Y Pentref > Mynd am Dro
Mae modd mynd am dro ar lan yr Afon Heulyn, ar lan y fenai neu ar draws y caeau i Bethel. Neu beth am gylchdaith o gwmpas y pentref gan ddefnyddio darnau o'r Lon Las a llwybrau cyhoeddus y pentref. Yn Allt Gam a Phenrallt gallwch deimlo eich bod ynghanol y wlad tra yng nghanol y pentref. Mae angen gwaith ar rai llwybrau – be am ein helpu ni drwy gerdded y llwybrau ac anfon eich sylwdau i ni ar ein FFURFLEN LLWYBRAU
Mae'r Cyngor Cymuned yn cynnal arolwg o lwybrau cerdded a chyhoeddus y pentref yn rheolaidd. Y syniad yw casglu gwybodaeth er mwyn gwella'r llwybrau a hynny mewn trefn o flaenoriaeth.
Gobeithio y gallwch ein helpu yn y gwaith. Defnyddiwch y Ffurflen Arolwg wrth fynd am dro i gofnodi'r hyn a welwch a'i hanfon yn ol atoch.
Anfonwch fanylion a lluniau o'ch hoff deithiau cerdded yn y pentref.
- Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen Arolwg llwybrau Cyhoeddus.
Mae nifer o lwybrau braf iawn yn y Felinheli ac mae modd dilyn cylchdeithiau diddorol o amgylch y pentra. Mae Lon Las Menai yn mynd yr holl ffordd o’r pentref i Gaernarfon ac mae rhannau eraill o lon las ar drac yr hen rheilffordd yn y pentref sy’n addas ar gyfer cerddwyr, cadeiriau olwyn, pramiau a beiciau.
Llwybrau poblogaidd :
Llwybr Afon Heulyn : mae hon yn cychwyn ger y bont sy’n croesi i’r marina o Hen Gei Llechi. (i’r dde ar ol croesi’r bont) Dilynwch y llwybr rhwng wal y Faenol a’r doc llawn cychod draw i ben pellaf y doc. Yna dilynwch yr Afon Heulyn hyd y bont lechen, croesi yn fan hyn a dilyn y llwybr heibio’r bwthyn. Dilyn yr arwyddion a chymryd llwybr cul allan i’r ffordd fawr yn Aberpwll.
Llwybr Cerrig yr Afon: llwybr coediog braf sy’n rhedeg o ymyl Cartref Cerrig yr Afon ar gyrrion deheuol y pentref at Ffordd Tafarngrisiau a’r Ysgol Gynradd. Mae’r holl safle yn cael ei gwarchod drwy gyfraith ac mae’n cynnwys llawer o goed cynhenid a phob math o fywyd gwyllt.
Llwybr Penrallt ac Allt Gam : mae’r llwybrau yma yn cychwyn o waelod Allt Pen y Bryn yng nghanol y pentref ( gyferbyn a Swyddfa’r Post). Llwybr Penrallt yw’r cyntaf sy’n rhedeg drwy’r coed heibio gwaelod Gwylan Uchaf at giat mochyn ac yna at Fferm Penrallt. Yna mae modd mynd i’r chwith drwy’r caeau a draw i Allt Penrallt neu i’r dde ar hyd y ffordd sy’n arwain i’r fferm ac allan i’r ffordd fawr yn Lon Llwyn. Mae Allt Gam yn cychwyn ychydig yn uwch na Llwybr Penrallt, mae’n serth a choediog ac yn dod allan rhwng Gwylan Uchaf a Threm y Foel ar ben Lon Llwyn. Mae’r ddau lwybr yng nghanol y pentref ac eto rydych yn teimlo eich bod yng nghanol y wlad yn syth.
Cylchdaith 1: Cychwyn o waelod Allt Pen y Bryn a dilyn y Lon Las heibio Penningtons ac yna draw heibio cefn yr Half Way, man bysiau Hefin Griffiths a draw at gefn y cae pel droed yn Seilo. Dilyn y llwybr rownd y tro ac yna dringo rhes o grisiau ym mhen pella’r lon las ac allan i’r ffordd fawr ger y bont yn Aberpwll. Croesi’r ffordd yma a dilyn arwydd llwybr cyhoeddus lawr at yr afon Heulyn. Dilyn yr afon draw i’r doc, croesi’r bont a cherdded drwy Hen Gei Llechi at waelod Stryd yr Wyddfa. Gorffen yma ar Lan y Mor gyda’r Fenai a Mon o’ch blaen a thafarn y Gardd Fon wrth law. Am fwy o fanylion: cliciwch yma.
Cymraeg i ddilyn ....
Circular Walk 2: Up Bryn-y-Waen under the by-pass bridge, turn immediately left over stile onto path through trees and alongside by-pass for a short way then follow the path sign up past bungalow and along the track of the old slate railway (passing a steam-engine shed on the way).Cross the road and follow the track to Cefn Farm. Just before the farmhouse cross a stile on the right and in the far corner in the right enter the woods over a small stream. Full details click here
Cymraeg i ddilyn ....
Circular Walk 3: Up Bryn-y-waen to Lon Las, turn right along Lon Las. Turn left up Pen-y-bryn Road and immediately left again up Pen-y-bryn path. At top of Pen-y-bryn turn left down Bryn-fynnon Road to junction with road down hill. Full details click here
Cylchdaith 4: Os am olygfeydd godidog o'r mynyddoedd a'r Fenai, yna mae'r llwybyr cyhoeddus ar draws y caeau o Fferm Bonc i Bethel yn rhoi'r cyfle am dro arbennig iawn. Mae modd ei wneud yn gylchdro o tua awr. Am fwy o fanylion: cliciwch yma
Yn yr adran yma:
-
Yn yr adran yma o'r wefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol:
- Y Pentref
- Hanes
- Mynd am Dro
- Busnesau
- Pobol y Pentref
- Lluniau
- Map

