Iaith: Cymraeg | English

Newyddion

Newyddion

Yma mae'r newyddion diweddaraf am fywyd y pentref gan gynnwys newyddion gan y Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian.



 

Prif wobr i nofelydd o'r pentref

Llongyfarchiadau gwresog i Grace Roberts o Gerallt, Y Felinheli ar ei buddugoliaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2010. Dewch i noson o ddathliad ar Awst 26 ( Nos Iau) am 7.30 yng Nghapel Bethania. Croeso i bawb.
Manylion yn y poster
Mwy am y stori cliciwch yma.

Gwyl Lyfrau Haf Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli tan Awst 28

Chwilio am lyfr i'w ddarllen dros yr haf neu lyfr prin i'ch casgliad? Bydd Ffair Lyfrau yn Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli tan Awst 28 pryd bydd llyfrau ail-law ar werth a phryd bydd cyfle i gyfarfod rhai o'n awduron lleol.

Bydd Mari Emlyn yn yr Wyl am 7.30 p.m. Gorff 28, Mary Pampolini Roberts ar Awst 12, Grace Roberts ar Awst 28 a bydd Emily Huws yn cynnal awr stori i'r plant ar Awst 13 am 10.30 a.m.

Yn ystod yr Wyl bydd rhai o arlunwyr oed uwchradd y pentre yn dangos eu gwaith yn Y Felin Sgwrsio a bydd cyfle am banad.

Bydd Y Felin Sgwrsio ar agor fel a ganlyn tan Awst 28 :
Pob Dydd Sadwrn 10.30 tan 12
Pob Nos Lun am 7.30 ( oni bai am Awst 9)
Pob Dydd Mercher 10 a 2.30
Pob Dydd Gwener am 10 gyda Stori i'r Plant am 10.30.
Gwyl Lyfrau Haf Y Felin Sgwrsio

cliciwch am fwy o wybodaeth

--------------------------------------------------------------------------------------

Neges gan Ken Brown, Cadeirydd y Cyngor Cymuned

"Hoffwn ddiolch i drigolion y pentre am rhoi menthyg lluniau hen garnifalau i mi dros yr wyl. Hefyd , fel Cadeirydd y Cyngor Cymuned, hoffwn longyfarch pwyllgor yr wyl am eu gwaith caled unwaith eto yn paratoi gwyl llwyddianus. Diolch yn fawr i bawb."

--------------------------------------------------------------------------------------

Arddangosfa : Lluniau hen Garnifalau : Y Felin Sgwrsio

Lluniau (gwahanol i rhai'r llynedd) i'w gweld yn Y Felin Sgwrsio tan Gorffennaf 17. Diolch i Ken Brown a Len Williams am eu gwaith. Bydd panad ar gael. Diolch i Rhian Williams am y llun arbennig sydd yn y ffenest. Bydd Ffair Lyfrau yn Y Felin Sgwrsio dros yr haf : dewch a llyfrau ail-law heibio.

Amseroedd agor i weld yr Arddangosfa :

Llun : 3 tan 5 ( Gorff 5 a 12 )
Mawrth : 6 tan 7.30 ( Gorff 6 a 13)
Mercher: 10 tan 12 ( Gorff 7 a 14)
Iau: 4 tan 5.30 ( Gorff 8 a 15)
Gwener : 10 tan 12.30 ( Gorff 9 a 16)
Sadwrn : 11.30 tan 12.30 ( Gorff 10 a 17)

-------------------------------------------------------------------------------------------

YMATEB DA I SYNIAD MÊTS-IAITH- Cliciwch yma am fwy o
wybodaeth.

------------------------------------------------------------------

DIWRNOD CARNIFAL GORFF 3

Gwyl y Felin 2010 : llwyddiant ysgubol!

Lluniau a gwybodaeth ar www.gwylfelin.org
Mae'n wythnos wych!

TORRI POB RECORD !

Cyrraedd y nod o dros 50,000 o hits!
Diolch am ymweld!


Meh 2010 = 51,825 hits !!!!! wow!!!
Mai 2010 = 42,770 hits
Ebr 2010 = 25,583 hits
Maw 2010 = 32,960 hits
Chw 2010 = 23,995 hits
Ion 2010 = 28,612 hits

------------------------------------------------------------------

Pnawn Iau : Newyddion da!
Mae Pwdin wedi dod adref 5 munud yn ol!!

------------------------------------------------------------------

Neuadd Goffa Y Felinheli

Cynllun cyffrous i wella'r Neuadd Goffa.

Mae cynllun i wella cyfleusterau ar gyfer pobl ifanc a gweithgareddau cymunedol ar y gweill ers yr wythnos diwethaf gan greu gwaith i'r sector adeiladu yn lleol.
Mae'r Neuadd Goffa yng nghefn Stryd Bangor yn cael ei gwella gyda grant o bron i chwarter miliwn o bunnau gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad a Tir a Mor.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan gwmni lleol EW a W Roberts sy'n cyflogi 7 o bobl leol ar y safle ac yn rhoi gwaith hefyd i drydanwyr a plymars lleol.
"Mae'n wych gweld cychwyn y cynllun yma," meddai'r Cynghorydd Sir Sian Gwenllian, oedd wedi llunio'r cais am grant ar ran Pwyllgor Rheoli'r Neuadd.

"Bydd y Neuadd yn cael ei gwella'n sylweddol ar gyfer y defnyddwyr presennol fel y Clwb Ieuenctid, Badminton, Bowlio, Yoga a'r Geidiaid a'r Brownies. Bydd y cyfleusterau newydd hefyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer ymarfer peldroed plant, partion, drama, gymnatsteg yr ysgol, Eisteddfod bentref a phob math o weithgareddau eraill.

"Mae'r cynllun hefyd o fudd i'r economi leol gyda gweithwyr lleol yn cael eu cyflogi. Mae rhai ohonyn nhw yn gyn-aelodau o'r Clwb Ieuenctid sy'n cael ei gynnal yn y Neuadd a dwi'n siwr eu bod wrth eu boddau yn cael bod yn rhan o gynllun fydd yn gwella'r cyfleusterau ar gyfer plant a phobl ifanc y dyfodol."

Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau ym mis Tachwedd ac mae'r Pwyllgor Rheoli Neuadd yn ymddiheuro am greu niwsans i'r cymdogion a'r defnyddwyr tra fo'r gwaith yn mynd rhagddo. Bydd arddangosfa luniau arbennig yn nodi achlysur ail-agor y Neuadd.

------------------------------------------------------------------

Gwyl y Felin 2010

1) Mae Gwahoddiad i bawb sydd o gwmpas i ymuno a ni i lawnsio Gwyl Y Felin 2010 bore Gwener yma am 10 yn Y Felin Sgwrsio.
Mae Ken Brown o'r Cyngor Cymuned wrthi'n brysur yn rhoi arddangosfa luniau at ei gilydd. Mae'r wasg a phlant lleol wedi eu gwahodd. Bydd bore coffi a stondinau a byddwn yn dadorchuddio llun ffenestr newydd a lliwgar gan ein arlunydd Rhian Williams. Dewch i gefnogi dechrau wythnos yr Wyl. Mwy am yr Wyl ar www.gwylfelin.org. Te a Choffi Masnach Deg ar werth am y tro cyntaf eleni. Mwynhewch yr holl weithgareddau!


2) Mae pwyllgor Y Felin Sgwrsio yn casglu eitemau ar gyfer eu stondin ar Ddiwrnod Carnifal Gorff 3 : anrhegion bychain ar gyfer twba lwcus y plant ; poteli o bob math ar gyfer y Tombola poteli. Bydd y raffl eleni yn cynnwys llun wedi ei fframio o'r Felin gan Len Williams.


3) Mae pwyllgor Felin dros 70% yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer eu stondin nhw ar Gorff 3 a noson y 10k. Cysylltwch a Nigel Jones nigeljones@instantemail.t-mobile.co.uk neu 07903 824411.


4) Neuadd Goffa : gwaith wedi dechrau ac yn debygol o barhau dan ganol Tachwedd. Gweler www.felinheli.org am fwy am hyn ... a mwy o newyddion diweddar am y pentre.

Felin Sgwrsio yn smart!

Cafodd y Felin Sgwrsio got o baent diolch i gwmni Sky oedd yn gwneud prosiect yn y gymuned. Diolch i Gwmni CL Jones Caernarfon am y paent. Mae cysylltiad band eang ar gael yno hefyd diolch i BT Connections. Yoga yn mynd yn dda ar fore Mawrth a phawb wrthi'n brysur.Galwch heibio!

 

------------------------------------------------------------------

GWELLIANNAU :
Maes Parcio newydd : mae cynllun i greu maes parcio newydd ar gyfer tua 20 o geir yng nghefn Neuadd yr Eglwys yn cael ei drafod ar hyn o bryd.
Gwella'r Lon Las : mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gwella'r Lon Las o Lon Penbryn draw i Seilo sy'n cynnwys gosod wyneb tarmac newydd, giatiau a rampiau mynediad newydd. Byddai'r pafin yn Aberpwll ger y ciosg yn cael ei ledu fel rhan o'r cynllun yma.
Gwella Llwybr Cerrig yr Afon : mae'r Cyngor hefyd yn bwriadu rhoi wyneb newydd ar y llwybr ( nid tarmac) a giatiau mynediad newydd er mwyn i feiciau gael defnydd o'r llwybr a chysylltu'r ysgol efo Lon Las Menai gyferbyn a chartref Cerrig yr Afon. Byddai'r cynlluniau yma yn cael eu hariannu gydag arian Mon/Menai Llywodraeth y Cynulliad ac fe fydd cyfle i weld y cynlluniau manwl cyn hir. Bydd y materion uchod y cael eu trafod gan y Cyngor Cymuned nos Fawrth nesaf, Mehefin 8.

------------------------------------------------------------------

Gwyl y Felin 2010 Launch : the Festival will open with a coffee morning and stalls at Y Felin Sgwrsio on 11.00 a.m. Friday, June 25th with County Councillor, Sian Gwenllian. Photographs of past Carnivals will be on display again this year starting from June 25th and continuing throughout Carnival week at Y Felin Sgwrsio. These photos are different from those included in last year's popular display and if you have any you would like included, please contact Ken Brown any Friday morning at Y Felin Sgwrsio (before June 18th). Memorabillia including carnival queen dresses, trophies and programmes can also be loaned to Ken.

Memorial Hall : Major internal re-furbishment work is due to start at the Hall on June 14th and will continue until November. This work is made possible with a substantial grant from the Welsh Assembly Government's Community Facilities Programme. When the work is complete, the Hall will contain high-standard modern facilities for youth, sporting and community activities. The re-opening of the Hall will be marked with a special photographic exhibition depicting the history of the Hall over the years.

------------------------------------------------------------------

Gwyl Lyfrau Felin Sgwrsio Haf 2010

Unwaith eto fe fyddwn yn cynnal ffair lyfrau ail-law yn Y Felin Sgwrsio yn ystod mis Awst. Eleni mae tair awdures leol, Mari Emlyn, Grace Roberts a Mary Pampolini Roberts yn ymuno a ni i roi sgwrs am eu gwaith. Gwnewch nodyn o'r dyddiadau:
Nos Fercher, Gorff 28 am 7.30 : Mari Emlyn
Nos Iau, Awst 12 am 7.30 : Mary Pampolini
Nos Iau, Awst 26 am 7.30 : Grace Roberts.

------------------------------------------------------------------

Y mwyaf erioed

Mae 42,770 o ymweliadau wedi bod a'r wefan hon ym mis Mai. Y mwyaf erioed ers i'r wefan gael ei sefydlu ym Mawrth 2009.
Gweler y tabl.


Cliciwch yma i weld y graff yn fanylach.

------------------------------------------------------------------

Casglu Sbwriel Penwythnos Mawr

Daeth criw o tua 20 o bobol i helpu gasglu sbwriel ym Mharc Y Faenol dydd Llun. Roedd pawb wedi cael ticed i'r Penwythnos Fawr Radio One. Llwyddwyd i glirio'r cyfan o'r maes parcio a llawer o'r mannau o gwmpas Technium Cast. Diolch i bawb am ddod yngyd am 7.30 a.m.! Gwych!

 
------------------------------------------------------------------

Lluniau o Benwythnos Mawr Radio Un

 

--------------------------------------------------------

Penwythnos Mawr Radio Un

Mae Radio One yn y Faenol dydd Sadwrn a Sul yma ac mae disgwyl 20,000 y diwrnod i fynd yno. Atodaf ddatganiad efo rhai manylion. Ymhlith y petha pwysig i nodi :
1)Bydd y ffordd mewn ac allan o Felin ar ochr Bangor AR GAU i GEIR dydd Sadwrn a Sul DRWY'R DYDD. Bydd y ceir o'r pentre yn cael ei gyfeirio fyny Nant y Garth a bydd y traffig sy'n dod mewn o gyfeiriad Bangor angen mynd ar y ffordd osgoi a mewn i'r pentre o Blas Menai. Bydd mynediad i wasanaethau brys. Mae'n debyg mai'r amser prysuraf fydd rhwng 10 a 12 y bore ac ar ol 10 yr hwyr.
2)Dim ond traffig y pentref fydd yn cael dod trwodd o Blas Menai, ONI bai am y bysus o Gaernarfon - y rhai arferol a'r rhai ychwanegol ar gyfer y digwyddiad. Bydd y bysus gwennol yn mynd drwy'r pentref ac yn gollwng a chodi pobol ger giatau'r Faenol cyn cylchdro Faenol : dyna pam fod angen cau'r ffordd. Bydd angen cerdded fyny at y safle.
3)Ni chaniateir i chi fynd a chadeiriau, bwyd, alcohol na gwydr. Gallwch fynd a dwr mewn potel blastig fechan gyda chaed wedi ei selio. Rhaid i'r rhai dan 16 fynd mewn gyda rhai dros 18. Bydd angen ID arnoch os ydych dan 21 ac eisiau prynu diod meddwo yn y bar.
Os ydych yn mynd : mwynhewch. Os na : plis byddwch yn amyneddgar !! am fwy o wybodaeth cliciwch yma


Dyma'r gan am Ogledd Cymru gan Alicia Keyes

 

--------------------------------------------------------

Cadwn Felin Dros 70%

felin sgwrsio

Mae ymgyrch newydd ar waith i greu Cynllun Iaith Cymunedol ar gyfer Y Felinheli. Bydd y Cynllun Iaith " Cadwn Felin Dros 70%" yn cael ei arwain gan Glwb y Dysgwyr yn Y Felin Sgwrsio gyda help rhodd o £1,600 gan Ymddiriedolaeth Park Jones.

Cynhelir cyfarfod yn y Felin Sgwrsio wythnos i nos Fawrth, Mai 18 am 7.30 i drafod sut i fwrw mlaen hefo'r prosiect, gyda chynrychiolwyr o wahanol gymdeithasau lleol yn dod draw i helpu'r broses o lunio'r cynllun iaith.

"Pwrpas Cynllun Iaith "Cadwn Felin dros 70%" ydi codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y trothwy 70% o ran cadw'r Gymraeg yn iaith gymunedol fyw yma" meddai Aled G Job, Cyd-lynydd y Cynllun. "Y gobaith ydi y gallwn ni greu cynllun iaith sy'n cael ei chreu gan y gymuned ei hun."

Cynhaliwyd swper lawnsio'r cynllun yn Y Felin Sgwrsio ar Nos Sadwrn, Mai 6ed, pryd y cyflwynwyd ymchwil i sefyllfa ieithyddol bresennol Y Felinheli gan Elliw Griffiths o Fwrdd yr Iaith.

felinsgwrsio 2

 

Yoga

Gwybodaeth am Wersi Yoga i Bobl dros 60 yn Y Felin Sgwrsio - Cliciwch yma

--------------------------------------------------------

Bore Coffi

Bydd Bore Coffi yn cael ei gynnal yng nghapel Berea Newydd, Bangor y Sadwrn nesa - Ebrill 17 - at yr Wyl Cerdd Dant eleni.
Hon yw Gwyl Cerdd Dant Glannau Menai 2010. Ym Mangor y bydd hi Tachwedd 13.
Amser y Bore Coffi - 10.00 - 12.00.

 

Gwyl y Felinheli

Canlyniad y Râs Hwyaid

Cyntaf: £100 – Christine Griffiths (850)

Ennillwyr £ 10 Winners:

358 – Elin Gwyn
779 – Big John
636 - Lennie
814 – Mei Bonc
10 – Bethan Lloyd
498 – Sion Griffiths
321 – Gethin Jones, Rhiwlas
302 – Dave 5x4
683 – Karen a Huw, Bush Rd

Olaf! - Chay

--------------------------------------------------------

Astudiaeth yr A487 Caernarfon i'r Bontnewydd

Cynhelir yr arddangosfa gyhoeddus ar 9 a 10 Mawrth rhwng 10.00 y bore a 8 y.h. ac ar yr 11 Mawrth rhwng 10 a 2.00 yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon.
Mae sawl llwybr yn cael ei gynnig ar gyfer y ffordd newydd yma. Mae un yn cynnwys defnyddio cylchfan Plas Menai.

Holiadur - Cliciwch yma
Astudiaeth yr A487- Cliciwch yma

Cyflwyniad:

Dewisiadau:

--------------------------------------------------------

Newyddion Cylch Meithrin Y Felinheli

Ras Beics Noddedig

Codwyd £200 mewn ras beics noddedig ar hyd lôn las y Felinheli yn ddiweddar. Bydd yr arian yn mynd tuag at gael cyswllt gwe i’r Cylch.

Disgo y Pasg (gweler lluniau)

Bu disgo i’r plant ar yr 25ain o Fawrth yn Neuadd yr Egwlys i godi arian tuag at y Cylch. Yn ogystal â cherddoriaeth, cafodd y plantos beintio eu hewinedd, cael tatws (smalio wrth gwrs!), cymryd rhan mewn cystadleuaeth cicio pêl a gêm dal hwyaid. Roedd rhai o’r plant hefyd wedi bod yn brysur yn creu bonedau pasg arbennig ac eraill mewn gwisgoedd ffansi gwych!

Sgwâr Cant

Mae’r Cylch yn bwriadu cychwyn ar gynllun sgwâr cant i godi arian. Hynny yw, gellir prynnu sgwar ( sef rhif rhwng 1 i 100) am £12 am y flwyddyn. Bydd un rhif yn cael ei dynnu allan o het yn fisol, gyda gwobr o £25 i’w ennill. Er mwyn cefnogi’r Cylch, gallwch brynnu sgwar drwy gysylltu â Iona ar 07770821712.
.
Cofrestru plant ar gyfer y Cylch Meithrin

Gofynnir i unrhyw riant sydd am i’w plentyn fynynchu’r Cylch Meithrin ar ôl gwyliau’r hâf i gofrestru’r plentyn cyn gynted a phosib. Yn ddelfrydol, byddai’r Cylch yn hoffi cael gwybod 6 mis cyn i’r plant gychwyn. Cynhelir y Cylch Meithrin yng Nghaban Clyd, Ysgol y Felinheli pob bore. Cyswllt - Iona 07770821712

Cylch Ti a Fi

Mae Cylch Ti a Fi y Felinheli yn cyfarfod pob dydd Llun a ddydd Gwener rhwng 1.30pm a 3.30pm, yng Nghaban Clyd, Ysgol y Felinheli. Mae’r Cylch yn croesawu rhieni/gwarchodwyr a’u plant (o fabis i oed ysgol). Dewch i fwynhau sgwrs dros baned mewn awyrgylch braf. Bydd y plantos hefyd yn siwr o fwynhau eu hunain wrth chwarae, canu, gwrando a’r storiau a gwneud ffrindiau! Côst - £1.50 y teulu.

 

--------------------------------------------------------

MWY O WYBODAETH AM GRANTIAU

Grantnet : archwiliad cyllid ar lein sydd yn medru ymgysylltu a chyfleoedd ariannu addas i'ch prosiect neu weithgaredd.

Mae Grantnet wedi seilio ar gronfa ddata deallol Grantfinder sydd yn darparu dros 4,000 o fanylion ariannu o Ewrop, y llywodraeth, y Loteri, ymddiriedolaethau elusengar a noddwyr corfforaethol.

I fynegi'r gwasanaeth dilynwch y cyswllt yma -GRANTnet

Hefyd, mae yna daflennu gwybodaeth sydd yn cynnwys manylion grantiau a all fod yn ddefnyddol, mae'r rhain ar gael ar wefan WCVA (gan gynnwys taflen 7.4.1 grantiau bach). Cyswllt i'r tudalen perthnasol Yma

Dyma gyswllt i'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol, a all helpu gyda chefnogaeth a chyngor Yma
Hefyd dyma gyswllt i wefan Amgylchedd Cymru Yma .

--------------------------------------------------------

Neges gan Debbie ac Eilir Evans :
Dyma ffurflen ar gyfer ras 10k Faenol 2010. Bydd ar gael o wefan yr Wyl yn fuan. Mae'r ras wedi ei chyfyngu i 300 o redwyr felly mae angen cofrestru yn fuan rhag ofn i chi gael eich siomi. - cliciwch yma

--------------------------------------------------------

Y Pasg

Digwyddiadau Dydd Llun y pasg- Cliciwch yma

--------------------------------------------------------

Mawrth 2 2010

1)Cais cynllunio : fe fydd y Pwyllgor Cynllunio nos fory yn trafod cais i godi 7 ty ar dir gyferbyn a’r Half Way. Ymddengys eu bod o fewn y polisiau ond rwyf wedi holi swyddogion i ystyried rhoi amod “person lleol” arnyn nhw. Manylion yn y dogfennau.Cliciwch yma am fwy.


2)DIGWYDDIAD MASNACH DEG : Sadwrn yma yn Y Felin Sgwrsio – manylion gan Anwen ar <ygwas@tiscali.co.uk>. Cysylltwch a hi hefyd os ydych am helpu ffurfio Grwp Masnach Deg yn Felin.


3)Cyngor Diogelwch Tan : Bydd swyddogion o’r Gwasanaeth Tan ac Achub yn Y Felin Sgwrsio o 10 a.m. Iau , Mawrth 11 i roi cyngor am ddim i bentrefwyr am ddiogelwch tan yn y cartref. Galwch heibio i drefnu i’ch ty gael ei archwilio a bydd eitemau ar gael am ddim! Neu ffoniwch 0808 100 2863.


4)Gwefan y pentref : os oes gan eich mudiad neu fusnes wefan, a ellwch chi greu linc i www.felinheli.org. Anfonwch eich manylion i ni yn post@felinheli.org ac fe fyddwn yn eich cynnwys ar un ni ! Mae map rhyngweithiol cyffrous yn cel ei ddatblygu am y llwybrau efo lluniau a hanes y pentref. Rhowch wybod os ydych am helpu efo’r wefan.

--------------------------------------------------------

Clirio

Clirio sbwriel a gosod bocsys adar. Diolch i blant Canolfan Brynffynnon am hel sbwriel yng Ngherrig yr Afon a rhoi bocsys adar ar Lon Las Menai.

 

 

Radio 1 - Big Weekend

Mae Chris Moyles wedi cyhoeddi yn fyw ar Radio 1 y bydd y Big Weekend yn dod yn fyw o Fangor ym mis Mai. Dyma ddatganiad gan y ddau gynghorydd lleol:

Mae'r newyddion fod Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus yn denu Big Weekend Radio 1 i'r Faenol ger Bangor wedi ei groesawu gan gynghorwyr lleol Plaid Cymru.
"Mae'n wych y bydd pobol ifanc......Am fwy Cliciwch yma

-----------------------------------------------------

Adroddiad Cynghorydd Siân Gwenllian
09/02/10

Dyma rai o’r materion y bum yn ymwneud â nhw yn ddiweddar yn y pentref:

1)Tai Tan y Maes/Tyddyn Perthi : Bum yn cyfarfod a gohebu efo’r datblygwr am y bwriad o godi 32 o dai fforddiadwy. Mae pryder am y risg o lifogydd yn sgil y datblygiad. Mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn am Asesiad Llifogydd. Yn y cyfamser, hoffwn gael eich barn am y math o dai ( o ran maint a pherchnogaeth) y teimlwch fyddai’n addas i’r pentref petai’r datblygiad yn mynd yn ei flaen.
2)Arwydd Eglwys Llanfairisgaer : Mae’r Cynulliad wedi cytuno i osod arwydd newydd ger cylchdro Plas Menai.
3)Torri coed gwaelod Brynffynnon : Cyngor wedi gwneud y gwaith a bydd y sbwriel yn cael ei gasglu yn fuan.
4)Gwaith adeiladu ar hen safle Modurdy Menai, Ffordd Caernarfon : mae Priffyrdd yn ymchwilio i effaith hyn ar y ffordd ger llaw.
5)Papur Bro Y Goriad : mae Alwen Derbyshire a minnau ymhlith y 10 golygydd newydd – ymddengys fod dyfodol y papur yn ddiogel am y tro.
6)Maes Y Felin : Rwyf yn dal i weithio i gael atebion i broblem baw cwn a phroblemau parcio yma. Mae swyddogion gorfodaeth yn yr ardal.
7)Cae Aml Bwrpas ger y Lon Las : mae’r cais cynllunio wedi ei dderbyn. Rwyf yn gweithio gyda’r Clwb Pêl -droed Ieuenctid i gael cais ariannol at ei gilydd.
8)Felin Daclus: mae’r Cynulliad am ddefnyddio’r prosiect fel esiampl o ymarfer da.
9) Bum yn delio efo nifer o broblemau ers newid y trefniant casglu sbwriel/ailgylchu ond ymddengys fod pethau yn setlo bellach.
10)Cefais gyfarfod arall yn Rhyd Y Fenai : gwaith yn parhau
11)Neuadd Goffa : y cynlluniau manwl yn barod ac adeiladwyr i’w pennu ddechrau Mawrth.
12)Felin Sgwrsio : galwch heibio ar fore Gwener os ydych am drafod unrhyw broblem. Mae rhaglen lawn o weithgareddau ar waith.

-----------------------------------------------------

GWEFAN PELDROED IAU

Dyma gyfeiriad y wefan newydd :
www.cpdiyfelinheli.com

-----------------------------------------------------

CHWILIO AM GRANT ?

Mae manylion pob math o grantiau ar gyfer mudiadau gwrifoddol, chwaraeon a chymunedol yn y ddogfen yma- Cliciwch yma

-----------------------------------------------------

Mwy am Apel Haiti
Cynnigwyd llawer o syniadau gan blant yr Adran Iau yn yr Ysgol am ffyrdd o godi arian i gronfa Haiti yn ystod sesiwn Dinasyddiaeth Byd Eang yng ngofal Mr Iwan Jones yn ystod P`nawn i`r Brenin. Dewiswyd y syniad o ddiwrnod ` Hetiau i Haiti ` a codwyd £113.46 yn yr ysgol at yr achos.

Yn ychwanegol at y £150 a godwyd gan y cwis ar Ionawr 19 cafwyd siec am £50 gan Billy Hughes o'r Gardd Fon ac fe gynhaliwyd raffl wythnos diwethaf gan godi £65 arall.

-----------------------------------------------------

DIOLCH I CHI AM YMWELD!

Dyma'r ystadegau ers cychwyn y wefan bron i flwyddyn yn ol. Y nod yw cyrraedd dros 30,000!
Ion 2010 = 28,612 hits
Rhag 2009 = 19,786 hits
Tach 2009 = 27,703 hits !!!
Hyd 2009 = 15,305 hits
Medi 2009 = 15,509 hits
Awst 2009 = 12,113 hits
Gor 2009 = 22,618 hits
Meh 2009 = 29,839 hits
Mai 2009 = 27,796 hits
Ebr 2009 = 29,487 hits
Maw 2009 (ers y 01/03/09 yn unig) 25,385 hits!

Ras Rafftiau 2010

Bydd y ras flynyddol ar Fehefin 6 o Felin i Porthaethwy.
Manylion llawn ar:

www.greatstraitraftrun.co.uk

Cefnogaeth anhygoel

 

Bu cannoedd o bobol yn cefnogi diwrnod Helpu Haiti yn Y Felinheli ar ddydd Sadwrn Ionawr 23 ac fe roddwyd tua £2,500 i Gronfa'r Apel cyn belled. Mae hyn yn cynnwys £232.88 gasglwyd yn y Siop.
"Mae'r ymateb yn anhygoel," meddai Esyllt Vaughan Jones, oedd yn cydlynu'r digwyddiadau yn y pentref.
"Dechreuodd pethau yn y bore yn Y Felin Sgwrsio pan fu llif cyson o blant yn prynu tegannau, llyfrau, ysgytlaeth, cwn poeth neu'n cael paentio eu hwynebau. Cawsom help gan y plant a'r bobol ifanc."
"Yn y pnawn, roedd Neuadd yr Eglwys dan ei sang ac roedd pob math o stondinnau - o gacenni a raffls i bric-a-brac, dillad a llyfrau."
Mae'r trefnwyr yn bwriadu mynd i sel cist car gyda'r nwyddau oedd dros ben.
"Ein nod yw cyrraedd £3,000 dros yr wythnosau nesaf," meddai'r Cynghorydd Sian Gwenllian fu'n helpu i drefnu'r digwyddiad.
"Roedd yn anhygoel gweld y pentref yn gweithio efo'i gilydd er mwyn gwneud cyfraniad bychan i helpu pobol Haiti," mneddai.
"Mae'r argyfwng a'r toldi wedi ein cyffwrdd ni gyd. Diolch i bawb ddaeth ynghyd, i bawb sydd wedi cyfrannu arian ac i'r tim o wirfoddolwyr fu'n gweithio mor galed."
Codwyd £190 gan Noson Cwis y Gardd Fon.

Felin Sgwrsio yn un oed

Bu tua 25 o bobol yn mwynhau gwledd yn yr Half Way i ddathlu Noson Santes Dwynwen a phenblwydd Y Felin Sgwrsio yn un oed ar Ionawr 25. Hefyd fel rhan o'r dathliadau penblwydd, cynhaliwyd cystadleuaeth Felin Fi ble bu plant y pentref yn tynnu lluniau o'u hoff bethau. Diolch i Phill Stead am drefnu a Cwmni Da am noddi. Yr ennillydd oedd Cai Hughes gyda llun trawiadol o'i ffrindiau fraich-ym mraich. Yn ail oedd Elin Jones ac yn drydedd Robin Williams.
"Mae'n anodd credu fod deuddeng mis wedi mynd heibio ers i ni sefyldu'r Felin Sgwrsio ac mae'n braf gweld y fenter yn mynd o nerth i nerth," meddai Dilys Myfanwy, y Trefnydd Gweithgareddau.

Gwyl Felin 2010 (Mehefin 25 - Gorff 3)

Dechreuwch ymarfer!
1. Stwr wrth y Dwr i blant ac oedolion- Nos Wener Mehefin 25 (Plant) a Nos Sadwrn Mehefin 26 (Oedolion)
2. Nos Iau Gorffennaf 1af- Noson cynnyrch lleol i gychwyn am oddeutu 6-6.30, rhif ac e-bost at Bethan Owen (bethanwyn86@hotmail.co.uk)
3. Yr ydym yn dal i chwilio am rywun i lenwi swydd ysgrifennydd yr Wyl. Cysylltwch gyda Bethan Owen; (bethanwyn86@hotmail.co.uk).

*Cystadleuaeth i drigolion y pentref yn unig*

Newyddion o Glwb Ieuenctid Felin 25.01.10

Cafodd Iwan Owen lwyddiant yn rownd gynta
cystadleuaeth Pwl Arfon. Mae o rwan yn mynd
drwadd i'r rownd derfynol a gynhelir yn Bethesda
ar Fawrth 2il. Mi fydd ennillydd y noson honno
yn mynd yn ei flaen i gystadlu yn erbyn goreuon
Gwynedd. Diolch i'r aelodau eraill am eu
cefnogaeth ar y noson. Dymunwn pob hwyl i Iwan
yn y rownd nesa!
Rydym wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer Gwyl
Gelf Gwynedd mis nesa. Mae'r hogia ar ganol
gwneud wal graffiti, cartwns, blychau nythu a
dylunio logo ar gyfer y cystadlu ond yn dal i
gael digon o amser i chwarae peldroed! Croeso
i unrhyw un rhwng 12 a 19 draw i'r Felin Sgwrsio
ar nos Fawrth am 7 o'r gloch.

Helpu Haiti

Arwerthiant fawr
Stondin ffashiwn, Cynyrch Cartref, Caffi
Llyfrau, teganau, eliffant gwyn,raffl
a llawer mwy
Sadwrn/Sat , 23 Ionawr/Jan
2 – 4
Neuadd yr Eglwys,Church House,Y Felinheli

CAFFI’R PLANT

Ysgytlaeth
Stondinau Llyfrau, Teganau, Raffl a mwy
Ddydd Sadwrn/Sat , 23 Ionawr/Jan
12.30 – 1.30
Felin Sgwrsio

Noson Casino

Cwis

Cwis Garddfon nos Fawrth yma, Ionawr 18 am 9.30 ; Cwis elusennol a Raffl a'r elw yn mynd at Apel Daeargryn Haiti

Dathlu Dwynwen

Mae rhai ticedi ar ol ar gyfer Noson Dwynen yn yr Half Way nos Lun, Ionawr 25.Ticedi ar gael gan Myfanwy ( 07870688783) ar gyfer cinio 3 cwrs am £10.50. Mae'r cinio hefyd yn dathlu penblwydd cyntaf Y Felin Sgwrsio. Bydd cawl ar gael yn Y Felin Sgwrsio am 12 dydd Mawrth, Ionawr 26.
Dydd Sadwrn, Ionawr 23, cyn Apel Haiti, fe fydd rhai o glybiau'r Felin Sgwrsio yn dangos eu gwaith o 10 o'r gloch ymlaen. Am 12 fe fydd enwau enillwyr y gystadleuaeth ffotograffiaeth i blant, Felin Fi, yn cael eu cyhoeddi.

Felin yn helpu Haiti

Mae pob math o weithgareddau yn cael eu trefnu ar gyfer Dydd Sadwrn nesaf ( Ionawr 23) er mwyn codi pres i Apel Haiti. Dewch i'r Felin Sgwrsio a Neuadd yr Eglwys. Gallwch adael unrhyw eitemau sydd gennych ( bric a brac, cacennau, anrhegion,tegannau, llyfrau ac ati)yn Y Felin Sgwrsio fore Mercher, Iau neu Gwener neu ffoniwch Esyllt ( 07967163276) i drefnu casgliad. Bydd Neuadd yr Eglwys ar agor rhwng 11 ac 1 dydd Sadwrn os ydych am ddod a'ch nwyddau bryd hynny.
Fe fydd Caffi Plant ar agor yn Y Felin Sgwrsio rhwng 12.30 a 1.30 dydd Sadwrn pryd bydd aelodau o Glwb Capel Bethania yn gwerthu ysgytlaeth ffres. Bydd stondin tegannau a llyfrau plant a bydd te a choffi ar gael o 10 o'r gloch ymlaen, wedi ei drefnu gan Bwyllgor Y Felin Sgwrsio.
Yna rhwng 2 a 4, bydd arwerthiant yn cael ei gynnal yn Neuadd yr Eglwys gyda phob math o stondinau - o gynnyrch cartref i bric a brac. Neu gallwch roi pres. Plis cefnogwch sut bynnag y gallwch.

CLWB GWIN

Nos Iau 14eg Ionawr 2010
am 7.30 o’r gloch
yn y Felin Sgwrsio
£3 y sesiwn a thâl aelodaeth

 

Dathlu Santes Dwynwen
Pen-blwydd y Felin Sgwrsio yn flwydd oed
Nos Lun 25ain Ionawr 2010
Yng ngwesty’r Halfway am 7 0’r gloch
Cinio 3 chwrs – £10.50

 

CLWB CAWL

Dathlu Santes Dwynwen
a Phenblwydd cyntaf
Y Felin Sgwrsio
Dydd Mawrth 26/01/2010
Y Felin Sgwrsio,
12.00yp
£2.00 yr un
Bwrdd Gwerthu a Raffl

 

Isod mae manylion dau ddigwyddiad yn Felin dros y gwyliau. Cofiwch fynd i www.felinheli.org i weld lluniau a digwyddiadau 2009 - tyst o'r bwrlwm a fu ac arwydd o obaith ar gyfer 2010.

Bu'n flwyddyn anodd i ni fel pentref gyda sawl colled a thrasiedi yn ein taro ond gobeithio y gallwn ymfalchio ein bod wedi gallu dod at ein gilydd fel cymuned yn wyneb y tristwch. Dylai'r gallu yma i gefnogi ein gilydd drwy gyfnodau du fod yn destun llawenydd i ni gyd. Beth well i'w ddathlu dros y Nadolig? Nadolig Llawen iawn i bawb a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd!
Peldroed San Steffan

Twrnament Pel-Droed 5 Bob-Ochr:

Bydd twrnament pel-droed 5 bob-ochr i chwaraewyr lleol yn Cae Seilo am 11.30 (KO) fore Gwyl San Steffan. Bydd Cyri a Lobsgows ar gael yn Y Fic wedyn a chynhelir Cwis yno. Croeso i bawb : elw i'r Clwb Peldroed Ieuenctid.

Taith Calan :

Fe fydd Graham Fitch, Hen Gei Llechi, yn arwain taith gerdded tua 5 milltir o gwmpas Felin ar ddydd Calan, Ionawr 1af. Cychwyn o'r Felin Sgwrsio am 11.30 y bore. Mae Graham yn dysgu Cymraeg ac eisiau ymarfer yr iaith wrth fynd am dro. Croeso i bawb.

----------------------------------------------------

Enillydd !

Llongyfarchiadau mawr i Ieuan Roberts, Argoed ar ennill cystadleuaeth www.felinheli.org a
gwobr o £10. Enwau'r ddau dy yn y llun ywBronfa a Gwynfryn. Diolch i bawb am gystadlu!


----------------------------------------------------

Mwy yn defnyddio'r we !

Dyma'r ystadegau diweddaraf:

Tach 2009 = 27,703 hits !!!
Hyd 2009 = 15,305 hits
Medi 2009 = 15,509 hits
Awst 2009 = 12,113 hits
Gor 2009 = 22,618 hits
Meh 2009 = 29,839 hits
Mai 2009 = 27,796 hits
Ebr 2009 = 29,487 hits
Maw 2009 (ers y 01/03/09 yn unig) 25,385 hits!

----------------------------------------------------

CAWL A CHANU CAROLAU


Croeso i bawb ymuno efo ni yn Y Felin Sgwrsio dydd Sadwrn yma ( Rhag 12) i ddathlu'r Nadolig gyda cawl a chanu carolau rhwng 12 a 2. Bydd stondinau a raffl.


Ni fydd sesiwn fore Gwener dros yr wythnosau nesaf ( Clonc a Chyngor) ond byddwn yn ail-ddechrau fore Gwener, Ionawr 8. Croeso i chi gysylltu a'r Cynghorydd Sian Gwenllian os byddwch eisiau trafod unrhyw broblem cyn hynny :
01248 670866 07775642202 siangwenllian@yahoo.com

---------------------------------------------------------

PLANNU COED



Bu gwirfoddolwyr yn plannu 39 o goed yn Y Felinheli dydd Sadwrn wrth ymyl maes parcio cymunedol y pentref. Roedden nhw'n aelodau o FelinDaclus, grwp lleol sydd wedi ei ffurfio i wella edrychiad y pentref a'i wneud yn lle iachach i fyw. Cafodd y coed eu rhoi yn rhad ac am ddim gan siop Focus ym Mangor.

Roedd hyn yn rhan o brosiect Breathing Places y BBC a bu grwpiau ar draws Cymru yn plannu coed.

"Rydym yn chwilio am ffyrdd o wella'r pentref ac roedd hyn yn gyfle arall i wneud gwahaniaeth," meddai'r Cynghorydd Sian Gwenllian, un o'r trefnwyr.

I weld mwy o luniau - cliciwch yma

----------------------------------------------------------

PLANNU COED

Fedrwch chi sbario AWR bore Sadwrn yma, Rhagfyr 5 ( 11 - 12) er mwyn plannu ychydig o goed ger y maes parcio cymunedol yng nghanol y pentre?

Mae Anwen Roberts wedi llwyddo i gael nifer o goed am ddim gan gwmni FOCUS fel rhan o wythnos plannu coed "Breathing Places" y BBC. Bydd hyn yn digwydd yn enw FelinDaclus, y grwp gwella'r amgylcheddol sydd wedi ei sefydlu yn y pentref.

Y bwriad yw plannu y coed ar y llain tir tu ol i'r maes parcio cymunedol yng nghanol y pentref a ger y Lon Las sy'n mynd o'r Hen Orsaf i waelod Pen y Bryn.

Gwisgwch ddillad addas a dewch a rhaw os gallwch chi ! Cyfarfod yng ngwaelod Pen y Bryn am 10.45 a.m.

Am fwy o wybodaeth , cliciwch yma...

---------------------------------------

CANSLO : Yn anffodus, mae'n rhaid i ni ganslo'r noson oedd i fod yn Y Felin Sgwrsio nos fory (Rhagfyr 3). Ymddiheuriadau am hyn. Pasiwch y neges ymlaen i rai sydd heb e-bost.

-----------------------

NEUADD GOFFA : Daeth tua 30 o bobol ynghyd ar noson oer i weld y cynllun newydd. Diolch i bawb am eu sylwadau gwerthfawr fydd yn cael eu trosglwyddo i'r pensaer. Y gobaith yw gwneud y gwaith Mawrth - Awst flwyddyn nesaf.

----------------------

GANG CYMUNEDOL : Fe fydd y gweithwyr yn y pentra dros y dyddiau nesaf yn gwneud man waith. Rhowch wybod os oes unrhywbeth angen sylw ar ol y tywydd garw.
----------------------

CYSTADLEUATH felinheli.org

Dyma lun wedi ei dynnu o'r Fenai ers talwm, ar waelod Penceunant (diolch i Emyr Owen).
CWESTIWN : Beth yw enw'r ddau dy sydd yn y cefndir ar ben y bryn?
Atebion at post@felinheli.org erbyn Rhagfyr 14 os gwelwch yn dda. Cofiwch gynnwys eich enw a rhif ffon.

GWOBR i'r ateb cywir cyntaf allan o'r het : £10. Bydd yr enw'n cael ei gyhoeddi ar y wefan ar Rhagfyr 15.

--------------------------

Da iawn Dylan a Neil ar Wedi 7 neithiwr! Pob lwc efo'r CD newydd.

CYSTADLEUATH felinheli.org

Dyma lun wedi ei dynnu o'r Fenai ers talwm, ar waelod Penceunant (diolch i Emyr Owen).
CWESTIWN : Beth yw enw'r ddau dy sydd yn y cefndir ar ben y bryn?
Atebion at post@felinheli.org erbyn Rhagfyr 14 os gwelwch yn dda. Cofiwch gynnwys eich enw a rhif ffon.

GWOBR i'r ateb cywir cyntaf allan o'r het : £10. Bydd yr enw'n cael ei gyhoeddi ar y wefan ar Rhagfyr 15.


---------------------------------------

Dyddiadau Nadolig Y Felin

1)Nos Iau, Rhagfyr 3 : Felin Sgwrsio yn dathlu'r Nadolig am 7.30 p.m.

2) Gwyl Felin- Sion Corn/ Canu Carolau Nos Sul Rhagfyr 20ed am 6.00
3) Gwasanaeth yng Nghapel Bethania : Bore Nadolig am 9.30
4) Rhagfyr 20ed – Nadolig Clwb Capel, Capel Bethania am 4.00
5) Mae croeso i chwi ddod draw i Wasanaeth Nadolig Ysgol Pendalar yn Eglwys St Mair, Y Felinheli ar fore Dydd Mawrth, Rhagfyr 15ed am 10.00.

---------------------------------------

Gwyl Y Felin.
Mae'r Wyl yn chwilio am berson i fod yn ysgrifennydd ac yn rhan o'r tim prysur a phwysig sy'n trefnu'r wyl a digwyddiaddau eraill yn y pentref. Cysylltwch a Ieuan Roberts.

Newyddion gan y Cynghorydd Sir:
Tai Fforddiadwy
Mae cynllun wedi ei gyflwyno gan Snowdon Devlopments ar gyfer 32 o dai fforddiadwy ( cymysgedd o 2,3 a 4 stafell wely) ar gyfer safle rhwng Y Wern a Tan y Maes ac ar ran o dir Tyddyn Perthi. Bydd cyfle i'r Cyngor Cymuned astudio'r cynllun yn fanwl. Gallwch weld y cynllun ar www.gwynedd.gov.uk o dan ceisiadau cynllunio : C09A0552/20/AM. Cofiwch anfon eich sylwadau i mi ar hyn.
Felin Sgwrsio
Mae cais wedi ei gyflwyno am grant i BT fydd yn ein galluogi ni i gael band llydan am flwyddyn a lap top am ddim.
Cofiwch am y noson i ddathlu'r Nadolig ar Rhagfyr 3ydd am 7.30.
Diolch i Katie Jones am ei chyfraniad hael.
Neuadd Goffa
Mae'r cynllun yn barod! Bu cryn ymgynhori efo'r rhai sy'n defnyddio'r Neuadd. Dewch i weld y cynllun ar nos Lun, Tachwedd 30 yn y Neuadd am 7.
Gwasanaethau defnyddiol:
Mae'r Gwasanaeth Cynnal gofalwyr yn rhoi help i ofalwyr 18+ yng Ngwynedd - pobol si'n gofalu'n ddi-dal am briod, partner, plentyn, perthynas neu ffrind sy'n sal, anabl neu'n oedrannus ac yn fregus. Mwy o wybodaeth drwy ffonio 01248 370797 neu ebostio help@cynnalgofalwyr.org.uk
Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref : 0808 80 10 800
Gwefan i bobol ifanc : www.Gwynedd-Ni.org.uk
GRANTIAU I FUSNESAU neu SYNIAD AM FUSNES : www.gwynedd.gov.uk/llwyddo

---------------------------------------

ADREFNU YSGOLION CYNRADD
Ym mis Rhagfyr bydd cynnig ger bron y Cyngor fydd yn golygu cau pedair o ysgolion bach a chreu ysgol newydd i'r gogledd o Dywyn a chau ysgol Aberdyfi a chynnig lle i'r plant yn ysgol Tywyn. Byddaf yn pleidleisio o blaid hyn. Os ydych yn anghytuno - plis anfonwch eich sylwadau er mwyn i mi ymateb ac egluro fy safbwynt yn llawn.
ARBEDION : fydd rhain yn cael eu trafod yn yr un cyfarfod. Diolch i bawb sydd wedi anfon sywladau - gwerthfawr iawn. Mae'n debyg na fydd yr ysgolion yn dioddef cyn-ddrwg ag oedd disgwyl ac mae'r Mudiad Ysgolion Meithrin wedi cytuno i weithio efo'r Cyngor ar strategaeth meithrin newydd ar gyfer y Sir. Felly, mi fydd yr arian yn dal i fynd i Gylch Meithrin Y Felin yn y flwyddyn ariannol nesaf ond mae angen meddwl yn ofalus am ddarparieth meithrin i'r dyfodol.

---------------------------------------

Mwy o newyddion lleol .....
1)Mae Pwyllgor Neuadd yr Eglwys wedi cytuno i'r egwyddor o drosglwyddo darn o dir sydd tu ol i'r Neuadd ar gyfer creu maes parcio i'r pentref. Mae'r Pwyllgor yn awr yn disgwyl penderfyniad gan yr Eglwys yn ganolog ar y mater. Os daw cadarnhad fod hyn yn bosib, bydd angen trafod y mater ymhellach efo'r pwyllgor lleol cyn chwilio am grant i ariannu'r gwaith.

2)Trafodwyd cynllun gan Gyngor Gwynedd i newid y cyfyngiad amser ar ran o Stryd Bangor ( y bae parcio o Maes Elim draw a heibio'r Felin Sgwrsio) i ddwy awr a dim cyfyngiad ar y penwythnos. Cytunodd y Cyngor Cymuned yn unfrydol y dylid bwrw mlaen efo hyn. Roedd swyddog y Cyngor yn credu na fyddai'n briodol i newid y cyfyngiad ar y rhan o Stryd Bangor gyferbyn a Central Garage gan fod hwn yn nes at nifer o fusnesau lleol.

3)Y gornel ger y Gardd Fon : mae Cyngor Gwynedd eisiau ymestyn y llinellau melyn rownd y tro er mwyn gwella diogelwch a gwelededd i gerddwyr a gyrrwyr. Trafodwyd map yn dangos y bwriad. Rwyf wedi trafod y mater gyda perchnogion y ddau eiddo fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf ac nid oedd gwrthwynebiad ar y pryd. Mae un person ar Lan y Mor yn wrthwynebus gan y byddai llefydd parcio yn cael ei colli. Penderfynnodd y Cyngor Cymuned ofyn i Gyngor Gwynedd ddod a cynllun ger bron i ymestyn y pafin ger y toiled a fyddai'n creu rhwystr i draffig ar y ffordd.
Tynnwyd sylw hefyd at gwyn am y casgenni cwrw sydd ar y pafin ger y Gardd Fon a chytunodd y Cyng Daniel Williams i drafod y mater gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio rhan o'r tir tu ol i'r toiledau cyhoeddus ar gyfer y pwrpas yma.

4)Prydlesu 3 medr o dir hen drac y Rheilffordd ger Ffordd Caernarfon : Mae'r Cyngor cymuned wedi penderfynu bwrw mlaen gyda'r gwaith cyfreithiol.

5)Cefais gwmni Cynghorydd Daniel Williams a Carolyn Pritchard wrth glirio darn o dir ger yr arosfan bws ger yr Eglwys gan fod llawer o sbwriel yno. Rwyf wedi anfon cais i'r Cyngor Sir yn gofyn am fun newydd ger yr arosfan bws gan nad oes un yn y rhan yma o'r pentref.

6)Cerrig yr Afon : adroddwyd fod arian grant wedi ei glustnodi gan y Cyngor Sir i greu cynllun i wella ffensio, mynediad ac ati yn y goedwig ac ar y llwybr cyhoeddus.

7)Prosiect Bocys Adar y Clwb Ieuenctid : cafodd y Cyngor Cymuned weld peth o'r cynnyrch ac adroddwyd fod y cynllun yn datblygu'n dda.

8)Llwybr preifat rhwng Uwch menai/Penceunant/Stryd Menai. Cafwyd cais am help i'w glirio. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y Cyngor Cymuned.

9)Canolfan Iechyd Rowen ; mae'r Bwrdd Iechyd wedi cytuno ar y cynlluniau.

10) Mae gwaith wedi gwaith bod yn cael ei wneud tu allan i dai Maes y Felin a Rhyd y Fenai.

11)Mae'r Cyngor Cymuned am drefnu cyfarfod o blith y cynghorau cymuned eraill sydd yn dymuno bwrw mlaen gyda thaflen am eu llwybrau lleol.

12)Bron Menai : bum yn cyfrarfod y perchnogion ac mae nhw am ddecrhau adeiladu'r ty newydd yn y flwyddyn newydd. Mae nhw hefyd yn dwedu eu bod am rannu'r ty ppresennol yn 2 fflat a chael 2 denant yn lle 3.

13) Mae sefyllfa ariannol anodd yn wynebu Cyngor Gwynedd. Soniais am rhai o'r cynigion arbed arain sydd yn cael trafod ar hyn o b ryd - a diolch i bawb am eu sylwadau gwerthfawr. Bydd penderfyniadau terfynnol yn digwydd yn Rhagfyr Rwyf wedi cynnal dau gyfarfod efo'r Cylch Meithrin ac mae'n edrych yn debyg fod y Mudiad Ysgolion Meithrin a Chyngor Gwynedd ar fin cyrraedd cytundeb ar y mater.

14)Mae gan y Clwb Peldroed Ieuenctid gynllun i greu cyfleusterau newydd ger yr unedau diwydiannol ger yr Hen Orsaf ( Penningtons). Mae nhw yn awyddud i reu cae chwarae aml-bwrpas yma ar gyfer y pentref gyda maes parcio a stafelleodd newid efallai. Mae'n dibynnu ar gael arian grant. Mae'n golygu cael prydles ar y tir gan Gyngor Gwynedd. Byddai dal digon o le ar gyfer alotments ar y safle - yn y rhan agosach at Gaernarfon. Pob lwc i'r Clwb efo'u cais.

---------------------------------------

1)Rwyf wedi bod yn trafod gyda pherchennog y Pinc Palas sydd wedi cytuno i symud yr hen gar a'r container brown sydd ger y Bont drosodd i'r Marina. Mae hefyd wedi cytuno i symud y kerbing sydd ar y llwybr cyhoeddus draw at y Fenai ger y barrier coch a gwyn fel bod cadeiriau olwyn yn gallu cael mynediad.

2)Rwyf wedi gwneud cais am arwydd Dim Parcio ar gyfer darn o dir ger mynedfa'r Lon Las ar waelod allt Penybryn gan fod car sy'n parcio yma yn rhwystro ambiwlansys a cherbydau mawr rhag mynd fyny'r ffordd.

3)Bydd Cyngor Gwynedd yn torri'r tyfiant ar waelod Brynffynnon ( y ddwy ochr).

4)Rwyf yn pwyso ar Gyngor Gwynedd i weithredu yn dilyn cwynion am swn yn 9 Ffordd Caernarfon.

5)Rwyf wedi gwneud cais am fun halen ar gyfer y ffordd i fyny at Penningtons.

6)Rwyf yn cefnogi cais am wella diogelwch traffig ar y ffyrdd cul ger Gelli Gyffwrdd.

Gwahoddiad - Y NEUADD GOFFA

Cynhelir Cyfarfod Agored i arddangos y cynlluniau ar
gyfer y Neuadd Goffa ar nos Lun 30 Tachwedd 2009
am 7 o’r gloch – yn rhan uchaf y Neuadd.
Croeso cynnes i bawb.

17.11.09
HOGIA'R CLWB IEUENCTID YN ENNILL GWOBR



Llongyfarchiadau i Bryn Owen, Ashley Japheth a Daniel Hughes o Glwb Ieuenctid Y Felinheli am ennill gwobr arbennig fel rhan o wythnos Plant a Phobol Ifanc Gwynedd, Wythnos Ni. Cafodd y tri wobr OCN Adeiladu Tim, Dysgu drwy Brofiad am drefnu a choginio pryd o fwyd tri cwrs yn Neuadd Goffa Y Felinheli a hynny dan amodau anodd iawn gan nad oes cegin yno ar hyn o bryd. Diolch i Nia Owen, Gweithiwr Ieuenctid Ysgolion Bangor a Naomi Boyle a Sarah Roberts, Arweinwyr y Clwb Ieuenctid am eu hannogaeth.

Cyflwynwyd y tystysgrifau i'r hogia gan y Cynghorydd Sian Gwenllian oedd wedi eu derbyn ar ran y Clwb mewn Noson Wobrwyo arbennig ym Mangor ar Tachwedd 17. Da iawn hogia am roi Clwb Ieuenctid Y Felin am y map ac am gymeryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae'r Clwb ar agor i bobol ifanc o blwyddyn 8 ymlaen yn Y Felin Sgwrsio ac yna yn y Neuadd Goffa bob nos Fawrth am 7 o'r gloch.Bydd y Clwb yn cael cyfleusterau modern ac addas fel rhan o'r gwaith fydd yn digwydd ar y Neuadd y flwyddyn nesaf.

YN Y LLUN : Bryn Owen ac Ashley Japheth

 

Neuadd Goffa Y Felinheli

Bydd noson arbennig yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa dydd Llun, Tachwedd 30 am 7 p.m pryd bydd y cynllun i wella'r neuadd yn cael ei ddangos a'i egluro'n llawn. Mae hyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda'r grwpiau defnyddwyr dros yr wythnosau diwethaf. Mae'r gwaith i ddigwydd yn y gwanwyn ac mae'n cael ei ariannu gan grant sylweddol gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth y Cynulliad. Mae croeso cynnes i bawb alw hebio i weld y cynlluniau cyffrous.

DATHLU'R NADOLIG

Bydd noson arbennig yn Y Felin Sgwrsio ar Rhagfyr 3 ( nos Iau) i ddathlu'r Nadolig. Tocynnau ar gael yn Y Felin Sgwrsio. Bydd stondin a chrefftau ar werth ac adloniant hefyd. Dewch ag unrhyw roddion draw dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y Clwb Cawl yn cyfarfod amser cinio Tachwedd 24 a bydd te Nadolig i aelodau Cymdeithas yr Henoed ar Tachwedd 27.

 

Dim seshiwn yn Y Felin Sgwrsio dydd Gwener nesaf

Fel arwydd o barch i'r diweddar Marcia Williams a'i theulu a'i ffrindiau, ni fydd sesiwn y cynghorwyr lleol yn cael ei gynnal yn Y Felin Sgwrsio dydd Gwener nesaf (Tachwedd 20).

Mae'r ardal gyfan yn dal mewn sioc ar ol y newyddion trist am ei marwolaeth. Roedd Marcia wedi gweithio fel glanhawraig yn yr ysgol leol am dros 20 mlynedd ac roedd yn adnabyddus i bawb o blant y fro.

 

CLIRIO SBWRIEL

Cynghorwyr Cymuned Daniel Williams a Carolyn Pritchard yn ymuno a'r Cynghorydd Sir Sian Gwenllian i glirio ardal o sbwriel yn Y Felinheli dydd Sul, Tachwedd 15. Mae'r tri yn aelodau o FelinDaclus, y grwp lleol sy'n ymgyrchu ar faterion sbwriel a baw can.

 

"Fe fuon ni'n clirio ardal fechan oedd yn llawn o hen ganiau, poteli wedi torri a sbwriel cyffredinol," meddai Sian Gwenllian.

 

 

 

 


"Mae o wrth ymyl yr arosfan bws ger Eglwys y Santes Fair ym mhen Caernarfon o'r pentref. Mae'n amlwg fod pobol wedi bod yn lluchio sbwriel dros y wal i dir preifat. Rydym wedi ei glirio erbyn hyn. Roedd yr arogl yn ofnadwy ac roedd hen glwt babi wedi pryfru yma yng nghanol y sbwriel!"

 


"Rwyf wedi holi Cyngor Gwynedd am bun gan nad oes yr un bun yn y rhan yma o'r pentref.
"Yn y cyfamser, gobeithio y bydd pobol yn mynd a'u sbwriel gartref. Rwy'n ddiolchgar i'r cynghorwyr Daniel Williams a Carolyn Pritchard am eu help yn clirio'r sbwriel."

 

FFAIR GREFFTAU Y FELINHELI CRAFT FAIR

 

Gwesty Pinc Palas Nos Iau y 12fed o Dachwedd 2009.

7.00pm – 9.00pm

£1 wrth y drws

Elw'r noson i Ysgol y Felinheli

Dewch i wneud eich siopa Nadolig a chefnogi crefftwyr lleol.

Pob math o stondinau yn gwerthu crefftau, bwydydd, tlysau, crysau T a chardiau.

 

Nos Fawrth Tachwedd 10ed
Bydd Cyfarfod Blynyddol pwyllgor Gwyl Y Felinheli ar Nos Fawrth Tachwedd 10ed am 8.15 yn Y Felin Sgwrsio. Bydd croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb fod yn bresennol ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Tan Gwyllt ar Lan Mor, Nos Iau, Tachwedd 5 am 7

 

NEWYDDION O'R FELIN SGWRSIO

Mae llu o weithgareddau pob wythnos - gan gynnwys tri clwb newydd.

Pob wythnos tan y Nadolig
LLUN : sgwrsio mewn Sbaeneg, 7.30
MAWRTH : Clwb Ieuenctid 7 o'r gloch ; wedyn yn y Neuadd.
MERCHER : Clinig Cyfrifiaduron : 10 tan 12
IAU :Felin ers Talwm ( 10 tan 12) ; Felin Stori am 5.30 p.m.
GWENER : Clonc a Chyngor ( 10 tan 12)
SADWRN ( 11 - 12.30) clwb y Dysgwyr
Clwb i rhai sy'n dioddef clefyd y siwgwr : 3ydd nos Fercher yn y mis
Clwb Ffilm : ambell i nos Sul olaf y mis
Clwb Gwin : ail nos Iau y mis am 7.30
Holl fanylion gan Myfanwy : 07870688783
Mae'r Felin Sgwrsio ar gael am £5 y tro i grwpiau cymunedol. Cysylltwch a Myfanwy.

FELIN SGWRSIO - Dyddiadu i'w nodi :
Tach 27 Te Nadolig Clwb yr Henoed (3.30)
Rhag 3 Blas y Nadolig

 

TORIADAU CYNGOR GWYNEDD
Dros y 3 blynedd nesaf mae'n rhaid i Gyngor Gwynedd ganfod miliynau o bunnau o arbedion.
Mae'r cynghorwyr yn edrych ar yr opsiynau ar hyn o bryd ac fe fydd y penderfyniadau yn cael eu gwneud yn mis Rhagfyr. Mae'n rhaid dewis o blith y canlynol ac fe hoffwn gael ei sylwadau. Fy ngwaith i fydd pwyso a mesur y gwahanol opsiynau a cheisio penderfynu pa rai fydd yn cael yr effaith lleiaf. Bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn ond byddaf yn ceisio rhoi blaenoriaeth i'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas - yn enwedig o blith plant, pobol ifanc a'r henoed. Gobeithio eich bod yn cytuno efo hynny fel egwyddor sylfaennol.
Dyma grynhoi yr opsiynau sydd yn fy nhyb i ymhlith y rhai lleiaf derbyniol :
1)Lleihau gwaith ar wynebau ein ffyrdd
2)Lleihau lefel y gwasanaeth i oedolion gydag anabledd dysgu o ran sgiliau cyfathrebu ( Cynllun Person Canolog).
3)Peidio rhoi cefnogaeth ychwanegol i blant mewn llochesi Cymorth i Ferched. Bydd y plant yn parhau i gael cefnogaeth gweithiwr cymdeithasol os oes angen ond bydd rhai yn colli cyfle am gyfnod allan o'r lloches.
4)Lleihau nifer y staff sydd ei angen i adolygu pyllau nofio.
5)Cau swyddfeydd casglu arian gan gynnwys Caernarfon a Bangor
6)Codi ffi i ddefnyddio'r toiledau cyhoeddus prysuraf a cau rhai.( dim yn cynnwys ty bach Lan Mor ar hyn o bryd)
7)Lleihau cyllideb i ysgolion arbennig gan gynnwys Pendalar
8)Diffodd goleuadau stryd rhwng 1 a 5 y bore heblaw yng nghanol y trefi a ffyrdd dosbarth 1
9)Cau canolfannau hamdden ar yr adegau lleiaf prysur
10)Ail-wampio gofal preswyl a nyrsio fyddai'n golygu llai o gartrefi preswyl a mwy o Dai Gofal ychwanegol, mwy o welyau nyrsio a mwy o welyau i'r rhai a phroblemau cof.
11)Newid meini prawf mynediad i wasanaethau oedolion fyddai'n golygu fod llai o bobol hyn a'r rhai efo anabledd dysgu yn gymwys am help gofal cartref a gofal preswyl
12)Torri ar nifer athrawon yn yr ysgolion uwchradd : effaith ar ansawdd addysg
13)Lleihau darpariaeth ar gyfer disgyblion gyda phroblemau ymddygiad ac emosiynol - yn cynnwys cau Canolfan Brynffynnon. Byddai'r plant yn aros yn yr ysgolion prif lif ac yn cael cefnogaeth yno.
14)Codi pris cinio ysgol gynradd i £2.80 y pryd ( £1.80 ar hyn o bryd). Byddai lleihad yn y galw a llai o staff yn y ceginnau.
15)Codi tal o £5 yr wythnos am gludiant ar bawb dros 16 sy'n byw mwy na 3 milltir o ysgol neu goleg.
16)Llai o lety ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu a hyrwyddo "byw yn eu cymunedau".
17)Llai o staff i weithio ym maes diogelwch bwyd ac ati ( Gwarchod y Cyhoedd).
18)Lleihau nifer staff yn yr ysgolion cynradd - athrawon, cymorthyddion dosbarth : effaith ar ansawdd addysg.
19)Toriad ar rai gwasanaethau bws.
20)Plant 3 oed i gael eu haddysg (2 awr) yn yr ysgolion yn hytrach na mewn cylchoedd meithrin. (plant yn cael ei derbyn 3 gwaith y flwyddyn yn lle unwaith) Byddai'r Mudiad Ysgolion Meithrin yn colli grant ac efallai y byddai'n cael effaith ar y Cylch Ti a Fi ac mi fyddai'n anodd cynnal Cylch Meithrin ar gyfer plant rhwng 2 a hanner a 3 oed.
21)Llai o gefnogaeth i ysgolion drwy leihau'r grant i CYNNAL : effaith ar ansawdd addysg.
22)Dileu'r Pwyllgor Cynllunio Ardal ( yn cynnwys Arfon) a chreu un pwyllgor ar gyfer Gwynedd.
23)Lleihau gwaith gwella llwybrau cyhoeddus lleiaf eu defnydd
24)Lleihau maint grantiau Cymdeithas y Stroc, Age Concern, Citizens Advice Bureau, GISDA.
25)Cael gwared a swyddfeydd Penrallt.Adleoli swyddi i dde'r Sir.
26)Cwtogi rhaglen Nofio am Ddim
27)Cau'r unedau anhwylderau iaith e.e. Coed Mawr a chynnig y gwasanaeth yn yr ysgolion yn sgil rhaglen hyfforddi.
28)Llai o ymweliadau ag ysgolion gan y Gwasanaeth Llyfrgell.
29)Mwy o ddefnydd o wirfoddolwyr wrth roi gwasanaeth dydd i oedolion ag anabledd dysgu (anghenion cymharol isel) a llai o ganolfannau
30)Llai o grant i neuaddau cymunedol fel y Neuadd Goffa ( byddai'r Clwb Ieuenctid yn dal i gael grant).
31)Lleihau amlder gwagio canolfannau ailgylchu e.e. ger yr Half Way
32)Dileu pecyn o arian sydd ar gael i bobl efo iechyd meddwl sydd mewn sefyllfaoedd o galedi.( yn ychwanegol at fudd-daliadau etc).
33)lleihau grantiau i'r celfyddydau
34)Lleihau y gyllideb am offer i rai sydd angen therapi galwedigaethol drwy gydweithio efo asiantaethau eraill.
35)Codi ffioedd materion fel difa pla a cheisiadau cynllunio.

Dyma'r opsiynau sydd o'n blaenau. Dydy hyn ddim yn cynnwys yr arbedion fydd yn cael eu gwneud drwy well cyd-weithio; ail-strwythuro staff a chael gwared ar eiddo ( fe fydd yr Unedau Diwydiannol ger Penningtons yn cael eu cynnig ar werth i'r tenantiaid presennol). Mae mwy o fanylion ar www.gwynedd.gov.uk
Hoffwn eich barn chi os oes gennych funud i'w sbario. Pa opsiynau yr ydych yn eu ffafrio fwyaf a pa rai y lleiaf ? Diolch am eich sylw.
Sian Gwenllian.

Adroddiad Cynghorydd Sir Y Felinheli
1)MATERION CYNLLUNIO
a)Bron Menai : mae'r arolygydd wedi caniatau y cais am dy arall ar ol i'r mater fynd i apel.
b)11 Ffordd Caernarfon: rhoddwyd caniatad i ddymchwel y ty a chodi 4 fflat. Bydd y bae parcio cymunedol ger llaw yn cael ei farcio er mwyn hwyluso'r parcio.
c)Cais am 7 ty 2-stafell wely gyferbyn a'r Half Way : mae hwn yn cael ei drafod gan y swyddogion a'r datblygwr ar hyn o bryd. Yn ol y swyddogion, mae'r dadleuon yn erbyn y datblygiad yn wan ond fe ellid cynnwys cymal fyddai'n golygu mai tai ar gyfer pobol leol fyddai rhain. Gellir gweld y cais ar wefan Cyngor Gwynedd (gwynedd.gov.uk)
2)PARCIO: mae'r Cyngor Cymuned yn cynnal arolwg i ganfod maint y broblem yng nghanol y pentref. Gallai fod cyfle i gael maes parcio tu ol i Neuadd yr Eglwys ( trafod wedi cychwyn gyda'r Eglwys). Syniad arall yr wyf yn drafod gyda Cyngor Gwynedd yw gadael i bobol barcio am ddwy awr ( yn lle'r 30 munud presennol) ar y rhan o Stryd Bangor gyferbyn a Cut Above - a dim cyfyngiad ar y parcio ar y penwythnos. Cysylltwch os nad ydych yn cytuno!
3)NEUADD GOFFA : mae'r pensaer yn gweithio ar gynllun gwella sylweddol. Bydd cyfle i bawb ei weld a rhoi eu barn yn fuan.
4)NOSON FELIN MEWN BLODAU : Gwobrau mewn sawl categori gyda gardd Craig y Don yn brif enillydd. Diolch i'r Cynghorydd Pat White am drefnu eto eleni. Gweler www.felinheli.org
5)CLWB IEUENCTID : Bum yn cydweithio gyda'r arweinwyr ar brosiect ble mae'r bobol ifanc yn gwneud bocsys adar. Mae'r Clwb yn cyfarfod yn Y Felin Sgwrsio ac yn y Neuadd Goffa ac wedi denu nifer o aelodau newydd.
6)FELIN SGWRSIO : mae rhaglen o weithgareddau amrywiol wedi ei paratoi at y flwyddyn i ddod. Rwyf yn parhau i fod yno ar foreau Gwener. Galwch heibio.
7)SBWRIEL : cafwyd bun newydd yn y maes peldroed ar Lan Mor a bin newydd yn lle un oedd wedi malu ger y siglenni. Mae bun newydd ar Stryd Bangor ac fe gytunodd Chans i osod bun tu allan. Cafwyd ymgyrch casglu sbwriel yn Rowen a Lan Mor gyda phlant ysgol.(lluniau ar www.felinheli.org)
8)GANG CYMUNEDOL : rwyf yn trafod eu rhaglen waith yn rheolaidd. Mae'n cynnwys torri gwair, chwynu a man waith o gwmpas y pentref. Mae edrychiad y pentref wedi gwella yn sgil eu gwaith. Gadewch i mi wybod am unrhywbeth sydd angen sylw. Bu cryn waith tacludo yn Maes y Felin yn ddiweddar a bydd gwaith yn digwydd yn Rhyd Y Fenai.
9)PLISMAN CYMUNEDOL : mae Gethin Edwards wedi ei benodi fel y plisman cymunedol ac mae CBM newydd yn Felin o'r diwedd hefyd - mae Andy Jackson yn siarad Cymraeg ac ar gael ar 07896 170116 neu andrew.jackson@nthwales.pnn.police.uk Rwyf yn gweithio gydag Andy ar ffyrdd o wella problem baw cwn yn y pentref.
10)GWAITH SIROL : Rwyf yn parhau i fod yn aelod o'r Panel Sirol ar Ad-drefnu Ysgolion Cynradd ac yn Gadeirydd y Gweithgor Gwella Gwasanaethau Ieunectid ac yn aelod o'r Gweithgor Sgiliau. Rwyf hefyd yn lywodraethwr yn Ysgol Felinheli ac Ysgol Syr Hugh ( ble rwyf yn aelod o'r paneli Adeiladau, Cyllid a Chwricwlwm).Mae arbedion mawr yr y ffordd fydd yn effeithio gwasanaethau'r Cyngor. Materion all gael effaith uniongyrchol yn Felin - torri grant y Cylch Meithrin, dyfodol Canolfan Brynffynnon, staffio yn yr ysgolion, gwerthu unedau diwydiannol y Cyngor. Does dim penderfyniadau wedi eu gwneud eto.
11)FERODO : yn sgil y cyhoeddiad na fydd carchar yn dod i'r safle, mae Cyngor Gwynedd yn trafod posibiliadau eraill ar gyfer y safle. Mae gwahoddiad i'r Cyngor Cymuned ymuno a Chyngor Tref Caernarfon mewn cyfarfod gyda'r datblygwyr (Bluefiled) i drafod y dyfodol.
12)TIR YR HEN REILFFORDD : fe fydd rhannau o'r tir o flaen rhai o'r tai yn Ffordd Caernarfon yn cael eu cynnig ar werth ond fe fydd 3 medr o'r trac yn cael ei ddiogelu ar gyfer llwybr/lon las i'r dyfodol. Rwyf yn trafod y manylion gyda swyddogion y Cyngor ac mae'n debyg y bydd y tir yn cael ei roi ar brydles i'r Cyngor Cymuned.
13)CARAFAN ger y llwybr cyhoeddus sy'n mynd i Dinas : Mae hon ar dir Cyngor Gwynedd ac mae'r Cyngor yn cymeryd camau cyfreithiol i'w symud. Byddai angen caniatad cynllunio i leoli carafan barhaol yn yr ardal yma.
14)DIOGELWCH TRAFFIG : bum mewn cyfarfod gyda swyddog o Wynedd ac mae wedi cytuno i roi un "hump" arall ar Ffordd Brynffynnon ger mynedfa'r ysgol ( Canolfan Brynffynnon) ac i roi awryddion mwy clir. Mae hefyd wedi cytuno i roi ARAF/SLOW ar y ffordd ger y Gardd Fon. Mae hefyd yn awyddus i ymestyn y llinellau melyn dwbwl sy'n dod rownd y gornel tu allan i'r Gardd Fon. Byddai 3 lle parcio yn cael eu colli. Rywf yn trafod efo'r landlord a pherchennog y ty drws nesaf. Sylwadau os gwelwch yn dda! Bydd y mater yn cel ei drafod yn y Cyngor Cymuned nesaf.
15)TIR YR HEN RHEILFFORDD ger PENNINGTONS: mae posibilrwydd o arian grant i greu maes chwarae aml-bwrpas ar y rhan agosaf at yr unedau diwydiannol. Mae'n ddyddiau cynnar a bydd hyn yn cael ei drafod yn llawn gan y Cyngor Cymuned.

Cystadleuaeth Garddio - Y Felin mewn Blodau

Canlyniadau:
Yn y categori busnes yr enillwyr oedd Tafarn y Fic, Hotel Plas Dinorwic yn ail a'r Halfway yn drydedd.
Basgedi Crog : 1. Mr M. Edwards, Four Crosses, Siloh; 2. Mr Bryan Ward, Bryn Rhedyn, Brynffynnon.
Bocsys Ffenest/Patios - 1.Mr and Mrs Parry, 1 Bush Road, 2. Mr and Mrs D. Coates, Sycharth, Bangor Street, 3. Mr and Mrs K.F. Williams, 23 Trem y Foel.
Gardd Fechan - 1. Mrs A. Oxton, Siloh, 2. Mr and Mrs Harrison, 44 Caernarfon Road, 3. Mr and Mrs G. Owen, Elim Cottages, Siloh
Gardd Fawr - 1.Mr a Mrs D. Jones, Craig y Don, 2. Mr and Mrs J.H. Owen, Tan'rallt, Brynffynnon, 3. Mr and Mrs Pepper, Beechwood, Siloh.
Prif ennillydd 2009 - Mr and Mrs D. Jones, Craig y Don.

Cynhaliwyd noson gyflwyno yng Ngwesty'r Plas Dinorwic ar Medi 29 Cadeirwyd gan Cynghorydd Sian Gwenllian. Cyflwynwyd y gwobrau gan Hywel Williams AS.

NEWYDDION O'R FELIN SGWRSIO

Mae llu o weithgareddau pob wythnos - gan gynnwys tri clwb newydd:

BODY SHOP : yn Y Felin Sgwrsio on Mercher 28, 7.30 p.m. Ticedi gan Pat Jones 01248 670646

CAWL : yn Y Felin Sgwrsio, Mawrth, Hydref 27 12 - 2. Ticedi gan Myfanwy : 07870688783

BORE COFFI : yn Y Felin Sgwrsio, Gwener, Hydref 30 11 a.m.

Pob wythnos tan y Nadolig ( oni bai am y gwyliau ysgol) :

LLUN : sgwrsio mewn Sbaeneg, 7.30
MAWRTH : Clwb Ieuenctid 7 o'r gloch ; wedyn yn y Neuadd.
MERCHER : Clinig Cyfrifiaduron : 10 tan 12 - 12)
IAU :Felin ers Talwm ( 10 tan 12) ; Felin Stori am 5.30 p.m.
GWENER : Clonc a Chyngor ( 10 tan 12)
SADWRN : ( 11 - 12.30) clwb y Dysgwyr

Clwb i rhai sy'n dioddef clefyd y siwgwr : 3ydd nos Fercher yn y mis
Clwb Ffilm : ambell i nos Sul olaf y mis
Clwb Gwin : ail nos Iau y mis am 7.30)

Holl fanylion gan Myfanwy : 07870688783
Mae'r Felin Sgwrsio ar gael am £5 y tro i grwpiau cymunedol.

FELIN SGWRSIO - Dyddiadu i'w nodi : Tach 27 Te Nadolig Clwb yr Henoed (3.30); Rhag 3 Blas y Nadolig ; Rhag 11 : Bore coffi Nadoligaidd

Dathlu dau o feirdd enwocaf Cymru

Gallai hwn fod o ddiddordeb i ddisgyblion ysgol sy'n astudio TGAU a Lefel-A Cymraeg. Cliciwch yma i weld poster yn hysbysebu gweithgareddau Gŵyl T.H.Parry-Williams ac R.Williams Parry a gynhelir ar benwythnos Hydref 31ain – Tachwedd 1af. Bydd yr ŵyl yn dathlu cyfraniad arbennig y ddau fardd yma i ddiwylliant leol a chenedlaethol, gan edrych yn arbennig ar ddylanwad tirwedd Eryri a’r cyffiniau ar eu gwaith. Caiff yr ŵyl ei chyd-drefnu gan Yr Academi, Cyngor Gwynedd a Bwrlwm Eryri.

Ar ddydd Sadwrn, Hydref 31ain, am 2 o’r gloch, bydd Twm Elias yn arwain Taith Hanes a Natur Rhyd Ddu, gyda lluniaeth a sgwrs gan y Prifardd Iwan Llwyd i ddilyn yn Nhŷ’r Ysgol, Rhyd Ddu.

Hefyd, ar y nos Sadwrn, am 7.30 y.h. cynhelir Talwrn yng Nghaffi Gwynant, Nant Gwynant. Yn meuryna y bydd y Prifardd Mei Mac . Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y noson.

Ar ddydd Sul, Tachwedd 1af, am 2 o’r gloch, bydd Dr Gwynfor Pierce Jones a Dr David Gwyn yn arwain Taith Hanes Talysarn, gyda lluniaeth a sgwrs gan y bardd Karen Owen i ddilyn yng Nghwt y Band, Talysarn.

CASGLU SBWRIEL

Yn y llun mae plant Canolfan Brynffynnon fu'n helpu clirio sbwriel yn ystod Wythnos Cymru'n Daclus.

 

 

 

 

Bu criw yn casglu sbwriel yn Rowen ac ar Lan y Mor fel rhan o Wythnos Cymru'n Daclus.

Diolch i blant Ysgol Y Felinheli, Canolfan Brynffynnon ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen am eu help. Cliciwch yma i weld lluniau

 

----------------------------------------------

DIM CARCHAR AR SAFLE CAERNARFON

Dyma ddatganiad swyddogol y llywodraeth :
Dywedodd Maria Eagle y Gweinidog dros Garchardai

"Ar ol ysytriaeth ofalus, penderfynodd y Weinyddiaeth dros Gyfiawnder i ddod â'i diddordeb i brynu hen safle Dynamex ger Caernarfon, Gogledd Cymru i ben.

Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau i'r trethdalwr. Roeddem yn ymwybodol fod ambell i broblem gyda'r safle, ac o'n gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy gwelwyd nad oedd yn addas i'w ddatblygu yn garchar.

Wrth edrych am safle newydd, proses a fydd yn agored ac yn un o ymgynghori, byddwn yn gweithio gyda Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill i ddod o hyd i safleoedd newydd yng Nghymru.

Nid yw'r penderfyniad i dynnu'n ol yn effeithio ar ein cynlluniau i werthu safle hen goleg hyfforddi'r heddlu yng Nghwmbran, nac ychwaith yn effeithio ar ein hymroddiad i ddarparu 96,000 o lefydd mewn carchardai erbyn 2014.
(Yasser Mehmood | Press Officer - News Desk | Press Office | Ministry of Justice
102 Petty France , London , SW1H 9AJ | 020 3334 3536 | www.justice.gov.uk
scroll down for English)

Dyma oedd ymateb y Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian. Mae safle'r cyn-Ferodo a Dynamex yn ward Y Felinheli :

"Mae hyn yn newyddion trist iawn i bawb oedd wedi gobeithio cael gwaith yn y carchar newydd. Er fod gennyf amheuon am y cynllun, roeddwn yn gallu gweld y byddai carchar ar raddfa fechan yn llesol i'r economi yn lleol ac i deuluoedd carcharorion o Gymru. Mae'n ymddangos bellach fod y Gweindiog yn chwilio am garchar llawer mwy ond byddwn yn llwyr yn erbyn cynllun mawr yn Ferodo.
Mae'n ymddangos fod anghenion Gogledd Cymru yn isel iawn o ran blaenoriaethau'r llywodraeth yn San Steffan - mewn termau economaidd ac o ran y sustem gyfiawnder. Gorau pob gyntaf y cawn mwy o rym i'r Cynulliad a sustem gyfiawnder wedi ei llunio'n benodol ar gyfer Cymru."

----------------------------------------------

Clwb Ieuenctid
Cafwyd ddechrau cyffrous i'r tymor yn y Felin Sgwrsio, a falch gweld gwynebau newydd ifanc, brwdfrydig. Braf yw cael bod mewn adeilad clyd eleni, er rydym yn dal i ddefnyddio'r Neuadd Goffa ar gyfer sesiynau peldroed, badminton a pwl. Croesawyd Mark Balaam o Gyngor Cefn Gwlad i adeiladu blychau nythu efo'r bobl ifanc a thrafod prosiect alotments. Noson hwyliog iawn - edrychwch allan am y blychau ar Lon Las Menai yn fuan, wedi i'r gwaith o'u paentio gael ei gwblhau. Gweithgareddau yn yr wythnosau nesa yn cynnwys: cwis Arfon, coginio pryd tri chwrs, trip sinema.
Mae'r Clwb ar agor ar nos Fawrth rhwng 7 a 9 i bobl ifanc yr ardal rhwng 12 a 19 oed. Am fwy o fanylion, cysylltwch a Elwyn Jones ar 01286 673211 neu tarwch draw am sgwrs.

----------------------------------------------

TEULU ESTYNEDIG YN CYNNIG GOBAITH NEWYDD

Mae model y teulu estynedig wrth wraidd newid yn nhrefn
pethau yn un o gapeli Y Felinheli.

O ddydd Sul nesaf ymlaen( Medi 13eg), bydd y clwb capel a'r
oedfa yn Bethania/Elim yn uno, gyda'r gwasanaeth newydd yn
cychwyn am 10.30.

" Y syniad ydi ail-sefydlu patrwm lle bo plant, pobl
ifanc ac oedolion yn gallu cyd-addoli ac ail-greu'r synnwyr
o un teulu estynedig sy'n cynnal ein gilydd ac hefyd yn
ymestyn allan mwy i'r gymuned" meddai Aled G Job, un o
swyddogion Bethania/Elim.

" Roedd y clwb capel a'r oedfa yn dueddol o weithredu fel
bydoedd ar wahan, a'r gobaith ydi y bydd yr uniad hwn yn
gwneud ni'n gryfach, ac yn fwy perthnasol."

Dywedodd hefyd y byddai'r newid hwn yn gallu arwain at
newidiadau eraill yn nhrefn y gwasanaeth ei hun.

"Fedran ni ddim aros yn yr un rhigol. Mae'n rhaid gwneud y
gwasanaeth yn fwy perthnasol ar gyfer anghenion heddiw, ac
mae'n rhaid inni agor y drws i ffyrdd newydd o wneud pethau.


"Yn sylfaenol, dan ni'n rhannu ein ffydd hefo miliynau o
bobl trwy'r byd i gyd. Mae angen tynnu ar y cryfder hwnnw
wrth gyflwyno ein neges yma'n lleol!"

Parti llefaru Parti'r Heulyn

Sefydlwyd y parti llefaru pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol yn 2005. Ers hynny mae'r parti wedi cystadlu 4 gwaith gan gynnwys Eisteddfod y Bala o dan arweiniad Sian Mair sydd gyda phrofiad eang o lefaru. Mae Sian yn un o enillwyr Llwyd o'r Bryn.

Mae'r parti wedi bod yn cyfarfod ar ol y Nadolig i baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r sesiynnau ymarfer wedi bod yn cael eu cynnal yng Nghapel Bethania ar nos Lun.

Cysylltwch gyda Nerys John ar 670634

----------------------------------------------

LANSIO FFILM Y FELIN

Bydd Clwb Ffilm newydd, FFILM Y FELIN yn cael ei lawnsio yn y Felin Sgwrsio nos Sul nesaf, Awst 2.

Bydd FFILM Y FELIN yn dangos ffilmiau rhyngwladol unwaith y mis ar nos Sul, a'r ffilm cyntaf gaiff ei ddangos ydi'r ffilm Gaeleg SEACHT( 2008), sydd wedi ennill sawl gwobr o bwys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cyflwynir SEACHT ( The Inaccessible Pinnacle) gan Jonathan Ervine, darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor, sydd hefyd yn aelod o Glwb y Dysgwyr Y Felinheli.

"Mae Seacht yn ffilm sy'n edrych ar hanes cyfoes a mytholegol yr Alban a hynny trwy berthynas taid a'i wyr sy'n byw ar ynys Skye" meddai Jonathan. "Mae'n stori bwerus iawn,a dwi'n meddwl y bydd pobl yn ei mwynhau'n arw."

Darperir Caws a Gwin i bawb ddaw draw ar gyfer y noson agoriadol ac fe fydd cyfle hefyd i bobl ymaelodi a Ffilm y Felin yn ystod y noson.

Bydd y noson yn cychwyn am 7.00. Mwy o fanylion drwy ffonio Cadeirydd Y Felin Sgwrsio, Aled G Job ar 07818 068 205.

------------------------------------

HAF 2009

Bydd llyfrau Cymraeg a Saesneg ail-law ar werth yn Y Felin Sgwrsio drwy'r gwyliau haf. Mae dewis da o bob math o lyfrau - gyda mwy o lyfrau yn cyrraedd wrth i'r rhai sydd yno gael eu gwerthu. Ambell i lyfr prin a bargen ar gael! Dewch a'ch llyfrau draw ( rhaid iddyn nhw fod mewn cyflwr da.) Bydd y ganolfan ar agor DRWY'R HAF ar yr adegau canlynol gyda aelodau'r pwyllgor yn cynnig panad i bawb sy'n galw heibio.

Nos Lun : 7 - 8.30 p.m. (Bydd y grwp sy'n cyfarfod i sgwrsio mewn Sbaeneg yno hefyd).
Mercher 10 - 12
Gwener 10 - 12
Sadwrn 11 - 12.30 (Bydd Clwb y Dysgwyr yn cyfarfod hefyd).

Bydd y gweithgareddau Clwb arferol yn ail-gychwyn yn Medi - gyda'r Clwb Ieuenctid yn cyfarfod pob nos Fawrth hefyd. Mae'r lle ar gael fel arfer ar nosweithiau Mercher a Iau ac ar adegau eraill - cysylltwch a Sian Gwenllian i logi lle. £5 y sessiwn gyda lle i hyd at 25 o bobol.

Mae digwyddiadau eraill yn cel eu cynllunio at yr hydref - croeso i awgrymiadau.

Rydym wedi cael blwyddyn gyntaf lawn a llwyddiannus - cewch weld be sy wedi bod yn digwydd ar www.felinheli.org.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

------------------------------------

 

Adroddiad Cynghorydd

Mehefin/Gorffennaf 2009

  1. Parcio oddi-ar-y-stryd : mae'r Cyngor Cymuned yn cynnal arolwg i ganfod maint y broblem yng nghanol y pentref ac yn trafod be sy'n bosib. Maes y Felin : a wnewch chi nodi fod y mannau parcio ar gyfer tenantiaid yn unig.
  2. Arosfan bws Ffordd Caernarfon : tra'n derbyn nad yw'r trigolion lleol i gyd yn hapus, erbyn hyn mae gennym ni leoliad parhaol ar gyfer arosfan bws yn yr ardal yma. Cafodd y lleoliad yma ei awgrymu gan Gyngor Gwynedd fel y cyfaddawd gorau o dan yr amgylchiadau.
  3. Rwyf wedi bod yn trafod ffyrdd o ddatblygu'r Clwb Ieuenctid gyda'r Arweinydd a gyda swyddogion Gwynedd. O fis Medi ymlaen bydd y Clwb yn defnyddio'r Felin Sgwrsio (7 tan 8) a'r Neuadd Goffa (8 tan 9) ar nosweithiau Mawrth. Pan fydd y gwaith ar y Neuadd wedi ei gwblhau bydd cyfleusterau gwych ar gael. Yn y cyfamser, roedd yr Arweinydd yn teimlo y byddai defnyddio'r ddau le yn creu gwell cyfleon i'r aelodau. Mae prosiect awyr agored i adeiladu bocys adar a llwybr pren yn y goedwig fechan tu cefn i'r Maes Parcio Cymunedol yn cychwyn yn Medi gyda help grant gan FelinDaclus (y grwp amgylcheddol) sydd wedi bod yn gweithio gyda Cadw Cymru'n Daclus a Chyngor Gwynedd ar nifer o brosiectau. Mae'r Clwb ieuenctid ar agor i bobol ifanc y pentref o Blwyddyn 8 ymlaen.
  4. Mae'r FelinDaclus wedi derbyn grant o £1,000 ar gyfer ymchwilio a datblygu prosiect rhandiroedd ar gyfer y pentref. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda Cyngor Gwynedd a Trefi Taclus ac fe fydd cynllun prosiect yn cael ei lunio. Bydd aelodau FelinDaclus yn ymweld ag ardaloedd eraill yn yr hydref i gasglu gwybodaeth.Mae llawer o ddiddordeb yn y syniad. Mae'r tir ger y Lon Las tu ol i Arvonia dan ystyriaeth.
  5. Lon Las : mae pont newydd wedi ei chodi yn Seilo. Cafodd y goeden oedd wedi disgyn ger Tai Hen Stesion ei symud yn brydlon.
  6. Llwybrau : Rwyf wedi gofyn i Gyngor Gwynedd gynnal gwaith cynnal a chadw ar y tri llwybr oddi ar Ffordd Caernarfon.
  7. Mae'r Gang Cymunedol wedi bod yn gweithio yn y pentref eto wythnos diwethaf yn dilyn rhestr waith y bum yn ei thrafod efo nhw.Fe fuon nhw'n torri tyfiant ac yn paentio'r fainc a thrwshio'r wal ger stepiau Cei. Fe fyddan nhw'n ol mis nesaf.
  8. Tai i bobol leol : Mae datblygwr yn ystyried cyflwyno cais cynllunio ar gyfer datblygiad cymysg o hyd at 30 o dai newydd ger Y Wern.
  9. Gofynnais i Dwr Cymru ymchwilio i'r broblem dwr sy'n casglu ger eiddo ar Ffordd Caernarfon. Cafodd peipen oedd wedi byrstio oedd yn effeithio'r Lon Las ger Tafarngrisiau ei thrwsio. Mae'r broblem o oglau drwg o'r beipen carthffosiaeth tu ol Arvonia dal yno.
  10. Felin mewn Blodau: bydd y gerddi yn cael eu harchwilio a'u beirniadu dros y bythefnos nesaf a bydd seremoni wobrwyo yn Medi. Diolch i'r Cynghorydd Pat White (07765411475) am drefnu.
  11. Lon Inclein : mae arwyddion newydd yn atal loriau mawr wedi eu gosod gan Gyngor Gwynedd i geisio lleihau'r difrod i waliau ar ddwy ochr y ffordd gul.
  12. Rhyd Y Fenai : rwyf wedi cael cyfarfod safle gyda swyddog o Wynedd. Dwi'n dal yn anhapus ynglyn a'r tir bler o gwmpas y tai.
  13. Diolch o galon i drefnwyr Gwyl Y Felin am achlysur hynod llwyddiannus.Roedd yr adroddiad papur newydd am ddigwyddiadau fu oriau ar ol diwedd swyddogol y carnifal yn gamarweiniol ac anheg. Roeddwn yn dyst i un digwyddiad pan gafodd gwr ifanc ei roi mewn car heddlu ac fe ddefnyddiwyd chwistrell pupur tu mewn i'r car, a digwyddiad arall pan ddechreuodd dau o fechgyn o tu allan i'r pentref ymladd tu allan y toiledau ar Lan Mor. Byddaf yn gweithio efo Pwyllgor yr Wyl a'r heddlu i atal problemau tebyg flwyddyn nesaf ond mae'n bwysig eu cadw mewn cyd-destun.
  14. Baw Cwn - yn parhau i fod yn broblem mewn rhai rhannau ac rwyf yn gweithio efo'r plisman cymunedol i wella petha. Mae rhai yn troseddu yn aml ac fe fydd rhain yn cael eu targedu. Mae rhai o'r llefydd gwaethaf yn cynnwys o gwmpas yr arosfan bws yn Aberpwll, cefn Stryd Bangor, Stryd Bangor ei hun, y Lon Las tu ol Arvonia, y maes parcio cymunedol. Mae'r rhan fwyaf o berchnogion yn gyfrifiol iawn.
  15. Canglwm Siapaneaidd : mae hwn yn broblem mewn rhannau. Mae angen ei chwistrellu'n systematig gan ymgymerwr gyda thrwydded. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Chlerc y Cyngor Cymuned, Wynne Barton ar 01286 673036.
  16. Lansiwyd y cynllun Yma i Helpu yn Felin. Mae modd i berchnogion tai preifat gael help gyda inswleiddio a mesurau arbed ynni. Cysylltwch a Adrian Roberts yng Nghyngor Gwynedd.

------------------------------------

UN BANQUETE DE ESPANOL - GWLEDD O SBAENEG >
Daeth y tymor o sesiynau Sbaeneg presennol yn Y Felin Sgwrsio
i ben nos Lun gyda gwledd o fwydydd Sbaeneg.
Daeth wyth aelod o'r Clwb Hablar Espanol ynghyd i fwynhau'r
bwyd oedd wedi ei baratoi gan Anwen Lyn, Anwen Owen a Dilys Myfanwy.
Bydd y sesiynau gan Mary Pampolini Roberts ar gyfer
dechreuwyr yn ail-gychwyn ym mis Medi. Ond bydd y ddarpariaeth ar
gyfer dysgwyr mwy rhugl sydd am ymarfer eu Sbaeneg yn cario mlaen dros yr haf pob nos Lun y Y Felin Sgwrsio am 7.00.
Am fwy o fanylion cysylltwch ag Aled G Job ar: 07818 068
205.

------------------------------------

Times On- Line 05.06.09

'10 great village fetes

WALES
Climbing the non-greasy pole
Gwyl Y Felinheli, Y Felinheli, Gwynedd, North Wales
Welsh villages hold festivals — or gwyl — with traditional sports. This one involves a lumberjack show on the village green in which a pole is rammed into the ground and locals compete to climb it. Another challenge involves making a chair out of a log as quickly as possible. Festivities, including a 10km fun run and congregational singing on the beach, take place for a week in the run-up to the festival parade on July 5. Free.'

------------------------------------

Ystadegau Felinheli.org

Rydych ymhlith rhai miloedd o bobol ar draws y byd sy'n ymweld a'r wefan hon! Anfonwch eich newyddion, lluniau a digwyddiadau at post@felinheli.org
Dyma'r ystadegau :

Meh/ June 2009 = 29,839 hits
Mai / May 2009 = 27,796 hits
Ebr / April 2009 = 29,487 hits
Maw / March 2009 = 25,385 hits

------------------------------------

O FLAEN DY LYGAID: CYFRINACH OLAF FRIDA

Dydd Mawrth, Gorffennaf 7, BBC Cymru ar S4C, 9pm ac eto nos Sadwrn Gorffennaf 11 a nos Lun Gorffennaf 13 (digidol yn unig

)I’r newyddiadurwr Karen Owen, mae amgylchiadau marwolaeth ei hen-nain yn dipyn o ddirgelwch. Darganfuwyd Frida Williams yn farw yn ei chartref 24 Stryd Menai, Y Felinheli ar fore’r 10fed o Ragfyr 1949 ac er bod marwolaeth naturiol wedi ei gofnodi gan y doctor ar y pryd, nid yw darnau’r jig-so cymhleth hwn yn cwympo i’w lle.

Naw mlynedd yn ôl fe benderfynodd Karen, sy’n gweithio i BBC Cymru ym Mangor, ymchwilio i farwolaeth Frida. Mae O Flaen dy Lygaid: Cyfrinach Olaf Frida (Dydd Mawrth, Gorffennaf 7, BBC Cymru ar S4C) yn dilyn ei thaith emosiynol wrth iddi geisio gwneud synnwyr o symudiadau olaf Frida a’r digwyddiadau o gylch ei marwolaeth.

Mae Karen wedi clywed yr hanes lawer tro am sut y bu i fab Frida, Adrian (taid Karen) ei darganfod ar y bore Sul hwnnw. Er bod ei choban wedi ei rwygo a chleisiau o gylch ei gwddw ni fu ymchwiliad swyddogol gan yr heddlu i’w marwolaeth. Roedd y bwrdd wedi ei osod i ddau a neb wedi cyffwrdd â’r  llestri sy’n awgrymu fod y wraig weddw yn disgwyl cwmni y noson honno.

Yn ystod y rhaglen mae Karen yn galw yn 24 Stryd Menai am y tro cyntaf ac yn gweld yr ystafell wely lle cymerodd Frida ei hanadl olaf. Wrth iddi ymweld â’r bedd, mae ei hamheuon am y dirgelwch yn cryfhau wrth weld y garreg fedd blaen ymysg cerrig addurniadol y cyfnod.

“Pan dwi’n sbïo ar hon y prif beth ella sy’n dod i’r meddwl, yw bod ’na rhyw frys, rhyw awydd i gladdu Frida fan hyn a rhoi diwedd ar y bennod erchyll yn hanes y teulu. Falle fod y gwir wedi ei gladdu yma gyda hi.”

Pan laddwyd Edith Williams o Siliwen, Bangor ym 1967 a hithau’n 84 mlwydd oed fe gafodd dyn lleol, Arthur Phillip Wynne ei gyhuddo o’i llofruddio. Roedd Arthur hefyd yn ffrind i Frida ac roedd i’w weld yn aml yn gwario’i harian yn nhafarndai pentref Felinheli. Yn ystod yr ymchwiliad i farwolaeth Edith, fe wnaed cais gan yr heddlu i godi corff Frida er mwyn gwneud profion fforensig ond fe wrthododd y teulu ar y pryd.

Dengys ymchwil Karen fod Arthur Phillip Wynne wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes ond cafodd ei ryddhau ar ôl treulio 12 mlynedd dan glo. Yn fuan ar ôl cael ei ryddhau ym 1979  fe drawodd eto gan ladd Eirlys Roberts, dynes 23 oed o Landudno. Mae Karen yn penderfynu ymchwilio’n bellach i weld a oedd y dyn yma yn gysylltiedig â marwolaeth Frida.

“Ella mai’r newyddiadurwr ynof i sy’n credu os oes 'na stori i’w deud ei bod hi’n cael ei deud yn iawn ac yn gywir un waith a mae’n osgoi’r holl siarad a’r hel clecs sy’n gallu codi wedyn,” esbonia Karen.

------------------------------------

Rhai o ddigwyddiadau diweddar Y Felin Sgwrsio

Roedd noson Body Shop yn boblogaidd iawn a llwyddwyd i godi dros £140 i'r Felin Sgwrsio. Mae'r swyddog diogelwch cymunedol yr heddlu, Mike Davies, yn galw heibio weithiau i'r Sesiwn Clonc a Chyngor ar fore Gwener (10 tan 12) lle mae cyfle i chi drafod materion lleol efo'r Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian a'r Cynghorwyr Cymuned Ken Brown a Pat Jones. Neu jest galwch am banad! Bob bore Sadwrn mae Clwb y Dysgwyr yn helpu dysgwyr i sgwrsio a dod yn fwy rhugl eu Cymraeg. Lluniau isod.

Bydd petha'n tawelu dros gwyliau'r haf ( manylion yn ffenest Felin Sgwrsio) ond bydd y Clybiau yn cyfarfod eto o fis Medi ymlaen.

------------------------------------
Neges gan yr heddlu : pwynt cyswllt-manylion

Er eich gwybodaeth, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ac aelodau o’r cyhoedd gysylltu â’ch Tîm Plismona Cymdogaeth lleol.
Mae gan bob swyddog gardiau cyswllt sy’n cynnwys rhif eu ffôn symudol ynghyd â’u cyfeiriad e-bost.
Mae gennym linell iaith di-frys 0845 607 1001 (Cymraeg) 0845 607 1002 (Saesneg) ar gyfer gwybodaeth gyffredinol. Gallwch ofyn am fanylion cyswllt swyddogion lleol drwy ffonio'r rhifau hyn.
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth ar y wefan: Heddlu Gogledd Cymru / North Wales Police. Bydd map o Ogledd Cymru yn ymddangos ar eich sgrin, cliciwch ar eich ardal a byddwch wedyn yn gallu cael mynediad at wybodaeth sy’n berthnasol i’ch ward chi.
Ar y dudalen hon bydd manylion cyswllt eich Tîm Plismona lleol ynghyd â blaenoriaethau’r ward a dyddiadau/lleoliadau cyfarfodydd cyhoeddus. Gallwch anfon e-bost at unrhyw un o’r Swyddogion yn syth o’r dudalen hon.
Mi fyddwn yn hynod ddiolchgar am ychydig o adborth ynghylch y wybodaeth uchod yn unol â’n “Addewid Plismona”.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch y dulliau/opsiynau sydd ar gael i chi gysylltu â’ch Tîm Plismona Cymdogaeth yna gadewch i mi wybod os gwelwch yn dda fel y gallwn ymdrin ag unrhyw faterion sydd heb eu datrys.

Heddlu Ategol
Diogelwch Cymunedol
Pencadlys Rhanbarthol
Maesincla
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BU
tel 01407 724219
mobile 07854 327647


------------------------------------

Grantiau Tai Preifat - cliciwch yma

------------------------------------

Grantiau Celfyddyd mewn Addysg - cliciwch yma

------------------------------------

Gorffennaf 22 a Gorffennaf 23

FFAIR Lyfrau yn Y Felin Sgwrsio 11 tan 6 Llyfrau Cymraeg a Saesneg ail-law.
Galwch heibio efo'rch llyfrau bore Iau, Gwener neu Sadwrn

------------------------------------

BARDDONIAETH BYRLYMUS Y DYSGWYR - 13.06.09

Cafwyd gweithdy barddoni llwyddiannus gyda Chlwb y Dysgwyr yn Y Felin Sgwrsio ddydd Sadwrn dwytha.

Daeth tua hanner dwsin o ddysgwyr ynghyd o dan arweiniad y bardd Ifor ap Glyn i ysgrifennu cerddi yn dathlu ieithoedd lleiafrifol a’u cynefin.

“Ieithoedd lleiafrifol oedd y thema ac fe welson ni fod y criw a ddaeth ynghyd yn meddu ar wybodaeth o sawl iaith gan gynnwys Sbaeneg, Gwyddeleg, Malay, Pwyleg ac “iaith tacsi Cantonese!” meddai Ifor ap Glyn.

“ Criw o “ddysgwyr” a siaradwyr “iaith gyntaf” oedd y criw ond a dweud y gwir roedd pawb yn dysgu wrth ddyfnhau eu hymwybyddiaeth o ieithoedd llai a darganfod eu creadigrwydd eu hunain. Roedd yn bleser cyd-weithio a nhw!”

Cynhaliwyd y sesiwn fel rhan o Celf Eden sydd wedi’i drefnu gan Barc Cenedlaethol Eryri. Hoffai Glwb y Dysgwyr ddiolch i’r Parc am eu cyfraniad ariannol at goffrau’r Clwb.

LLUNIAU: Y dysgwyr wrthi’n brysur yn y sesiwn farddoni yn y Felin Sgwrsio.

Dyma dwy gerdd a gyfansoddwyd yn Y Felin Sgwrsio fore Sadwrn:

Dwr yw iaith

Dwr croyw Euskerra’n
byrlymu fel siampên
o grombil y Pyrrenees,

yn dathlu parhâd yr hil
wrth ddawnsio tua’r aber
yn Donostia

cyn sobri’n San Sebastien
ac yna ymgolli
ym môr mawr y Sbaeneg.

Ond er i’r llanw hallt
lyncu beunydd
geiriau croyw’r mynyddoedd

mae’r Euskerra’n mynnu
ei llwybr tua’r môr;
ac nid yw’r afon wedi sychu byth

-Wyn, Margaret ac Ifor

Salchicha
(gair Sbaeneg am selsig ond hefyd y gair a ddefnyddir i annog rhywun i wenu wrth dynnu llun)

Rhyngom ni ceir môr o eirfa
Pob gair â’i flas ei hun
Fel gwên ar flaen fy nhafod;
“salchicha” wrth dynnu llun

Rhyngot ti a fi mae afon lân
â phont i’w chroesi’n iawn
Wel dyma iaith y nefoedd,
â’n gwydr yn hanner llawn

-Mary a Nora

------------------------------------

Ocsiwn Cylch Meithrin

Llongyfarchiadau mawr i griw'r Cylch Meithrin ar lwyddo i godi tua £6,000 yn yr Ocsiwn Addewidion yn Seiont Manor.

Cwmni'r Body Shop fydd yn cynnal noson yn Y Felin Sgwrsio nos Iau yma ( Mehefin 18) am 7.30p.m. Does dim llawer o docynnau ar ol - ond os bydd digon o ddiddordeb bydd modd cynnal noson arall yn fuan. Tocynnau gan Myfanwy 07870688783.

Cofiwch am Gyfarfod Blynyddol y Clwb Peldroed yn Y Felin Sgwrsio am 7.30 p.m. nos Fercher, Mehefin 17.

Gwyl y Felin - mae gwledd o'n blaenau eto eleni. Rhaglen lawn ar gael yn www.gwylfelin.org a bydd lluniau, canlyniadau ac ati ar gael yn gyson yno drwy'r wythnos. Dewch i lansio Gwyl 09 mewn bore coffi arbennig yn Y Felin Sgwrsio ble bydd arddangosfa o hen Garnifalau'r Felin o ddeg o'r gloch ymlaen ar fore Gwener, Mehefin 26.

Dewch a'ch llyfrau Cymraeg a Saesneg ail-law draw i'r Felin Sgwrsio - Ffair Lyfrau Gorffennaf 22 a 23.

------------------------------------

Ras Rafftiau
Llongyfarchiadau i griw y Cylch Meithrin am gyrraedd Porthaethwy mewn dwy awr - record i'w thorri gan griw y flwyddyn nesaf ! Roedd pawb oedd arni yn rieni o'r Cylch Meithrin neu Meithrin Mwy ac yn cael eu noddi i godi pres i'r Cylch.

Roedd nifer o hogia'r pentref ar Rafft Clwb Rygbi Caernarfon. Ond yn anffodus, daeth y rafft yn ddarnau tua Plas Newydd a bu rhaid troi nol cyn cyrraedd Porthaethwy! Gwell lwc tro nesaf hogia!

------------------------------------

SEIONT NURSERIES

NOSON DDA! CODWYD £160 WRTH WERTHU TICEDI AR GYFER Y NOSON A RAFFL A MI ENNILLODD REBECCA PARRY IS-ALUN FASGED O FLODAU I FYND AFREF GYDA HI.

DIOLCH I BAWB AM GEFNOGI Y CYLCH A DIOLCH YN ARBENNIG I CATHERINE HUMMEL AISTAFF YN GERDDI SEIONT AM EI HAMSER A NOSON MOR DDIFYR.CAWSOM WYBODAETH AR SUT I WNEUD BASGEDI I HONGIAN,A SUT I LENWI POTIAU GYDA GWAHANOL FLODAU A PA LIWIAU SYDD YN GWEDDU GYDA’I GILYDD.MAE’N WERTH MYND DRAW I WELD YR AMRYW O BLANHIOGION SYDD YNA BELLACH.

MAE RHAI PLANHIGION SYDD WEDI CAEL EI TYFU AM Y TRO CYNTAF ERIOED YN SEIONT A BELLACH YN CAEL EI GWERTHU DROS Y BYD.MAE’R CYLCH AR YSGOL YN CASGLU TOCYNNAU A GEWCH YN SEIONT AR OL GWARIO £25 PUNT.

Cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo

------------------------------------

CHLOE

Mae pawb yn y pentref yn cydymdeimlo'n llwyr gyda Jolene Bunney a Mark Owen ar golli Chloe mewn ffordd mor ofnadwy. Bydd yr ysgol ar gau dydd Llun Mehefin 8 pan fydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Egwlys Santes Fair.

------------------------------------

Moonwalk Llundain 2009

Mae'n siwr fod rhai ohonoch wedi sylwi ar bedair gwallgof o'r Felin yn cerdded ar hyd llwybrau y fro yn ystod yr wythnosau diwethaf .Wel , Rhiannon ,Dwynwen ,Carol a Nia oeddynt yn ymarfer tuag at "Moonwalk " yn Llundain ar Fai 16 .

Roedden nhw a 17 mil o rai eraill yn cerdded 26 milltir drwy brif ddinas Lloegr gan gychwyn am hanner nos o Hyde Park ac yn cael eu noddi i godi arian tuag at Ymchwil Cancr y Fron .
Llwyddodd y bedair i gwblhau'r daith (yr un cwrs a Marathon Llundain )gan enill medal bob un a casglu dros fil o bunnoedd tuag at Ymchwil Cancr y Fron .

Dymunant ddiolch yn fawr iawn i bawb a'u noddodd .

Dyma limerig a anfonwyd iddynt :-

Roedd blisters y genod yn fawr
'Rol cerdded drwy'r nos am saith awr
Ar y Moonwalk yn Llundain
A Rhiannon yn arwain
Roeddent 'nol yn Hyde Park cyn y wawr .

Adroddiad Cynghorydd Mai 2009

1) Cafodd yr ardal gyfan ei brawychu gan farwolaeth Chloe Bunney, 10 oed o Bendorlan. Byddaf yn cydweithio gyda'r cynghorydd lleol yn Morfa Bychan i gael gwelliannau i'r ffordd.

2) Bryn y Waun. Rwyf yn gohebu gyda Priffyrdd am y sefyllfa parcio.

3) 11 Ffordd Caernarfon. Rwyf yn dal i bwyso am amod i wneud yn siwr mai pobol leol gaiff brynu'r fflatiau yma, am ostwng yr uchder ac am fwy o lefydd parcio. Os na fydd yr asiant yn fodlon, byddaf yn gofyn am i'r cais gael ei glywed yn y Pwyllgor Cynllunio llawn.

4) Pant Erys, Lan y Mor. Yn ol y Cyngor Sir, ymddengys fod y perchennog wedi cymryd tir nad yw'n eiddo iddo. Rwyf wedi gofyn am weithredu i atal unrhyw ddatblygu pellach ac am ymchwiliad i fater perchnogaeth. Nid yw'n glir ai'r Cyngor Sir yntau'r Cynulliad bia'r tir yma.

5) Cornel Gardd Fon. Rwyf wedi gofyn i Priffyrdd ddod a syniadau ymlaen ar sut i wneud y gornel yn fwy diogel gan fod ceir yn gor-yrru mewn ardal brysur.

6) Carchar. Ymddengys fod cais Bluefield wedi ei dynnu nol ac fod swyddogion yr Adran Cyfiawnder yn trafod cais am garchar gyda swyddogion cynllunio.

7) Cafwyd diwrnod o gasglu sbwriel llwyddiannus iawn ar Mai 17.

8) Diolch i'r Cynghorydd Pat White am drefnu achlysur i goffhau D-Day ger Cofeb y Cloc.

Digwyddiadau i ddod:
Gwyl y Felin Mehefin 26 - Gorff 4.
Mehefin 12 : Cylch Meithrin yn Seiont Manor
Mehefin 17 : AGM Clwb Peldroed
Mehefin 18 : Body Shop yn Felin Sgwrsio
Mehefin 26 : arddangosfa hen Garnifalau yn agor yn Y Felin Sgwrsio
Gorff 4 : Cyngor Cymuned yn yr Wyl
Pob nos Lun : sgwrsio Sbaeneg yn Y Felin Sgwrsio
Gorff 14 : Helfa Drysor yr Ysgol
Gorff 22 a 23 : Ffair Lyfrau ( Cymraeg a Saesneg) yn Y Felin Sgwrsio. Dewch a'ch llyfrau ail-law draw dros yr wythnosau nesaf.

CYSTADLEUAETH GARDDIO : OS YDYCH AM GYMERYD RHAN ELENI, CYSYLLTCH A'R CYNGHORYDD PAT WHITE 07765411475

Daeth yr awdures plant Emily Huws draw at blant y Felin Stori ( yn Y Felin Sgwrsio) yn ddiweddar wrth iddyn nhw gychwyn darllen ei haddasiad Cymraeg "Y Dyn Haearn"

cliciwch ar y lluniau i'w chwyddo.

--------------------------------------------------------

NOSON Y CWIS
Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth i chwech tim gystadlu yng Ngwis blynyddol Cangen Plaid Cymru Y Felinheli. Roedd pump tim o'r pentrefa'r chweched, yn cynnwys Hywel Williams, AS, wedi dod draw o swyddfa'r Blaid yng Nghaernarfon. Yn gosod y cwestiynau eleni oedd Guto, Iwan a Barry - diolch am gwis difyr iawn. Yr ennillwyr oedd Hogia'r Fic ( Dilwyn, Alun, Sgil ac ati) ac fe gawson nhw botel o siampen a'r anrhydedd o osod cwestiynau'r cwis nesaf! Enillwyd y raffl gan Patsi, Alwen ac Aled. Yn ail oedd Tim Aled, trydydd Tim Anemiw, pedwerydd tim Hywel, pumed Triawd MNS ac yn chweched Tim gwan gwan gawn!


DAU DDIGWYDDIAD PWYSIG
Mae hi'n noson brysur yn Felin nos Iau yma ( Mai 21) . Mae Cyfeillion yr Ysgol yn cynnal eu Ffair Miri Mai blynyddol ger yr Ysgol i godi arian. Bydd hwn ymlaen yn syth ar ol yr ysgol tua 3.30 ac yn gorffen ar ol rhyw ddwyawr. Jest digon o amser i gael swper cyn mynd draw i'r Fic am noson sy'n argolei'n un dda iawn. Criw Bwletin, y gem banel ar BBC Radio Cymru, fydd draw yn recordio rhaglen o flaen cynulleidfa fyw. Mae'r noson yn cychwyn am 7.30p.m. ac mae'r cwbwl am ddim. Ymunwch a Gary Slaymaker, Himyrs, Llyr Evans, Rhydian Bowen Phyllips a Dilwyn Morgan mewn noson o hwyl a chwerthin.

NEWYDDION O'R FELIN SGWRSIO
Chwilio am rhywbeth i ddifyrru'r plant dros hanner tymor : dewch draw i'r Felin Sgwrsio fore Gwener, Mai 29 pryd bydd cwis i blant blwyddyn 4,5,6,7 a bore coffi i'r rhieni. O tua unarddeg mlaen.

STONDIN LYFRAU AIL-LAW - galwch heibio unrhyw bryd mae'r Felin ar agor.

FFAIR LYFRAU AIL-LAW : GORFFENNAF 22 a 23

ARDDANGOSFA "Carnifal ers Talwm" o Mehefin 26 ymlaen mewn bore coffi i lansio Gwyl Y Felin ; dewch a'ch lluniau draw i'r Felin Sgwrsio.

BODY SHOP : Nos Iau, Mehefin 18

COFIWCH yn ystod y tymor ysgol : FELIN ERS TALWM ( BORE IAU) ; Felin Stori (NOS IAU am 5.30) a Clonc a Chyngor ( Bore Gwener), Clwb y Dysgwyr (bore Sadwrn). Mae'r Clinig Cyfifiadurol yn cael saib dros yr haf.

MAN DELFRYDOL ar gyfer cyfarfodydd o 25 neu lai ; cyfleusterau te, coffi a sgrin fawr. £5 y sesiwn. Beth am gychwyn Clwb newydd? Clwb Llyfrau, Clwb Gwin, Clwb Celf i blant ....... mae help ar gael i sefydlu clwb newydd .... mae angen 2 neu 3 newydd er mwyn bod yn hunan-gynhaliol.

Digwyddiadau diweddar
: Clwb Cawl; crosio noddedig ; te pnawn i Glwb yr Henoed; Emily Huws yn ymweld a'r Felin Stori; parti hel sbwriel FelinDaclus.

Defnyddwyr rheolaidd : Cyngor Cymuned, Gwyl y Felin, Pwyllgor Eisteddfod, FelinDaclus.
Defnyddwyr achlysurol : Clwb Peldroed, Cymorth Cristnogol, Masnach Deg Felinheli.

DIOLCH AM EICH CEFNOGAETH

--------------------------------------------------------

Rhai o'r plant ar gychwyn i gasglu sbwriel yn y pentref 17.05.09

Daeth criw mawr o blant ac oedolion at ei gilydd pnawn Sul i gasglu sbwriel yn y pentref. Roedd rhai wedi eu noddi i godi pres i'r Clwb Peldroed. Daeth Lee Oliver o Trefi Taclus draw i roi cyngor i bawb cyn cychwyn. Trefnwyd gan FelinDaclus, grwp amgylcheddol y pentre a cafodd pawb hufen ia a panad a chacenni yn Y Felin Sgwrsio ar ddiwedd pnawn da o waith. Casglwyd tua deuddeg llond bag o sbwriel a defnydd ailgylchu.


--------------------------------------------------------

CLWB FFILM Y FELIN

Bydd Clwb Ffilm newydd yn cychwyn yn Y Felin cyn bo hir! Bydd y FFILM Y FELIN yn cael ei gynnal yn Y Felin Sgwrsio unwaith y mis ar nos Sul am 7.00.

Pwrpas y clwb fydd dangos ffilmiau o wahanol wledydd, ffilmiau " world cinema", a'r syniad ydi bod aelodau'r clwb yn cymryd eu tro i gyflwyno ffilm o'u dewis hwy. Bydd cyfle i ddweud gair neu ddau ar y dechrau am y dewis o ffilm ac mi fydd yna drafodaeth fer am y ffilm ar ei ddiwedd.

Cysylltwch hefo Aled G Job, cadeirydd y Felin Sgwrsio am fwy o fanylion:

07818 068 205; aled.job@btopenwold.com

--------------------------------------------------------

Noson basgedi bloda
Nos Fercher 20fed o Fai 2009 -yn seiont ... cliciwch yma am fwy o wybodaeth

--------------------------------------------------------

Casglu sbwriel pnawn Sul YMA (17/05/09)

Ymunwch a FelinDaclus a'r Clwb Peldroed Ieuenctid i gasglu sbwriel

Dydd Sul am 2 o'r Felin Sgwrsio

Panad a Hufen ia ar y diwedd

Noddwch y plant neu dewch i glirio'r pentref!

Bydd teclynnau arbennig ar gael a gair o gyngor gan Lee o Trefi Taclus.

Y criw fu'n casglu sbwriel ddwy flynedd yn ol.

 

 

 

--------------------------------------------------------

NOSON CWIS

Gwybodaeth Gyffredinol
Tafarn y Fic, Felinheli
Nos Wener, Mai 15ed

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

-------------------------------------------------------

TISIO DYSGU SBAENEG?

Wyt ti ffansi dysgu Sbaeneg? Bydd cwrs newydd ar gyfer pobl sydd isio dysgu Sbaeneg yn cychwyn yn Y Felin Sgwrsio fis nesaf.

Bydd y sesiynau dysgu Sbaeneg yn cael eu cynnal rhwng 7.00 ac 8.00 pob nos Lun yn Y Felin Sgwrsio.

Y tiwtor fydd Mary Pampolini Roberts. Am fwy o fanylion, ffonia Mary ar 01248 671465 neu trwy e-bost: mary_iwan@yahoo.co.uk

-------------------------------------------------------

CYNGANEDDU CYMUNEDOL

Ydach chi ffansi rhoi cynnig ar gynganeddu?! Bydd dosbarth
cynganeddu yn cael ei gynnal yn fuan dan arweiniad Karen Owen, ar nosweithiau Mawrth yn y Felin Sgwrsio.

Os oes gynno chi ddiddordeb, rhowch wybod i Aled G Job,
Cadeirydd Y Felin Sgwrsio ar aled.job@btopenworld.com/ neu ffonio 07818 068205.

-------------------------------------------------------

05.05.09 ~ CROSIO CATH DDU

Fe fydd pedair merch o'r Felinheli yn ceisio crosio dros 400 o sgwariau mewn un bore er mwyn codi arian i'w canolfan gymunedol leol.

Bydd y digwyddiad rhwng 10 a 1 bore Gwener nesaf ( Mai 8) yn Y Felin Sgwrsio, dan lygad barcud Cynghorydd Y Felinheli, Sian Gwenllian.
"Un o aelodau pwyllgor Y Felin Sgwrsio, Dilys Myfanwy, gafodd y syniad yma er mwyn codi pres i'r fenter," meddai Sian.

"Bydd tair arall yn ymuno a mi ac fe fyddwn ni'n crosio cyn gymaint o sgwariau ag fydd yn bsoib mewn tair awr," meddai Dilys Myfanwy.
"Rydym angen 425 o sgwariau fydd wedyn yn cael eu gwnio at ei gilydd i ffurfio Afgan gyda chynllun cath ddu arni. Bydd yn addas ar gyfer rhoi ar gefn cadair neu ar y gwely."

Bydd y cynnyrch gorffenedig yn cael ei rafflo yn ystod Gwyl Y Felin ddechrau Gorffennaf.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i Dilys a'r gwirfoddowlyr eraill am drefnu'r digwyddiad yma fydd yn codi arain i gadw'r ganolfan yn yr hen gaffi ar ei thraed," meddai Sian.

"Croeso i bawb alw heibio am goffi ac i ddangos cefnogaeth fore Gwener nesaf a byddaf ar gael yno fel arfer i drafod unrhyw faterion sydd yn poeni trigolion y pentref," meddai Sian sydd ar gael yn Y Felin Sgwrsio pob bore Gwener.

Mae'r ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer sesiynau anffurfiol i ddysgwyr Cymraeg ( Sadwrn 11 - 12 .30), grwp hanes Felin Ers Talwm ( Iau 10 -12), Clinig Cyfrifiduron ( Mercher 10-12), Y Felin Stori i blant ( Iau 5.30 - 6.30) ac mae ar gael i'w llogi ar gyfer grwpiau o hyd at 25 o bobol. Mae stondin ffeirio llyfrau yn y ganolfan. Bydd noson gan Body Shop yno ar Mehefin 18.

Cysylltwch a'r Cynghorydd Sian Gwenllian ar 07775642202 am fwy o wybodaeth.

Adroddiad Y Cynghorydd SIAN GWENLLIAN ~ Ebrill 2009

1) Bryn y Waun : mae Sat Nav yn anfon cerbydau mawr ar hyd Bryn y Waun a Lon Inclein ac mae difrod wedi ei achosi i waliau. Rwyf wedi bod yn trafod y mater gyda swyddogion o'r Cyngor ac mae'r wal yn cael ei thrwshio. Rwyf hefyd wedi bod yn trafod problemau parcio yn Bryn y Waun a byddaf yn trafod ymhellach gyda swyddogion Gwynedd.

2) Coeden wedi disgyn ger Aberpwll : Mae Cyngor Gwynedd yn pryderu am gyflwr nifer o goed sy'n gwyro dros y ffordd fawr ar ol i un ddisgyn yr wythnos diwethaf. Mae nhw mewn cysylltiad efo'r tirfeddainnwr am y mater.

3) Dwr ar ochr y ffordd ger Glan Menai, Ffordd Caernarfon : mae'r Cyngor yn ymchwilio i hyn.

4) Step tua llan i dy yn Uwch Menai. O'r diwedd, mae'r step wedi cael ei symud gan wneud lle i ddau gar barcio. Mae croeso i chi anfon eich syniadau am gynlluniau bychain i wella parcio yn y rhan yma o'r pentref.

5) Mae'r pafin oedd wedi torri ar Stryd Bangor wedi ei drwshio.

6) Gwaith adeiladu yn Pant Erys, Lan y Mor. Mae'r Cyngor yn monitro'r gwaith.

7) Arosfan bws yn Ffordd Caernarfon : unwaith eto mae gyrrwyr Arriva wedi cael eu hatgoffa fod arosfan bws yma er nad oes arwydd.

8) 11 Ffordd Caernarfon Road : cais cynllunio am 4 o fflatiau. Rwyf wedi bod yn trafod hyn efo'r Swyddog Cynllunio ac rwyf yn pwyso am gymal "angen lleol", llefydd parcio digonol a chyfyngiad uchder.

9) Arogl drwg ar y Lon Las tu cefn i Arvonia. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad a Dwr Cymru ynglyn a'r broblem hon. Mae nhw wedi archwilio'r gorchudd ac nid dyma'r broblem. Mae nhw wedi cynyddu'r cyflenwad cemegol yn y gwaith carthffosiaeth yn Bethel.

10) Rwyf yn parhau a fy ngwaith ar lefel Gwynedd fel aelod o'r Pwyllgor Craffu Datblygu, Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, Panel Ymgynghorol Plant a Phobol Ifanc, Cadeirydd Gweithgor Gwaith Ieuenctid, aelod o'r Gweithgor Sgilau, arweinydd Arfon o grwp cynghorwyr Plaid Cymru.

11) Rwyf yn parhau i ddatblygu'r wefan. Mae'n fwriad cynhyrchu matiau paned i hyrwyddo www.felinheli.org . Cafwyd 29,487 o hits yn Ebrill 2009. Mae fy ngwaith efo'r Felin Sgwrsio a FelinDaclus (grwp amgylcheddol) yn parhau fel mae fy rol fel llywodraethwr ysgol yn Syr Hugh ac Ysgol Felinheli. Rwyf hefyd mewn cysylltiad agos efo'r Plisman lleol Michael Davies.

12) Arolwg llwybrau : mae canlyniadau Arolwg y Cyngor Cymuned i law - diolch arbennig i George, Andy a Nerys am eu help. Byddwn yn dod a'r holl wybodath at ei gilydd ac yn blaenoriaethu'r gwaith.

13) Neuadd Goffa : mae arolwg strwythurol wedi dangos nad oes unrhyw broblemau a bydd y cynlluniau manwl yn cael ei ffurfio. Mae gweddill yr arian wedi ei sicrhau yn sgil cais llwyddiannus i Tir a Mor.

14) Carchar : mae'n ymddangos fod perchenogion i safle yn ceisio cynyddu gwerth y tir cyn ei werthu i'r Weinyddiaeth Cyfiawnder drwy gyflwyno cais am ddefnydd preswyl cymysg. Mae bwrdd prosiect wedi ei sefydlu. Mae'r carchar yn debygol o gael ei redeg gan y llywodraeth yn hytrach na mewn dwylo preifat.

15) Bron Menai : bydd gwrandawiad Arolygydd yn Awst yn sgil apel gan yr ymgeisydd. Mae angen ail-gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau. Manylion llawn gan Idwal Williams, Swyddog Cynllunio yn Penrallt.

16) Bum yn mynychu nifer o weithgareddau codi pres : crosio noddedig yn Felin Sgwrsio ; Twrnament Peldroed yn Seilo ; Waffrica yn y Neuadd.

17) Carnifalau'r gorffennol - cysylltwch os oes gennych unrhyw hen luniau ar gyfer arddangosfa yn Y Felin Sgwrsio ar Mehefin 26.

18) Canolfan Rowen : mae cynlluniau manwl y Ganolfan iechyd newydd ar fin eu cyflwyno.

Digwyddiadau Mai/Mehefin: Manylion llawn ar y tudalen be sy' malen. Anfonwch eich eitemau newyddion a digwyddiadau i mi - ac unrhyw sylwadau ar sut i ddatblygu'r wefan ymhellach i post@felinheli.org

NEWYDD : Gwersi hwylio Clwb hwylio - Mai/Mehefin.
Gwersi Sbaeneg a Gwersi Cynganeddu yn Felin Sgwrsio
Yoga yn y Neuadd

Mai 15: Cwis y Fic
Mai 17 : Casglu Sbwriel
Mai 19 : Cyfarfod Blynyddol Cyngor Cymuned
Mai 21 : Miri Mai - Ysgol Felinheli - 4 pm
Mai 21 : Cymorth Cristnogol yn Felin Sgwrsio - 2.30 pm
Mai 21 : Radio Cymru yn recordio yn Y Fic
Mai 29 : Bore i'r plant yn Y Felin Sgwrsio
Mai 31 : Ras rafftiau
Mehefin 4 : Etholiad Ewrop
Mehefin 12 : Cylch Meithrin - Ocsiwn Addewidion
Mehefin 18 : Body Shop yn Y Felin Sgwrsio.
Mehefin 26 : Lansio Gwyl y Felin yn Y Felin Sgwrsio
Mehefin 26 - Gorff 4 : Gwyl Y Felin

Cynghorydd / Councillor Sian Gwenllian (Plaid Cymru)
post@felinheli.org
01248 670866 | 07775642202
Awelfryn, Pen y Bryn, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4YQ

28.04.09
Gwersi Yoga


Bydd gwersi yoga ar gyfer pob lefel yn cael eu cynnal yn Ystafell Gymunedol Y Neuadd Goffa bob nos Iau ( o dan y prif Neuadd). Gweler y Calendr Digwyddiadau am y manylion.

-------------------------------------------------------

Ymgyrch Codi Arian Cylch Meithrin Y Felinheli

Dydd Sadwrn 16eg o Fai bydd criw yn mynd i Morrisons Bangor i bacio bagiau. Bydd noson yn Seiont Nurseries ar ol hynny - sut i osod blodau mewn basgedi crog.

Yna, dydd Sul 31ain o Fai bydd gan y Cylch Rafft yn Ras Rafftiau'r Fenai a bydd rhieni yn cael eu noddi. Os ydych am gyfrannu, cysylltwch a Iona neu Siwsan.

Ar Mehefin y 12fed bydd yr Ocsiwn Addewidion yn cael ei chynnal yn Seiont Manor. Mae'r ticedi ar werth am £25 y ticed a bydd catalog o’r addewidion ar gael. Ymholiadau i Sophia Williams ar 07879842738 neu Iona ar 07770 821712.Y noson yn cychwyn am 7 ac yn cynnwys ocsiwn,disco a chinio 3 cwrs. Rhaid gwisgo'n ffurfiol (‘black tie’).

Yn ystod wythnos yr Wyl bydd y Cylch Meithrin yn trefnu'r Helfa Drysor ac ar nos Sadwrn cyntaf yr Wyl, Mehefin 27ain o Fehefin bydd noson yn y babell fawr dan y teitl 'Oes gan Felin dalent?' A Dydd Sadwrn 4ydd Orffennaf-Stondin y Cylch yn y Carnifal. I gloi tymor prysur iawn yr Haf, mae'n debyg bydd Disgo Diwedd Tymor yn y Neuadd ar 18 Gorffennaf.

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefogi cyn belled - daliwch ati plis!

-------------------------------------------------------

Pytiau Newyddion.

Bron Menai: mae'r ymgeisydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i wrthod caniatad ar gyfer ty newydd ar y safle yn Rhes Helen. Bydd gwrandawiad gan Arolygydd o'r Cynulliad yn mis Awst.

Gwersi Hwylio: mae 'r Clwb Hwylio yn cynnal cyfres o wersi ar wahanol lefelau ar hyn o bryd. Ewch i wefan felinheli.org/news Ebrill am y manylion. Mwy o newyddion am y pentref ar y wefan.

-------------------------------------------------------
Digwyddiadau:

  1. Noson Agored gan griw Y Felin Stori dydd Iau, Ebrill 30 5.30 tan 7. Bydd yr awdures Emily Huws yn darllen peth o'i gwaith a bydd cyfle i'w holi. Yn y pnawn, bydd yn yr ysgol yn darllen pennod gyntaf "Y Dyn Haearn" sef ei haddasiad o "The Iron Man" gan Ted Hughes - llyfr darllen Y Felin Stori y tymor yma. Gyda'r nos bydd stondin lyfrau plant Cymraeg gan Palas Print a panad a chacan i'r plant. Mynediad £1 wrth y drws.
  2. CWIS ar Mai 15 yn Y Fic gan Gangen Plaid Cymru am 8 o'r gloch. Croeso i bawb.
  3. Casglu Sbwriel Mai 17. Cofiwch noddi plant y Clwb Peldroed.
    Llawer mwy ar y wefan : Calendar Digwyddiadau.

-------------------------------------------------------

Cymraeg on the Move

GWEFAN NEWYDD I DDYSGWYR!

MAE cynnyrch cyffrous newydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg wedi ei lawnsio’r wythnos hon gan gwmni o’r Felinheli.

Cwmni Aliaith sydd wedi creu’r wefan www.CymraegontheMove.co.uk sy’n cynnwys 24 o sgyrsiau anffurfiol byr rhwng Cymry Cymraeg a Dysgwyr ar ystod o bynciau yn ymwneud ȃ bywyd yn y Gymru gyfoes. Gall dysgwyr lawrlwytho’r podcasts a gwrando arnynt ar gyfrifiadur/ gliniadur, Mp3 neu IPod.

“ Dwi’n gwybod bod llawer o ddysgwyr yn bobl brysur iawn, heb amser o bosib i fynd i ddosbarth ffurfiol. Mae’r sgyrsiau hyn wedi eu creu’n bwrpasol ar gyfer y gynulleidfa hon gan bod modd gwrando arnynt wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu bywyd pob dydd” meddai Aled G. Job, o Aliaith.

“Gwrando ar iaith yw’r elfen bwysicaf wrth ddysgu iaith newydd, a gwrando ar sgyrsiau anffurfiol rhwng unigolion ydi’r gwrando gorau oll yn fy marn i.”

Mae pob sgwrs yn para tua 10 munud ac ar ddiwedd pob sgwrs ceir cyfieithiad o rai o’r prif eiriau a ddefnyddiwyd. Os ydi dysgwyr yn mwynhau y sgyrsiau gallant symud ymlaen i dderbyn pecyn aml-gyfryngol Cymraeg on the Move.

Mae’r gyfres gyntaf wedi ei hanelu at ddysgwyr sydd wedi bod wrthi ers tua 2 flynedd. Bydd cyfres arall ar gyfer dysgwyr llai profiadol ar lein erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst

Ewch at www.cymraegonthemove.co.uk i gael mwy o fanylion!

-------------------------------------------------------

Mae cyrsiau hwylio newydd i blant yn cychwyn yn y Clwb Hwylio yn Y Felinheli dydd Sadwrn Ebrill 25. Mae'r manylion i gyd yn yr atodiad isod.

--------------------------------------------------------

21.04.09
Arolwg o Lwybrau cerdded y pentref

Mae'r Cyngor Cymuned yn cynnal arolwg o lwybrau cerdded a chyhoeddus y pentref yn rheolaidd. Y syniad yw casglu gwybodaeth er mwyn gwella'r llwybrau a hynny mewn trefn o flaenoriaeth.

Gobeithio y gallwch ein helpu yn y gwaith. Defnyddiwch y Ffurflen Arolwg wrth fynd am dro i gofnodi'r hyn a welwch a'i hanfon yn ol atoch.

Mway am lwybrau'r Felin drwy glicio yma. Anfonwch fanylion a lluniau o'ch hoff deithiau cerdded yn y pentref.

  • Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen Arolwg llwybrau Cyhoeddus.

--------------------------------------------------------

20.04.09
VERA REES

Daeth y newyddion trist heddiw am farwolaeth un o gymeriadau'r pentref, Vera Rees. Dynes hoffus oedd yn gwisgo'n drawiadol oedd Vera. Fydd Stryd Bangor, Y Fic a'r Gardd Fon ddim run fath hebddi hi. Bydd plant y fro yn cofio amdani yn rhannu da da's o'i handbag di-waelod.

--------------------------------------------------------

Disgo Diwedd Tymor

Cynhaliwyd disgo diwedd tymor i blant yr ysgol gynradd yn y Neuadd Goffa ar ddiwedd tymor y Pasg. Roedd yn elw yn mynd at y Cylch Meithrin. Diolch i Iona Watkin Jones am y lluniau. Cofiwch am yr Ocsiwn Addewidion ar Mehefin 12. Ewch a'ch "addewidion" i'r Caban Clyd yn yr Ysgol neu cysylltwch a Iona neu Siwsan.

(Lluniau i'w gweld ar waelod y dudalen)

--------------------------------------------------------

Mark,Manon a Cara yn ennill teledu

Cynhaliwyd Raffl i godi arian i Gylch Meithrin Y Felinheli gyda theledu fel prif wobr. Yr ennillwyr lwcus oedd Mark, Manon a Cara o Tai Terfyn. Llwyddwyd i godi £602.00 i'r Cylch Meithrin. Diolch i gwmni Watkin Jones am y rhodd ac i bawb am brynu tocyn. Cododd y Disgo Pasg yn y Neuadd Goffa dros £200 drwy werthu creision,diod,siocled, paentio gwynebau,tatoos,a twba lwcus.Cafodd pawb diwb o Smarties wrth adael a gofynnwyd i bawb ddychwelyd y tiwb i'r Cylch gyda copar/arian man ynddo - fydd gobeithio yn dod a mwy o bres i'r Cylch.

(Lluniau i'w gweld ar waelod y dudalen)

--------------------------------------------------------

Bwrlwm y gwanwyn yn Felin

Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd ac mae llu o bethau yn digwydd yn Felin dros y misoedd nesaf gan gyrraedd penllanw efo'r Wyl sy'n dechrau ar Mehefin 26.

EBRILL

  • Bore Gwener nesaf, Ebrill 24, Bore Coffi gan griw Felin Ers Talwm yn Y Felin Sgwrsio rhwng 10 a 12.
  • Nos Sadwrn NESAF, Ebrill 25, Noson Waffrica, Neuadd Goffa Y Felinheli.Dewch i gefnogi'r merched sy'n mynd i ben Kilimajaro i godi arian i Ty Gobaith. Gweler y wefan am y manylion.
  • Sadwrn a Sul, Ebrill 25 a 26, Twrnament Peldroed Ieuenctid yn Seilo. Dewch i gefnogi timau Felin. Diwrnod da i'r teulu cyfan.
  • Bore Mawrth, Ebrill 28, Cawl y Felin yn Y Felin Sgwrsio. Tocynnau gan Dilys Myfanwy.

MAI

  • Mai 8 : Crosio Noddedig yn Y Felin Sgwrsio.
  • Mai 12: Cyfarfod blynyddol y Cyngor Cymuned yn Y Felin Sgwrsio am 7 - trafod ceisiadau gan fudiadau.
  • Mai 14 : Ffair Miri Haf Cyfeillion yr Ysgol
  • Mai 15 : Cwis Plaid Cymru
  • Mai 17 : Dydd Sul, Felin Daclus a Chlwb Peldroed Iau yn casglu sbwriel o gwmpas y pentref. Croeso i bawb. Cychwyn o'r Felin Sgwrsio am 2 a gorffen yno am banad a hufen ia.
  • Mai 19: Cawl y Felin yn Y Felin Sgwrsio.
  • Mai 29: Bore Coffi yn Y Felin Sgwrsio.
  • Mai 31 : Ras Rafftiau lawr y Fenai.

MEHEFIN

  • Mehefin 6 : achlysur wrth gofeb y Cloc gan y British Legion : Coffau'r Normandy Landing. Manylion gan Cyng Pat White.
  • Mehefin 12 : Ocsiwn Addewidion y Cylch Meithrin, Seiont Manor.
  • Mehefin 16 : Cawl y Felin
  • Mehefin 26 : Bore Coffi yn Y Felin Sgwrsio i lansio Gwyl y Felin 2009.

--------------------------------------------------------

Pytiau:

  1. Bydd y Cyngor Cymuned yn trafod grantiau i gymdeithasau lleol yn y cyfarfod blynyddol ar Mai 12. Angen i geisiadau fod i law'r Clerc erbyn Ebrill 30. Wynne Barton, Angorfa, 36 Cae Gwyn, Caernarfon.
  2. Mae'r Cynghorydd Ken Brown yn chwilio am luniau ac eitemau o hen Garnifalau Y Felinehli ar gyfer arddangosfa arbennig. Cysylltwch a Ken ar 01248 670024.
  3. Bore Coffi, Felin Sgwrsio, dydd Gwener nesaf, Ebrill 24 am 10.

--------------------------------------------------------

Beth yw Felin Daclus?

Dyma fanylion am grwp newydd yn Y Felinheli o'r enw Felin Daclus a'r prosiectau i wella amgylchedd/edrychiad y pentre.

Y peth cyntaf i ddigwydd fydd ar Mai 17 ( Dydd Sul) sef Casglu Sbwriel Noddedig ar y cyd efo'r Clwb Peldroed Ieuenctid. Cychwyn 2 o'r gloch o'r Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor a chyfarfod yn ol yno am banad/hufen ia.

Gan fod Lee Oliver o Trefi Taclus yn dod ar Mai 17, bydd cyfle hefyd i drafod rhai o'r syniadau eraill - felly gobeithio y gallwch chi ymuno a ni. Un syniad yw mynd i weld sut mae pentrefi eraill yn trefnu rhan-ddaliadau ( alotments). Yn y cyfamser, efallai y gallwch ein helpu drwy wneud ychydig o ymchwil ar y pwnc? Bydd swyddog o Gyngor Gwynedd yn ymuno a ni hefyd i drafod y syniad o osod bocys adar mewn rhannau o'r pentref ar y cyd a phlant a phobol ifanc.

--------------------------------------------------------

Anrhydeddu cymeriad

Cafodd un o gymeriadau enwocaf pentref Y Felinheli ei anrhydeddu neithiwr mewn cyfarfod terynged arbennig yn y pentref.

Bu'r Cynghorydd WO Jones , 89 oed , yn gwasanaethu am gyfanswm o bron i 60 mlynedd ar Gyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Arfon a Chyngor Cymuned Y Felinheli.

Bu'r hanesydd lleol Len Williams yn siarad am ei fywyd yn y pentref ac fe fu'n amlinellu ei yrfa fel cynghorydd.

"Un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd sicrhau ffordd osgoi ar gyfer y pentref," meddai Len. "Trefnodd brotest fawr yn y pentref ac fe arweiniodd yr ymgyrch am ffordd newydd yn y nawdegau."

Dywedodd Cynghorydd presennol Y Felinheli, Sian Gwenllian, sydd hefyd yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Y Felinheli ei bod yn fraint ganddi fod yn y cyfarfod i dalu terynged i WO Jones am ei holl waith diflino dros y pentref. Cyflwynodd englyn wedi ei fframio iddo - gwaith y bardd lleol Lyn Davies ( cyn bennaeth Ysgol Y Felinheli).

Diolchodd WO Jones y pentrefwyr am ddod i'r noson arbennig ac yna bu'n traddodi darlith am yr Afon Fenai. Daeth y noson i ben gyda dangosiad arbennig am "Hen Siopau Y Felinheli" - cyflwyniad digidol mewn llun a sain gan WO Jones a Dennis Roberts.

--------------------------------------------------------

Tair merch a Mynydd yn Affrica

Dyma stori a llun am dair merch leol sy'n codi arian i Ty Gobaith. Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio mewn noson arbennig yn Y Felinheli - Noson Waffrica ar Ebrill 25.

Cliciwch yma i ddarllen y datganiad i'r
wasg.

 

--------------------------------------------------------

Adroddiad y Cynghorydd SIAN GWENLLIAN - Mawrth 2009

Dyma rai o’r materion y bum yn ymwneud â nhw yn ddiweddar:

1. Lon Brynffynnon a Lon Inclein : mae’r ddwy ffordd yma wedi cael eu hail-wynebu. Cefais gyfarfod efo swyddogion o Wynedd am broblemau parcio yn y pentref. Os oes gennych unrhyw syniadau ar sut i wella’r ddarpariaeth – rhowch wybod.

2. Casglu Sbwriel : fe fydd Felin Daclus a’r Clwb Peldroed Iau yn cynnal diwrnod casglu sbwriel noddedig o amgylch y pentref am 2 o’r gloch, Mai 17. Cychwyn o’r Felin Sgwrsio.

3. Rhanddaliadau (Allotments) : mae’r ymchwil wedi dechrau! Gyda help grant gan Trefi taclus, byddwn yn mynd i weld sut mae pentrefi eraill yn rhedeg rhanddaliadau. Os ydych am ymuno, cysylltwch â mi.

4. Arosfan bws Ffordd Caernarfon : er nad oes arwydd ar hyn o bryd, mae gyrrwyr Arriva wedi cael cyfarwyddiadau i stopio gyferbyn a’r gilfan bws i ollwng a chodi teithwyr.

5. Ewch i ymweld â Felinheli.org. Cynhaliwyd cyfarfod i fudiadau ac anogir pawb i anfon defnydd ar gyfer y wefan ataf fi yn rheolaidd.

6. Ynghyd a phennaeth a dirprwy Ysgol Y Felinheli, bum mewn seminar i drafod ad-drefnu addysg cynradd.

7. Mae gwaith y gweithgorau gwasanaethau ieuenctid a sgiliau yn parhau.

8. Bum mewn achlysur yn Gelli Gyffwrdd i agor atyniad newydd yno lle mae cyfle i chi gerdded yn droednoeth drwy fwd, dros gerrig a thrwy ddŵr!

9. Bum yn cadeirio cyfarfod i sefydlu Eisteddfod bentref. Mae Llinos Wynne wedi cytuno i fod yn ysgrifenyddes a Hywel Jones yn drysorydd. Cysylltwch a nhw am fwy o wybodaeth.

10. Plaid Cymru : Stomp efo Geraint Lovgreen : Mai 15. Llion Derbyshire yn trefnu’r beirdd!

11. Felin Sgwrsio : Bore coffi nesaf gan griw Felin Ers Talwm, Ebrill 24, 10 tan 12. Bydd Cawl Cartref yn cael ei weini amser cinio dydd Mawrth, Ebrill 28. Tocynnau gan Dilys Myfanwy.

12. Dyddiadau pwysig eraill i’w cofio : Ebrill 13 : Dydd Llun Pasg Ras Hwyaid Gwyl Y Felin ; Ebrill 25 a 26 : Twrnament Peldroed Iau, Seilo ; Nos Sadwrn, Ebrill 25 : Noson i lansio apêl Kilimanjaro Sarah Riley a Sonia Collis yn y Neuadd Goffa efo Derwyddon Doctor Gonzo ; Ras Bywyd Caernarfon, Mai 10 ; Ocsiwn Addewidion y Cylch Meithrin ( Seiont Manor), Mehefin 12. Manylion yn llawn ar Felinheli.org – Calendr Digwyddiadu

13. Neuadd Goffa : penodwyd swyddogion i’r Pwyllgor Rheoli sy’n trefnu’r Cynllun Gwella sef Iestyn Harris ( Cadeirydd); Daniel Williams ( is-Gadeirydd), Carolyn Pritchard ( ysgrifennydd), Wynne Barton ( Trysorydd).

LEARNING WELSH Felinheli style

Mi gafwyd bore coffi llwyddiannus iawn dan ofal CLWB Y DYSGWYR yn y Felin Sgwrsio ddydd Gwener dwytha.

Daeth tua 25 o bobl at ei gilydd, yn ddysgwyr, yn Gymry Cymraeg lleol a rhai o disgyblion Ysgol y Felinheli, i wrando ar y canwr Geraint Lovgreen yn adrodd cerddi ac yn canu rhai o’i hoff ganeuon.

Ar ôl y canu, trodd Geraint yn gwisfeistr gyda chwis ar Gymru. Y ddysgwraig fuddugol oedd Amanda o Bontllyfni (gyda help Alex o ysgol Felin, a Gwenno)  yn ateb 26 allan o 30 cwestiwn yn gywir.  Cyflwynwyd CD newydd Gwyneth Glyn i Amanda fel gwobr iddi. Codwyd £70 tuag at Y Felin Sgwrsio yn ystod y bore.

Mae Clwb y Dysgwyr yn cyfarfod yn Y Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor bob bore Sadwrn yn ystod y tymor ysgol rhwng 11 a 12.30 p.m. Croeso i ddysgwyr sydd am ymarfer eu Cymraeg dros banad.

--------------------------------------------------------

Atgyfodi'r Eisteddfod Pentref?

DATGANIAD i'r Wasg

Bydd pentrefwyr yn Y Felinheli yn dod ynghyd yr wythnos nesaf i weld a oes modd adfer yr Eisteddfod Bentref.

"Mae llawer o frwdfrydedd yngylch y syniad, " meddai'r Cynghorydd lleol, Sian Gwenllian fydd yn cadeirio'r cyfarfod dydd Mawrth nesaf. (Mawrth 24, Capel Bethania, 7.30 p.m.)

"Roedd yr Eisteddfod yn arfer cael ei chynnal am flynyddoedd lawer ac fel plentyn dwi'n cofio canu o flaen neuadd llawn o bobol! Yn ddiweddar, mae llawer o bobol wedi bod yn trafod cynnal digwyddiad tebyg, er llai, yn y pentref.

"Bydd y cyfarfod yn trafod yr opsiynau gwahanol ac yn gweld a oes diogn o wirfodddolwyr ar gael. Mi glywais yr wythnos diwethaf fod cyfrif banc yn dal i fod yn enw Eisteddfod Y Felinheli a swm o arian ar gael i roi cychwyn ar bethau o'r newydd.

"Yn sicr mae digon o dalent yn y pentref ac mae'r ysgol yn gefnogol iawn i'r syniad."

--------------------------------------------------------

Bananas Y Felinheli

Fe fydd pobol Y Felinheli yn bwyta cymaint ag y gallan nhw o fananas arbennig Dydd Sadwrn, Mawrth 7.
Mae hi’n ail wythnos Masnach Deg y Byd ac mae ymgais i greu record byd o’r nifer o bobl  drwy’r byd yn bwyta bananas Masnach Deg ar yr un pryd.  
Bydd cyfraniad pobol Y Felinheli yn digwydd yn Y Felin Sgwrsio ar Stryd Bangor am 12.15 dydd Sadwrn. Bydd yno stondinau hefyd.

cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Dafganiad i'r Wasg? Cliciwch yma

---------------------------------------------------------

Ysgol Syr Hugh Owen : Y ffeithiau

"Dros y bedair blynedd diwethaf mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi gorfod colli’r hyn sy’n cyfateb i 17 aelod o’r staff dysgu. Roedd rhaid i’r ysgol a’r bwrdd llywodraethwyr weithredu yn y ffordd yma er mwyn lleihau diffyg cyllideb sylweddol – NID dyled. Mae’r diffygion yma’n rhan o’r realiti caled mewn ysgolion ar draws Gwynedd a thu hwnt wrth iddyn nhw geisio delio efo cyllidebau llai a gostyngiad mewn niferoedd plant ysgol. Er na wnaed cais gan yr ysgol, roedd y swm o £150,000 o Gyngor Gwynedd yn golygu nad oedd angen i Ysgol Syr Hugh Owen wneud rhagor o doriadau yn y flwyddyn ariannol bresennol fyddai wedi arwain at ddirywiad difrifol yn addysg y plant.
Mae angen i’r ysgol dorri un swydd arall yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r sefyllfa yn yr ysgol bellach wedi sefydlogi.

Yn amlwg nid yw’r Cynghorydd Aeron Jones o Llais Gwynedd yn deall sut mae cyllidebau ysgol yn gweithio. Nid yw chwaith, mae’n ymddangos, yn cymryd diddordeb mewn gweithredu’n gyfrifol yn yr amserodd ariannol caled yma,” meddai Cynghorydd  Sian Gwenllian, Llywodraethwr yn Ysgol Syr Hugh Owen.

---------------------------------------------------------

Dyma rai o’r materion y bum yn ymwneud â nhw yn ddiweddar:

  1. Neuadd Goffa: Cafwyd cadarnhad fod Pwyllgor Rheoli'r Neuadd i dderbyn grant o hyd at £213,000 i wella’r Neuadd. Mae angen canfod ychydig mwy o bres er mwyn cyrraedd cyfanswm cost y gwaith o £250,000 cyn cychwyn ar gynllun uchelgeisiol i wella’r Neuadd. Rwy’n hyderus fod modd gwneud hynny.
  2. Carchar: Codais y mater ym Mhwyllgor Craffu Datblygu Cyngor Gwynedd ac fe fydd Bwrdd Prosiect yn cael ei sefydlu i arwain y gwaith. Byddaf yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr fod y budd economaidd mwyaf posib yn dod i’r ardal ac i dawelu pryderon lleol.
  3. Diogelwch y Ffyrdd a Parcio: Mae’r cynllun ar Stryd Bangor dal i fynd yn ei flaen er yn araf. Rwyf wedi ysgrifennu at y Cyngor yn datgan anfodlonrwydd am yr arafwch.
  4. Lan y Mor – cefais ddau gyfarfod gyda swyddogion am y bolardiau peryglus ac mae bwriad dod â chynllun ynghyd i wella’r ardal yn gyffredinol. Bydd ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw newid.
  5. Mae gwaith y rhestr Blitz i ddigwydd drwy’r pentref yn fuan.
  6. Bum yn gweithio gyda chwmni Delwedd yn creu gwefan newydd sbon i’r pentref. Nid yw Felinheli.org wedi ei gorffen eto – ond mae’n fyw ac mae croeso i chi ymweld a hi ac anfon sylwadau.
  7. Arosfan bws Ffordd Caernarfon – Dal dim cytundeb.
  8. Gweithgor Ad-drefnu Addysg Gynradd (Cyngor Gwynedd). Bydd yr adroddiad yn mynd i’r Cyngor llawn ar Ebrill 2 ac mae seminar i bob Cadeirydd Llywodraethwyr , Pennaeth a chynghorydd lleol ar Mawrth 12.Rwyf hefyd yn aelod o’r Gweithgor Sgiliau.
  9. Gweithgor Gwaith Ieuenctid – rwyf yn cadeirio hwn a bum yn ymweld â chlybiau ieuenctid yn yr ardal ac mewn Cynhadledd ar waith ieuenctid gan y Cynulliad yn ddiweddar.
  10. Bron Menai: cefais gyfle i godi’r problemau efo’r Panel Rhiant Corfforaethol.
  11. Cylch Meithrin : bum yn cyfarfod swyddogion sy’n bryderus am y sefyllfa ariannol.
  12. Bum yn cyfarfod dwy o ferched o’r pentref sy’n mynd i godi arian i Tŷ Gobaith drwy ddringo Kilimanjaro.
  13. Bum mewn cyfarfod o Lywodraethwyr Ysgol Y Felinheli ac er fod pryder wedi bod y byddai angen diswyddo staff nid yw hyn yn gorfod digwydd eleni.
  14. Gofynnais i’r swyddog cynllunio am adroddiad ar waith adeiladu Pant Erys, Ffordd y Traeth , Gwylan Uchaf ( ger y llwybr cyhoeddus) ac ar safle hen fodurdy Menai.
  15. Cysylltwyd a mi ynglŷn a phroblem carthffosiaeth yn Pendorlan; am giât anaddas ar y llwybr rhwng Tai Gwelfor a’r Wern ; am gais cynllunio ( Silwair) Tyddyn Perthi ; gan y Boat Shed am arwydd ar Stryd Bangor; am gi peryglus ar Stryd Bangor ; am y rampiau answyddogol ar bont y Marina. Byddaf yn ceisio helpu efo rhain.
  16. Canolfan Iechyd Rowen : cafwyd sicrwydd fod y prosiect yma’n ddiogel er gwaeth toriadau yn y gyllideb.
  17. Pont Aberpwll a top of Stepiau Cei : Mae gweithwyr y Cyngor wedi bod yn tynnu eiddew a llystyfiant marw.

Os ydych isho mwy o wybodaeth neu am drafod neu am helpu – dyma fy manylion cyswllt:

Dyddiadau i’w nodi :

  1. Mawrth 7 : Masnach Deg Felinheli yn Y Felin Sgwrsio 12.15 – 2.00 p.m.
  2. Mawrth 19 : Gwyn Llewelyn, Cymdeithas Heli’r Heulyn 7.30
  3. Mawrth 24 : Cyfarfod Eisteddfod Bentref , Capel Bethania 7.30
  4. Mawrth 31 : WO Jones, Capel Bethania , 7.30
  5. Ebrill 3 : disgo plant cynradd Neuadd Goffa.
  6. Ebrill 25/26 : Twrnamaint Pêl droed Iau : Seilo
  7. Mai 15 : Ymryson Stompllyd efo Geraint Lovgreen.
  8. Mehefin 12 – Ocsiwn Addewidion y Cylch Meithrin, Seiont Manor.

Bydd trigolion y Felinheli yn falch o glywed fod banciau ailgylchu’r pentref wedi eu symud i leoliad cyfleus ac amlwg.

Ers blynyddoedd bellach mae’r banciau wedi bod yn cuddio yn y maes parcio bach yng nghanol y pentref. Ond wrth gydweithio mae Cyngor Gwynedd, Antur Waunfawr a thafarn leol yr Halfway House wedi canfod ateb i’r broblem a fu o ran mynediad.

Mae’r banciau erbyn hyn wedi eu symud i faes parcio tafarn yr Halfway House yn y pentref, sydd yn safle llawer mwy amlwg ar eu cyfer.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian, aelod lleol y Felinheli ar Gyngor Gwynedd:

“Rwy’n hynod falch fod y banciau wedi eu symud i leoliad mor hwylus i drigolion y Felinheli. Gwŷr pawb lle mae’r Halfway House.

“Mae mwy a mwy o drigolion yn awyddus i wneud eu rhan dros yr amgylchedd wrth ailgylchu a chompostio cymaint a phosib o’u gwastraff, ac rydym yn hydreus y bydd y lleoliad newydd yma ar gyfer y banciau ailgylchu yn golygu fod hyd yn oed mwy o drigolion ardal y Felinheli yn gwneud defnydd o’r cyfleuster. Mae modd ailgylchu papur, gwydr a chaniau ar y safle, a bin penodol ar gyfer y bagiau plastig sydd yn cael eu defnyddio gan gymaint o bobl i gario’r deunyddiau.”

Ychwanegodd Steffan Jones, Uwch Reolwr Gwastraff Cyngor Gwynedd:

“Rydan ni’n falch fod tafarn yr Halfway wedi caniatâu rhoi’r biniau yn y maes parcio, nid yn unig y bydd hyn yn tynnu sylw at ffyrdd eraill o ailgylchu, ond hefyd mae’r lleoliad yn gwneud y broses o gasglu’r biniau ailgylchu yn llawer haws. Mae banciau ailgylchu yn ffordd wych a chyfleus o ailgylchu, ac yn gymorth mawr i ni yn ein hymdrechion i gyrraedd targedau ailgylchu heriol sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth y Cynulliad.”

Am fwy o fanylion am unrhyw fanciau ailgylchu neu unrhyw agwedd o’r gwasanaeth, cysylltwch â Desg Gymorth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd ar: (01286) 679872.

Rhoi gwedd newydd ar fanciau ailgylchu Felinheli

Newyddion Ionawr 2009

Cymdeithas Heli'r Heulyn - adroddiad cyfarfod Ionawr 2009...cliciwch yma


 

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni:

 

  • 28.09.09 - Syniadau ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiadau ...cliciwch yma

  • 02.03.09 SOS Cylch Meithrin (Nursery Group) Y Felinheli ...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - Felin Sgwrio "Officially Open"...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - "Grandad's anger at foul problem" ...cliciwch yma
  • 24.12.08 Parcio Felinheli ...cliciwch yma
  • 06.11.08 - "'Dangerous' bus stop is finally improved"...cliciwch yma
  • 18.09.08 "Something needs to be done at blackspot!"...cliciwch yma
  • 04.09.08 "Owners 'don't plan to house youngsters' in new dwelling"...cliciwch yma
  • 31.07.08 - Felinheli - "Pensioner's reflief at path action pledge"...cliciwch yma
  • 24.07.08 - Bryn Menai - "Council Opposes care home plans"...cliciwch yma
  • 23.01.09 - Felin Sgwrsio - "Agor Melin i Sgwrsio ynddi"...cliciwch yma