae gweddill yr arian wedi ei sicrhau yn sgil cais llwyddiannus i Tir a Mor.

14) Carchar : mae'n ymddangos fod perchenogion i safle yn ceisio cynyddu gwerth y tir cyn ei werthu i'r Weinyddiaeth Cyfiawnder drwy gyflwyno cais am ddefnydd preswyl cymysg. Mae bwrdd prosiect wedi ei sefydlu. Mae'r carchar yn debygol o gael ei redeg gan y llywodraeth yn hytrach na mewn dwylo preifat.

15) Bron Menai : bydd gwrandawiad Arolygydd yn Awst yn sgil apel gan yr ymgeisydd. Mae angen ail-gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau. Manylion llawn gan Idwal Williams, Swyddog Cynllunio yn Penrallt.

16) Bum yn mynychu nifer o weithgareddau codi pres : crosio noddedig yn Felin Sgwrsio ; Twrnament Peldroed yn Seilo ; Waffrica yn y Neuadd.

17) Carnifalau'r gorffennol - cysylltwch os oes gennych unrhyw hen luniau ar gyfer arddangosfa yn Y Felin Sgwrsio ar Mehefin 26.

18) Canolfan Rowen : mae cynlluniau manwl y Ganolfan iechyd newydd ar fin eu cyflwyno.

Digwyddiadau Mai/Mehefin: Manylion llawn ar y tudalen be sy' malen. Anfonwch eich eitemau newyddion a digwyddiadau i mi - ac unrhyw sylwadau ar sut i ddatblygu'r wefan ymhellach i post@felinheli.org

NEWYDD : Gwersi hwylio Clwb hwylio - Mai/Mehefin.
Gwersi Sbaeneg a Gwersi Cynganeddu yn Felin Sgwrsio
Yoga yn y Neuadd

Mai 15: Cwis y Fic
Mai 17 : Casglu Sbwriel
Mai 19 : Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned
Mai 21 : Miri Mai - Ysgol Felinheli - 4 pm
Mai 21 : Cymorth Cristnogol yn Felin Sgwrsio - 2.30 pm
Mai 21 : Radio Cymru yn recordio yn Y Fic
Mai 29 : Bore i'r plant yn Y Felin Sgwrsio
Mai 31 : Ras rafftiau
Mehefin 4 : Etholiad Ewrop
Mehefin 12 : Cylch Meithrin - Ocsiwn Addewidion
Mehefin 18 : Body Shop yn Y Felin Sgwrsio.
Mehefin 26 : Lansio Gwyl y Felin yn Y Felin Sgwrsio
Mehefin 26 - Gorff 4 : Gwyl Y Felin

Cynghorydd / Councillor Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
post@felinheli.org
01248 670866 | 07775642202
Awelfryn, Pen y Bryn, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4YQ

-------------------------------------------------------

28.04.09
Gwersi Yoga


Bydd gwersi yoga ar gyfer pob lefel yn cael eu cynnal yn Ystafell Gymunedol Y Neuadd Goffa bob nos Iau ( o dan y prif Neuadd). Gweler y Calendr Digwyddiadau am y manylion.

-------------------------------------------------------

Ymgyrch Codi Arian Cylch Meithrin Y Felinheli

Dydd Sadwrn 16eg o Fai bydd criw yn mynd i Morrisons Bangor i bacio bagiau. Bydd noson yn Seiont Nurseries ar ol hynny - sut i osod blodau mewn basgedi crog.

Yna, dydd Sul 31ain o Fai bydd gan y Cylch Rafft yn Ras Rafftiau'r Fenai a bydd rhieni yn cael eu noddi. Os ydych am gyfrannu, cysylltwch a Iona neu Siwsan.

Ar Mehefin y 12fed bydd yr Ocsiwn Addewidion yn cael ei chynnal yn Seiont Manor. Mae'r ticedi ar werth am £25 y ticed a bydd catalog o’r addewidion ar gael. Ymholiadau i Sophia Williams ar 07879842738 neu Iona ar 07770 821712.Y noson yn cychwyn am 7 ac yn cynnwys ocsiwn,disco a chinio 3 cwrs. Rhaid gwisgo'n ffurfiol (‘black tie’).

Yn ystod wythnos yr Wyl bydd y Cylch Meithrin yn trefnu'r Helfa Drysor ac ar nos Sadwrn cyntaf yr Wyl, Mehefin 27ain o Fehefin bydd noson yn y babell fawr dan y teitl 'Oes gan Felin dalent?' A Dydd Sadwrn 4ydd Orffennaf-Stondin y Cylch yn y Carnifal. I gloi tymor prysur iawn yr Haf, mae'n debyg bydd Disgo Diwedd Tymor yn y Neuadd ar 18 Gorffennaf.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefogi cyn belled - daliwch ati plis!

-------------------------------------------------------

Pytiau Newyddion.

Bron Menai: mae'r ymgeisydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i wrthod caniatad ar gyfer ty newydd ar y safle yn Rhes Helen. Bydd gwrandawiad gan Arolygydd o'r Cynulliad yn mis Awst.

Gwersi Hwylio: mae 'r Clwb Hwylio yn cynnal cyfres o wersi ar wahanol lefelau ar hyn o bryd. Ewch i wefan felinheli.org/news Ebrill am y manylion. Mwy o newyddion am y pentref ar y wefan.

-------------------------------------------------------
Digwyddiadau:

  1. Noson Agored gan griw Y Felin Stori dydd Iau, Ebrill 30 5.30 tan 7. Bydd yr awdures Emily Huws yn darllen peth o'i gwaith a bydd cyfle i'w holi. Yn y pnawn, bydd yn yr ysgol yn darllen pennod gyntaf "Y Dyn Haearn" sef ei haddasiad o "The Iron Man" gan Ted Hughes - llyfr darllen Y Felin Stori y tymor yma. Gyda'r nos bydd stondin lyfrau plant Cymraeg gan Palas Print a panad a chacan i'r plant. Mynediad £1 wrth y drws.
  2. CWIS ar Mai 15 yn Y Fic gan Gangen Plaid Cymru am 8 o'r gloch. Croeso i bawb.
  3. Casglu Sbwriel Mai 17. Cofiwch noddi plant y Clwb Peldroed.
    Llawer mwy ar y wefan : Calendar Digwyddiadau.

-------------------------------------------------------

Cymraeg on the Move

GWEFAN NEWYDD I DDYSGWYR!

MAE cynnyrch cyffrous newydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg wedi ei lawnsio’r wythnos hon gan gwmni o’r Felinheli.

Cwmni Aliaith sydd wedi creu’r wefan www.CymraegontheMove.co.uk sy’n cynnwys 24 o sgyrsiau anffurfiol byr rhwng Cymry Cymraeg a Dysgwyr ar ystod o bynciau yn ymwneud ȃ bywyd yn y Gymru gyfoes. Gall dysgwyr lawrlwytho’r podcasts a gwrando arnynt ar gyfrifiadur/ gliniadur, Mp3 neu IPod.

“ Dwi’n gwybod bod llawer o ddysgwyr yn bobl brysur iawn, heb amser o bosib i fynd i ddosbarth ffurfiol. Mae’r sgyrsiau hyn wedi eu creu’n bwrpasol ar gyfer y gynulleidfa hon gan bod modd gwrando arnynt wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu bywyd pob dydd” meddai Aled G. Job, o Aliaith.

“Gwrando ar iaith yw’r elfen bwysicaf wrth ddysgu iaith newydd, a gwrando ar sgyrsiau anffurfiol rhwng unigolion ydi’r gwrando gorau oll yn fy marn i.”

Mae pob sgwrs yn para tua 10 munud ac ar ddiwedd pob sgwrs ceir cyfieithiad o rai o’r prif eiriau a ddefnyddiwyd. Os ydi dysgwyr yn mwynhau y sgyrsiau gallant symud ymlaen i dderbyn pecyn aml-gyfryngol Cymraeg on the Move.

Mae’r gyfres gyntaf wedi ei hanelu at ddysgwyr sydd wedi bod wrthi ers tua 2 flynedd. Bydd cyfres arall ar gyfer dysgwyr llai profiadol ar lein erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst

Ewch at www.cymraegonthemove.co.uk i gael mwy o fanylion!

-------------------------------------------------------

Mae cyrsiau hwylio newydd i blant yn cychwyn yn y Clwb Hwylio yn Y Felinheli dydd Sadwrn Ebrill 25. Mae'r manylion i gyd yn yr atodiad isod.

--------------------------------------------------------

21.04.09
Arolwg o Lwybrau cerdded y pentref

Mae'r Cyngor Cymuned yn cynnal arolwg o lwybrau cerdded a chyhoeddus y pentref yn rheolaidd. Y syniad yw casglu gwybodaeth er mwyn gwella'r llwybrau a hynny mewn trefn o flaenoriaeth.

Gobeithio y gallwch ein helpu yn y gwaith. Defnyddiwch y Ffurflen Arolwg wrth fynd am dro i gofnodi'r hyn a welwch a'i hanfon yn ol atoch.

Mway am lwybrau'r Felin drwy glicio yma. Anfonwch fanylion a lluniau o'ch hoff deithiau cerdded yn y pentref.

  • Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen Arolwg llwybrau Cyhoeddus.

--------------------------------------------------------

20.04.09
VERA REES

Daeth y newyddion trist heddiw am farwolaeth un o gymeriadau'r pentref, Vera Rees. Dynes hoffus oedd yn gwisgo'n drawiadol oedd Vera. Fydd Stryd Bangor, Y Fic a'r Gardd Fon ddim run fath hebddi hi. Bydd plant y fro yn cofio amdani yn rhannu da da's o'i handbag di-waelod.

--------------------------------------------------------

Disgo Diwedd Tymor

Cynhaliwyd disgo diwedd tymor i blant yr ysgol gynradd yn y Neuadd Goffa ar ddiwedd tymor y Pasg. Roedd yn elw yn mynd at y Cylch Meithrin. Diolch i Iona Watkin Jones am y lluniau. Cofiwch am yr Ocsiwn Addewidion ar Mehefin 12. Ewch a'ch "addewidion" i'r Caban Clyd yn yr Ysgol neu cysylltwch a Iona neu Siwsan.

(Lluniau i'w gweld ar waelod y dudalen)

--------------------------------------------------------

Mark,Manon a Cara yn ennill teledu

Cynhaliwyd Raffl i godi arian i Gylch Meithrin Y Felinheli gyda theledu fel prif wobr. Yr ennillwyr lwcus oedd Mark, Manon a Cara o Tai Terfyn. Llwyddwyd i godi £602.00 i'r Cylch Meithrin. Diolch i gwmni Watkin Jones am y rhodd ac i bawb am brynu tocyn. Cododd y Disgo Pasg yn y Neuadd Goffa dros £200 drwy werthu creision,diod,siocled, paentio gwynebau,tatoos,a twba lwcus.Cafodd pawb diwb o Smarties wrth adael a gofynnwyd i bawb ddychwelyd y tiwb i'r Cylch gyda copar/arian man ynddo - fydd gobeithio yn dod a mwy o bres i'r Cylch.

(Lluniau i'w gweld ar waelod y dudalen)

--------------------------------------------------------

Bwrlwm y gwanwyn yn Felin

Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd ac mae llu o bethau yn digwydd yn Felin dros y misoedd nesaf gan gyrraedd penllanw efo'r Wyl sy'n dechrau ar Mehefin 26.

EBRILL

  • Bore Gwener nesaf, Ebrill 24, Bore Coffi gan griw Felin Ers Talwm yn Y Felin Sgwrsio rhwng 10 a 12.
  • Nos Sadwrn NESAF, Ebrill 25, Noson Waffrica, Neuadd Goffa Y Felinheli.Dewch i gefnogi'r merched sy'n mynd i ben Kilimajaro i godi arian i Ty Gobaith. Gweler y wefan am y manylion.
  • Sadwrn a Sul, Ebrill 25 a 26, Twrnament Peldroed Ieuenctid yn Seilo. Dewch i gefnogi timau Felin. Diwrnod da i'r teulu cyfan.
  • Bore Mawrth, Ebrill 28, Cawl y Felin yn Y Felin Sgwrsio. Tocynnau gan Dilys Myfanwy.

MAI

  • Mai 8 : Crosio Noddedig yn Y Felin Sgwrsio.
  • Mai 12: Cyfarfod blynyddol y Cyngor Cymuned yn Y Felin Sgwrsio am 7 - trafod ceisiadau gan fudiadau.
  • Mai 14 : Ffair Miri Haf Cyfeillion yr Ysgol
  • Mai 15 : Cwis Plaid Cymru
  • Mai 17 : Dydd Sul, Felin Daclus a Chlwb Peldroed Iau yn casglu sbwriel o gwmpas y pentref. Croeso i bawb. Cychwyn o'r Felin Sgwrsio am 2 a gorffen yno am banad a hufen ia.
  • Mai 19: Cawl y Felin yn Y Felin Sgwrsio.
  • Mai 29: Bore Coffi yn Y Felin Sgwrsio.
  • Mai 31 : Ras Rafftiau lawr y Fenai.

MEHEFIN

  • Mehefin 6 : achlysur wrth gofeb y Cloc gan y British Legion : Coffau'r Normandy Landing. Manylion gan Cyng Pat White.
  • Mehefin 12 : Ocsiwn Addewidion y Cylch Meithrin, Seiont Manor.
  • Mehefin 16 : Cawl y Felin
  • Mehefin 26 : Bore Coffi yn Y Felin Sgwrsio i lansio Gwyl y Felin 2009.

--------------------------------------------------------

Pytiau:

  1. Bydd y Cyngor Cymuned yn trafod grantiau i gymdeithasau lleol yn y cyfarfod blynyddol ar Mai 12. Angen i geisiadau fod i law'r Clerc erbyn Ebrill 30. Wynne Barton, Angorfa, 36 Cae Gwyn, Caernarfon.
  2. Mae'r Cynghorydd Ken Brown yn chwilio am luniau ac eitemau o hen Garnifalau Y Felinehli ar gyfer arddangosfa arbennig. Cysylltwch a Ken ar 01248 670024.
  3. Bore Coffi, Felin Sgwrsio, dydd Gwener nesaf, Ebrill 24 am 10.

--------------------------------------------------------

Beth yw Felin Daclus?

Dyma fanylion am grwp newydd yn Y Felinheli o'r enw Felin Daclus a'r prosiectau i wella amgylchedd/edrychiad y pentre.

Y peth cyntaf i ddigwydd fydd ar Mai 17 ( Dydd Sul) sef Casglu Sbwriel Noddedig ar y cyd efo'r Clwb Peldroed Ieuenctid. Cychwyn 2 o'r gloch o'r Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor a chyfarfod yn ol yno am banad/hufen ia.

Gan fod Lee Oliver o Trefi Taclus yn dod ar Mai 17, bydd cyfle hefyd i drafod rhai o'r syniadau eraill - felly gobeithio y gallwch chi ymuno a ni. Un syniad yw mynd i weld sut mae pentrefi eraill yn trefnu rhan-ddaliadau ( alotments). Yn y cyfamser, efallai y gallwch ein helpu drwy wneud ychydig o ymchwil ar y pwnc? Bydd swyddog o Gyngor Gwynedd yn ymuno a ni hefyd i drafod y syniad o osod bocys adar mewn rhannau o'r pentref ar y cyd a phlant a phobol ifanc.

--------------------------------------------------------

Anrhydeddu cymeriad

Cafodd un o gymeriadau enwocaf pentref Y Felinheli ei anrhydeddu neithiwr mewn cyfarfod terynged arbennig yn y pentref.

Bu'r Cynghorydd WO Jones , 89 oed , yn gwasanaethu am gyfanswm o bron i 60 mlynedd ar Gyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Arfon a Chyngor Cymuned Y Felinheli.

Bu'r hanesydd lleol Len Williams yn siarad am ei fywyd yn y pentref ac fe fu'n amlinellu ei yrfa fel cynghorydd.

"Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd sicrhau ffordd osgoi ar gyfer y pentref," meddai Len. "Trefnodd brotest fawr yn y pentref ac fe arweiniodd yr ymgyrch am ffordd newydd yn y nawdegau."

Dywedodd Cynghorydd presennol Y Felinheli, Sian Gwenllian, sydd hefyd yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Y Felinheli ei bod yn fraint ganddi fod yn y cyfarfod i dalu terynged i WO Jones am ei holl waith diflino dros y pentref. Cyflwynodd englyn wedi ei fframio iddo - gwaith y bardd lleol Lyn Davies ( cyn bennaeth Ysgol Y Felinheli).

Diolchodd WO Jones y pentrefwyr am ddod i'r noson arbennig ac yna bu'n traddodi darlith am yr Afon Fenai. Daeth y noson i ben gyda dangosiad arbennig am "Hen Siopau Y Felinheli" - cyflwyniad digidol mewn llun a sain gan WO Jones a Dennis Roberts.

--------------------------------------------------------


Tair merch a Mynydd yn Affrica

Dyma stori a llun am dair merch leol sy'n codi arian i Ty Gobaith. Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio mewn noson arbennig yn Y Felinheli - Noson Waffrica ar Ebrill 25.

Cliciwch yma i ddarllen y datganiad i'r
wasg.

--------------------------------------------------------

 

Adroddiad y Cynghorydd SIAN GWENLLIAN - Mawrth 2009

Dyma rai o’r materion y bum yn ymwneud â nhw yn ddiweddar:

1. Lon Brynffynnon a Lon Inclein : mae’r ddwy ffordd yma wedi cael eu hail-wynebu. Cefais gyfarfod efo swyddogion o Wynedd am broblemau parcio yn y pentref. Os oes gennych unrhyw syniadau ar sut i wella’r ddarpariaeth – rhowch wybod.

2. Casglu Sbwriel : fe fydd Felin Daclus a’r Clwb Peldroed Iau yn cynnal diwrnod casglu sbwriel noddedig o amgylch y pentref am 2 o’r gloch, Mai 17. Cychwyn o’r Felin Sgwrsio.

3. Rhanddaliadau (Allotments) : mae’r ymchwil wedi dechrau! Gyda help grant gan Trefi taclus, byddwn yn mynd i weld sut mae pentrefi eraill yn rhedeg rhanddaliadau. Os ydych am ymuno, cysylltwch â mi.

4. Arosfan bws Ffordd Caernarfon : er nad oes arwydd ar hyn o bryd, mae gyrrwyr Arriva wedi cael cyfarwyddiadau i stopio gyferbyn a’r gilfan bws i ollwng a chodi teithwyr.

5. Ewch i ymweld â Felinheli.org. Cynhaliwyd cyfarfod i fudiadau ac anogir pawb i anfon defnydd ar gyfer y wefan ataf fi yn rheolaidd.

6. Ynghyd a phennaeth a dirprwy Ysgol Y Felinheli, bum mewn seminar i drafod ad-drefnu addysg cynradd.

7. Mae gwaith y gweithgorau gwasanaethau ieuenctid a sgiliau yn parhau.

8. Bum mewn achlysur yn Gelli Gyffwrdd i agor atyniad newydd yno lle mae cyfle i chi gerdded yn droednoeth drwy fwd, dros gerrig a thrwy ddŵr!

9. Bum yn cadeirio cyfarfod i sefydlu Eisteddfod bentref. Mae Llinos Wynne wedi cytuno i fod yn ysgrifenyddes a Hywel Jones yn drysorydd. Cysylltwch a nhw am fwy o wybodaeth.

10. Plaid Cymru : Stomp efo Geraint Lovgreen : Mai 15. Llion Derbyshire yn trefnu’r beirdd!

11. Felin Sgwrsio : Bore coffi nesaf gan griw Felin Ers Talwm, Ebrill 24, 10 tan 12. Bydd Cawl Cartref yn cael ei weini amser cinio dydd Mawrth, Ebrill 28. Tocynnau gan Dilys Myfanwy.

12. Dyddiadau pwysig eraill i’w cofio : Ebrill 13 : Dydd Llun Pasg Ras Hwyaid Gwyl Y Felin ; Ebrill 25 a 26 : Twrnament Peldroed Iau, Seilo ; Nos Sadwrn, Ebrill 25 : Noson i lansio apêl Kilimanjaro Sarah Riley a Sonia Collis yn y Neuadd Goffa efo Derwyddon Doctor Gonzo ; Ras Bywyd Caernarfon, Mai 10 ; Ocsiwn Addewidion y Cylch Meithrin ( Seiont Manor), Mehefin 12. Manylion yn llawn ar Felinheli.org – Calendr Digwyddiadu

13. Neuadd Goffa : penodwyd swyddogion i’r Pwyllgor Rheoli sy’n trefnu’r Cynllun Gwella sef Iestyn Harris ( Cadeirydd); Daniel Williams ( is-Gadeirydd), Carolyn Pritchard ( ysgrifennydd), Wynne Barton ( Trysorydd).

 

LEARNING WELSH Felinheli style

Mi gafwyd bore coffi llwyddiannus iawn dan ofal CLWB Y DYSGWYR yn y Felin Sgwrsio ddydd Gwener dwytha.

Daeth tua 25 o bobl at ei gilydd, yn ddysgwyr, yn Gymry Cymraeg lleol a rhai o disgyblion Ysgol y Felinheli, i wrando ar y canwr Geraint Lovgreen yn adrodd cerddi ac yn canu rhai o’i hoff ganeuon.

Ar ôl y canu, trodd Geraint yn gwisfeistr gyda chwis ar Gymru. Y ddysgwraig fuddugol oedd Amanda o Bontllyfni (gyda help Alex o ysgol Felin, a Gwenno)  yn ateb 26 allan o 30 cwestiwn yn gywir.  Cyflwynwyd CD newydd Gwyneth Glyn i Amanda fel gwobr iddi. Codwyd £70 tuag at Y Felin Sgwrsio yn ystod y bore.

Mae Clwb y Dysgwyr yn cyfarfod yn Y Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor bob bore Sadwrn yn ystod y tymor ysgol rhwng 11 a 12.30 p.m. Croeso i ddysgwyr sydd am ymarfer eu Cymraeg dros banad.

--------------------------------------------------------

--------------------------------------------------------------------

Atgyfodi'r Eisteddfod Pentref?

Bydd pentrefwyr yn Y Felinheli yn dod ynghyd yr wythnos nesaf i weld a oes modd adfer yr Eisteddfod Bentref.

"Mae llawer o frwdfrydedd yngylch y syniad, " meddai'r Cynghorydd lleol, Sian Gwenllian fydd yn cadeirio'r cyfarfod dydd Mawrth nesaf. (Mawrth 24, Capel Bethania, 7.30 p.m.)

"Roedd yr Eisteddfod yn arfer cael ei chynnal am flynyddoedd lawer ac fel plentyn dwi'n cofio canu o flaen neuadd llawn o bobol! Yn ddiweddar, mae llawer o bobol wedi bod yn trafod cynnal digwyddiad tebyg, er llai, yn y pentref.

"Bydd y cyfarfod yn trafod yr opsiynau gwahanol ac yn gweld a oes diogn o wirfodddolwyr ar gael. Mi glywais yr wythnos diwethaf fod cyfrif banc yn dal i fod yn enw Eisteddfod Y Felinheli a swm o arian ar gael i roi cychwyn ar bethau o'r newydd.

"Yn sicr mae digon o dalent yn y pentref ac mae'r ysgol yn gefnogol iawn i'r syniad."

--------------------------------------------------------

Bananas Y Felinheli

Fe fydd pobol Y Felinheli yn bwyta cymaint ag y gallan nhw o fananas arbennig Dydd Sadwrn, Mawrth 7.
Mae hi’n ail wythnos Masnach Deg y Byd ac mae ymgais i greu record byd o’r nifer o bobl  drwy’r byd yn bwyta bananas Masnach Deg ar yr un pryd.  
Bydd cyfraniad pobol Y Felinheli yn digwydd yn Y Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor am 12.15 dydd Sadwrn. Bydd yno stondinau hefyd.

cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Dafganiad i'r Wasg? Cliciwch yma

---------------------------------------------------------

Ysgol Syr Hugh Owen : Y ffeithiau

"Dros y bedair blynedd diwethaf mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi gorfod colli’r hyn sy’n cyfateb i 17 aelod o’r staff dysgu. Roedd rhaid i’r ysgol a’r bwrdd llywodraethwyr weithredu yn y ffordd yma er mwyn lleihau diffyg cyllideb sylweddol – NID dyled. Mae’r diffygion yma’n rhan o’r realiti caled mewn ysgolion ar draws Gwynedd a thu hwnt wrth iddyn nhw geisio delio efo cyllidebau llai a gostyngiad mewn niferoedd plant ysgol. Er na wnaed cais gan yr ysgol, roedd y swm o £150,000 o Gyngor Gwynedd yn golygu nad oedd angen i Ysgol Syr Hugh Owen wneud rhagor o doriadau yn y flwyddyn ariannol bresennol fyddai wedi arwain at ddirywiad difrifol yn addysg y plant.
Mae angen i’r ysgol dorri un swydd arall yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r sefyllfa yn yr ysgol bellach wedi sefydlogi.

Yn amlwg nid yw’r Cynghorydd Aeron Jones o Llais Gwynedd yn deall sut mae cyllidebau ysgol yn gweithio. Nid yw chwaith, mae’n ymddangos, yn cymryd diddordeb mewn gweithredu’n gyfrifol yn yr amserodd ariannol caled yma,” meddai Cynghorydd  Sian Gwenllian, Llywodraethwr yn Ysgol Syr Hugh Owen.

Adroddiad y Cynghorydd SIAN GWENLLIAN Chwefror 2009

Dyma rai o’r materion y bum yn ymwneud â nhw yn ddiweddar:

  1. Neuadd Goffa: Cafwyd cadarnhad fod Pwyllgor Rheoli'r Neuadd i dderbyn grant o hyd at £213,000 i wella’r Neuadd. Mae angen canfod ychydig mwy o bres er mwyn cyrraedd cyfanswm cost y gwaith o £250,000 cyn cychwyn ar gynllun uchelgeisiol i wella’r Neuadd. Rwy’n hyderus fod modd gwneud hynny.
  2. Carchar: Codais y mater ym Mhwyllgor Craffu Datblygu Cyngor Gwynedd ac fe fydd Bwrdd Prosiect yn cael ei sefydlu i arwain y gwaith. Byddaf yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr fod y budd economaidd mwyaf posib yn dod i’r ardal ac i dawelu pryderon lleol.
  3. Diogelwch y Ffyrdd a Parcio: Mae’r cynllun ar Stryd Bangor dal i fynd yn ei flaen er yn araf. Rwyf wedi ysgrifennu at y Cyngor yn datgan anfodlonrwydd am yr arafwch.
  4. Lan y Mor – cefais ddau gyfarfod gyda swyddogion am y bolardiau peryglus ac mae bwriad dod â chynllun ynghyd i wella’r ardal yn gyffredinol. Bydd ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw newid.
  5. Mae gwaith y rhestr Blitz i ddigwydd drwy’r pentref yn fuan.
  6. Bum yn gweithio gyda chwmni Delwedd yn creu gwefan newydd sbon i’r pentref. Nid yw Felinheli.org wedi ei gorffen eto – ond mae’n fyw ac mae croeso i chi ymweld a hi ac anfon sylwadau.
  7. Arosfan bws Ffordd Caernarfon – Dal dim cytundeb.
  8. Gweithgor Ad-drefnu Addysg Gynradd (Cyngor Gwynedd). Bydd yr adroddiad yn mynd i’r Cyngor llawn ar Ebrill 2 ac mae seminar i bob Cadeirydd Llywodraethwyr , Pennaeth a chynghorydd lleol ar Mawrth 12.Rwyf hefyd yn aelod o’r Gweithgor Sgiliau.
  9. Gweithgor Gwaith Ieuenctid – rwyf yn cadeirio hwn a bum yn ymweld â chlybiau ieuenctid yn yr ardal ac mewn Cynhadledd ar waith ieuenctid gan y Cynulliad yn ddiweddar.
  10. Bron Menai: cefais gyfle i godi’r problemau efo’r Panel Rhiant Corfforaethol.
  11. Cylch Meithrin : bum yn cyfarfod swyddogion sy’n bryderus am y sefyllfa ariannol.
  12. Bum yn cyfarfod dwy o ferched o’r pentref sy’n mynd i godi arian i Tŷ Gobaith drwy ddringo Kilimanjaro.
  13. Bum mewn cyfarfod o Lywodraethwyr Ysgol Y Felinheli ac er fod pryder wedi bod y byddai angen diswyddo staff nid yw hyn yn gorfod digwydd eleni.
  14. Gofynnais i’r swyddog cynllunio am adroddiad ar waith adeiladu Pant Erys, Ffordd y Traeth , Gwylan Uchaf ( ger y llwybr cyhoeddus) ac ar safle hen fodurdy Menai.
  15. Cysylltwyd a mi ynglŷn a phroblem carthffosiaeth yn Pendorlan; am giât anaddas ar y llwybr rhwng Tai Gwelfor a’r Wern ; am gais cynllunio ( Silwair) Tyddyn Perthi ; gan y Boat Shed am arwydd ar Stryd Bangor; am gi peryglus ar Stryd Bangor ; am y rampiau answyddogol ar bont y Marina. Byddaf yn ceisio helpu efo rhain.
  16. Canolfan Iechyd Rowen : cafwyd sicrwydd fod y prosiect yma’n ddiogel er gwaeth toriadau yn y gyllideb.
  17. Pont Aberpwll a top of Stepiau Cei : Mae gweithwyr y Cyngor wedi bod yn tynnu eiddew a llystyfiant marw.

Os ydych isho mwy o wybodaeth neu am drafod neu am helpu – dyma fy manylion cyswllt:

----------------------------------------------------

Dyddiadau i’w nodi :

  1. Mawrth 7 : Masnach Deg Felinheli yn Y Felin Sgwrsio 12.15 – 2.00 p.m.
  2. Mawrth 19 : Gwyn Llewelyn, Cymdeithas Heli’r Heulyn 7.30
  3. Mawrth 24 : Cyfarfod Eisteddfod Bentref , Capel Bethania 7.30
  4. Mawrth 31 : WO Jones, Capel Bethania , 7.30
  5. Ebrill 3 : disgo plant cynradd Neuadd Goffa.
  6. Ebrill 25/26 : Twrnamaint Pêl droed Iau : Seilo
  7. Mai 15 : Ymryson Stompllyd efo Geraint Lovgreen.
  8. Mehefin 12 – Ocsiwn Addewidion y Cylch Meithrin, Seiont Manor.

---------------------------------------------------

23.02.09 - Rhoi gwedd newydd ar fanciau ailgylchu Felinheli

Bydd trigolion y Felinheli yn falch o glywed fod banciau ailgylchu’r pentref wedi eu symud i leoliad cyfleus ac amlwg.

Ers blynyddoedd bellach mae’r banciau wedi bod yn cuddio yn y maes parcio bach yng nghanol y pentref. Ond wrth gydweithio mae Cyngor Gwynedd, Antur Waunfawr a thafarn leol yr Halfway House wedi canfod ateb i’r broblem a fu o ran mynediad.

Mae’r banciau erbyn hyn wedi eu symud i faes parcio tafarn yr Halfway House yn y pentref, sydd yn safle llawer mwy amlwg ar eu cyfer.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian, aelod lleol y Felinheli ar Gyngor Gwynedd:

“Rwy’n hynod falch fod y banciau wedi eu symud i leoliad mor hwylus i drigolion y Felinheli. Gwŷr pawb lle mae’r Halfway House.

“Mae mwy a mwy o drigolion yn awyddus i wneud eu rhan dros yr amgylchedd wrth ailgylchu a chompostio cymaint a phosib o’u gwastraff, ac rydym yn hydreus y bydd y lleoliad newydd yma ar gyfer y banciau ailgylchu yn golygu fod hyd yn oed mwy o drigolion ardal y Felinheli yn gwneud defnydd o’r cyfleuster. Mae modd ailgylchu papur, gwydr a chaniau ar y safle, a bin penodol ar gyfer y bagiau plastig sydd yn cael eu defnyddio gan gymaint o bobl i gario’r deunyddiau.”

Ychwanegodd Steffan Jones, Uwch Reolwr Gwastraff Cyngor Gwynedd:

“Rydan ni’n falch fod tafarn yr Halfway wedi caniatâu rhoi’r biniau yn y maes parcio, nid yn unig y bydd hyn yn tynnu sylw at ffyrdd eraill o ailgylchu, ond hefyd mae’r lleoliad yn gwneud y broses o gasglu’r biniau ailgylchu yn llawer haws. Mae banciau ailgylchu yn ffordd wych a chyfleus o ailgylchu, ac yn gymorth mawr i ni yn ein hymdrechion i gyrraedd targedau ailgylchu heriol sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth y Cynulliad.”

Am fwy o fanylion am unrhyw fanciau ailgylchu neu unrhyw agwedd o’r gwasanaeth, cysylltwch â Desg Gymorth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd ar: (01286) 679872.

Rhoi gwedd newydd ar fanciau ailgylchu Felinheli

 

Newyddion Ionawr 2009

Cymdeithas Heli'r Heulyn - adroddiad cyfarfod Ionawr 2009...cliciwch yma

ADRODDIAD SIAN GWENLLIAN

Dyma'r materion y bum yn ymwneud a nhw yn Ionawr 2009:

1)Anfonais gais i Trefi Taclus ar ran Felin Daclus am arian i sefydlu'r grwp er mwyn cynnal ymgyrchoedd sbwriel a baw cwn, cydweithio efo'r ysgol a'r Clwb Ieuenctid ar brosiectau yn Cerrig yr Afon a tu ol i'r Maes Parcio ger y Lon Las ( gosod bocsys adar etc), ymchwilio i'r syniad o allotments yn Y Felin.

2)Diogewlch y Ffyrdd : bum mewn cysylltiad cyson efo Gareth Roberts ynglyn a marcio Stryd Bangor, ger y Cloc, mynedfa Uwch Menai, mynedfa Stryd Menai a chilfannau Lan y Mor. Mae'r gwaith ar Lan y Mor yn gwella trefn parcio ac yn rhoi 6% o le i barcio anabl.
Mae'r gwaith o roi llinellau melyn rownd y tro a ochr arall y ffordd, ger mynedfa Cwrt Menai ac ar 2 fae yn y maes parcio yn digwydd yn fuan. Bydd 2 le parcio ger Chans yn lle'r llinellau melyn ( camgymeriad yw beth sydd yna rwan). Mae'r gwaith o dynnu'r stydiau o'r ffordd, gosod darn o reiling, gosod polyn arosfan bws ac arwydd, gosod arwyddion cyfyngiadau parcio a 2 arwydd parcio anabl yn y maes parcio i'w wneud.

3)Ail-gylchu - bum yn prysuro'r gwaith o symud ac ail-osod y llefydd ail-gylchu.

4)Lan y Mor - cefais gyfarfod gyda swyddog am y bolardiau perylgus ac mae cyfarfod pellach wedi ei drefnu gyda mwy o swyddogion i drafod cynllun tymor-hir.

5)Lon Brynffynnon - bum yn gohebu efo Meirion Williams am yr angen i wneud gwaith peirianyddol yn ystod y gwaith ail-wynebu ac rwyf wedi sicrhau y bydd speed humps mwy safonol yn cael eu gosod ac na fydd y gwaith yn digwydd pan fod Uned Brynffynnon ar agor.

6)Felin Sgwrsio - bum yn anerch yr agoriad swyddogol ac yn cynnal sesiynau bore Gwener.

7)Y Wern - bum yn trafod cais am speed humps ac mae'r Cyngor Sir am gynnal arolwg.

8) Tai Cyngor - bum yn cadeirio cyfarfod i denantiaid ar ddyfodol y stoc tai cyngor ac yn trafod gyda thenantiaid unigol.

9)Rwyf yn disgwyl gweld y rhestr waith yn sgil y cyfarfod Blitz diweddar.

10)Trafodaeth gychwynnol i'w gynnal ynglyn a chael Eisteddfod Bentref - gofynnwyd i mi gadeirio cyfarfod yn fuan.

11)Bum yn cadeirio cyfarfod i ethol swyddogion newydd i Gwyl Y felin ac yn mynychu dau bwyllgor cychwynnol.

12)Bum yn trafod y wefan gyda Dewledd ac yn sicrhau lluniau, CD's etc ac yn sgwennu testun. Dewledd yn dod i'r cyfarfod nesaf.

13)Arosfan bws Ffordd Caernarfon - bum yn trafod efo'r Cyngor Sir, etholwr lleol a gyda pherchennog safle'r hen fodurdy.

14)Rwyf wedi bod yn brysur gyda chyfarfodydd o'r Gweithfgor Ad-drefnu addysg gynradd sydd bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad.

15)Rwyf wedi sgwennu at Dafydd Williams yn y Cyngor Sir yn holi am gilfan ceir yng nghefn uwch menai, lledu'r pafin ger y ciosg yn Aberpwll, creu pafin ger Bron Menai ac i fyny at yr ysgol a nifer o faterion eraill.



CYMDEITHAS HELI’R HEULYN

Cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd nos Iau, yr 20fed yng nghapel Bethania, gyda noson yng nghwmni Tudur Owen. Dywedodd wrthym fod ganddo ddiddordeb mewn comedi er pan oedd yn blentyn, a bod y diddordeb hwnnw bellach wedi tyfu’n obsesiwn. Roedd i gomedi gôl bendant, a’r gôl honno oedd gwneud i bobl chwerthin, llinyn mesur cymwys i weld a oedd y routine yn gweithio ai peidio. Erbyn hyn mae Tudur yn gweithio’n llawn amser yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn gwneud bywoliaeth o gomedi. Yn Saesneg mae comedi’n ddiwydiant, ond gwahanol yw pethau yng Nghymru.

Soniodd wrthym am amser y rhyfel, pan symudodd adran gomedi’r BBC o Lundain i Fangor. Daeth cannoedd i fyny yma, yn actorion, cerddorion ac ati, pobl fel Tommy Handley ac eraill. Bryd hynny darlledid ITMA a sioeau tebyg yn fyw o Fangor. Dysgodd y cynhyrchydd radio Sam Jones lawer oddi wrthynt, a chychwynnodd y rhaglen Noson Lawen, gyda Charles Williams, Triawd y Coleg, ac eraill.
Wedi i raglenni o’r fath ddod i ben, cymerodd comedi lwybr gwahanol. Yng Nghymru does dim llwyfannau i gomedi, dim circuit proffesiynol, dim clybiau megis Working Men’s Clubs. Hefyd mae dylanwad y capeli wedi gweithio yn erbyn comedi.

Soniodd Tudur wrthym sut y daeth ef i mewn i’r busnes. Tra’r oedd yn cael ei hyfforddi i fod yn rheolwr llawr gyda chwmni teledu yng Nghaernarfon, byddai’n gorfod croesawu’r gynulleidfa a’u cadw’n ddiddig, eu ‘cynhesu’ a’u cael i chwerthin er mwyn cael tynnu lluniau ohonynt. Rhoes hyn hyder iddo i ymgymryd â’r gwaith. Trefnodd ef ac eraill, yn cynnwys Emyr Roberts, cadeirydd y noson, ŵyl gomedi yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 1999. Gofynnwyd i Tudur wneud stand up yno a chafwyd cynulleidfa o gryn 150. Roedd wedi paratoi’n drylwyr a bu’n llwyddiant. Roedd yn brofiad gwych. Ers hynny mae gwneud i bobl chwerthin wedi bod yn obsesiwn ganddo. Enwodd ei ddylanwadau fel Charles Williams a Ryan Davies yn arbennig.

Erbyn hyn mae Tudur yn gweithio llawer yn Saesneg hefyd, mewn llefydd fel Manceinion, Lerpwl, Llundain, Glasgow, Caeredin a Newcastle. Beth amser yn ôl cafodd wahoddiad i’r Comedy Store, neu’r National Theatre of Comedy yn Llundain, lle dechreuodd llawer o’r enwau mawr, megis French & Saunders. Gwnaeth bum munud o set yn y theatr, gyda chryn 400 yn gwrando. Hefyd mae wedi perfformio mewn theatr ym Manceinion sy’n dal 500.

Eleni gwireddodd Tudur freuddwyd, sef perfformio yn y Fringe, Gŵyl Caeredin. Criw o Rydychen a roes fod i’r Fringe yn y lle cyntaf, a bellach dyma Ŵyl Gomedi fwya’r byd. Yr haf diwethaf gofynnodd am venue a thalu amdani ymlaen llaw. Rhaid oedd iddo wneud sioe o awr ar ei ben ei hun, a’r hyn a wnaeth oedd sgrifennu am yr hyn y gŵyr yn dda amdano, ei blentyndod yn Sir Fôn ac ati. Cyfartaledd cynulleidfa yng Nghaeredin yw 12. Rhoddodd bosteri i fyny o gwmpas y lle, a’r noson gyntaf cafodd 6 yn gwrando arno, ond yn y diwedd câi 40.
Rhoddodd Tudur i ni flas trylwyr o’r sioe a roes yng Nghaeredin, a buom ninnau’n chwerthin ei hochr hi! Ond dyw’r jôcs ddim am gael eu cynnwys yma. Digon yw dweud i ni eu mwynhau’n fawr. Os yw darllenwyr y Goriad am gael eu clywed, wel, rhowch wahoddiad i Tudur i’ch annerch! Chewch chi mo’ch siomi.

Diolchodd y cadeirydd, Emyr Roberts, i Tudur Owen am ei sgwrs, i Gapel Bethania am gael cyfarfod yno, i Gyngor Cymuned y Felinheli am ei nawdd, ac i Margaret Tuzuner am drefnu’r baned.
Gwahoddir aelodau’r Gymdeithas i ymuno yng ngwasanaeth y Plygain am 9.30 fore’r Nadolig yng Nghapel Bethania.

Cynhelir y cyfarfod nesaf nos Iau, Ionawr 15fed am 7.30 yng Nghapel Bethania. Y darlithydd fydd Menna Baines, a’i thestun fydd ‘Chwedlau Serch o Dalysarn.’ Y cadeirydd fydd Grace Roberts.

Cymdeithas Heli’r Heulyn

Bydd tymor Cymdeithas Heli’r Heulyn yn cychwyn ar Nos Iau 16eg o Hydref. Yn y cyfarfod cyntaf ceir darlith “Tu ôl i wal Y Faenol” gan Llinos Wynne yn trafod gwneud rhaglen deledu ar aelod o deulu’r Faenol. Yna yn mis Tachwedd cawn noson yng nghwmni Tudur Owen ar nos Iau yr 20fed. Cynhelir y cyfarfodydd yng Nhapel Bethania am 7.30pm . Croeso cynnes i bawb.

 

 

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni:

 

  • 02.03.09 SOS Cylch Meithrin (Nursery Group) Y Felinheli ...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - Felin Sgwrio "Officially Open"...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - "Grandad's anger at foul problem" ...cliciwch yma
  • 24.12.08 Parcio Felinheli ...cliciwch yma
  • 06.11.08 - "'Dangerous' bus stop is finally improved"...cliciwch yma
  • 18.09.08 "Something needs to be done at blackspot!"...cliciwch yma
  • 04.09.08 "Owners 'don't plan to house youngsters' in new dwelling"...cliciwch yma
  • 31.07.08 - Felinheli - "Pensioner's reflief at path action pledge"...cliciwch yma
  • 24.07.08 - Bryn Menai - "Council Opposes care home plans"...cliciwch yma
  • 23.01.09 - Felin Sgwrsio - "Agor Melin i Sgwrsio ynddi"...cliciwch yma