Y Pentref > Pobol y Pentref
Cliciwch ar unrhyw bennawd isod i weld hanesion gan bobol y pentref.
Zambia - gan Bethan Wyn Owen, Y Felinheli
Cefais brofiad anhygoel yn ddiweddar wrth i mi a’m ffrind ymweld â disgyblion ag athrawon mewn ysgol gymunedol ym Mkushi, Zambia.
Daeth y cyfle i wirfoddoli wedi i ni gyfarfod a thrafod â Tony Foster, a oedd yn gyfrifol am fudiad Ysgol Itala draw yma yng Nghymru.
Bu i ni fyw bywyd a oedd yn draddodiadol i’r wlad am 5 wythnos, mwynhau pryd Nshima (wedi i ni ei baratoi ar y tân!) golchi’r dillad yn yr afon ac ymolchi a golchi gwallt yn y ffynnon.
Roedd bod mewn pentref a oedd mor ddifreintiedig yn agoriad llygad mawr, teimlais dristwch enfawr wrth orfod gadael pentref Mkushi a phlant ysgol Itala, a symud ‘mlaen a pharhau â’r teithio.
Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth a’u caredigrwydd tuag ataf wrth i mi baratoi, ac i bawb a fu gyfrannu mewn unrhyw fodd.
I ganfod mwy am yr Itala Foundation ffoniwch 01286 830189 neu ewch I’r wefan : www.italafoundation.com
Yn yr adran yma:
-
Yn yr adran yma o'r wefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol:
- Y Pentref
- Hanes
- Mynd am Dro
- Busnesau
- Pobol y Pentref
- Lluniau
- Map

