Iaith: Cymraeg | English

Be sy' mlaen

Be sy' mlaen
Mae’r Felin yn le bywiog gyda phob math o bethau yn digwydd yma a phob math o gymdeithasau yn cyfarfod yn rheolaidd – o’r diwylliedig i’r hanesyddol, o chwaraeon i ganu a llefaru. Mae pwyllgor Gwyl y Felin yn brysur drwy’r flwyddyn ond yr uchafbwynt yw’r Wyl sy’n cael ei chynnal ar Lan y Mor yn yr haf. ...mwy

Dewch i ddysgu mwy am hanes y pentref neu i chwarae badminton ; ymunwch gyda rhieni a babanod bach yn y Caban Clyd; dewch i ganu neu lefaru neu jest i gymdeithasu. Mae cymdeithasau yng nghlwm a Chapel Bethania ac Eglwys Santes Fair ac mae’r Clwb Ieuenctid yn cyfarfod yn y Neuadd Goffa yn ystod y tymor ysgol.

Mae myrdd o gymdeithasau eraill ar gael ac rydym yn gwahodd y cymdeithasau i gynnwys eu manylion ar y wefan yma drwy anfon gwybodaeth....cliciwch yma am ffurflenni Manylion Cymdeithas a Calendr Digwyddiadau lle gellwch roi gwybodaeth am ddiwgyddiadau y byddwch hyn eu trefnu.

Cliciwch ar y penawdau isod i weld be sy’n mlaen yn rheolaidd yn y gwahanol lefydd. Cliciwch ar Calendr Digwyddiadau i weld be arall sy mlaen dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

CALENDR Y FELIN SGWRSIO :
Yn ystod y tymor ysgol 10 – 12 a.m. oni noder yn wahanol :

Bob Bore Mercher : Y Clinig Cyfrifiadurol
Bob Bore Iau : Felin Ers Talwm
Bob Nos Iau : Y Felin Stori ( 5 o’r gloch)
Bob Bore Gwener : Clonc a Chyngor gyda chynghorwyr lleol a’r Cynghorydd Sir
Bob Bore Sadwrn : 11 tan 12 Clwb Dysgwyr Cymraeg
Bore Gwener olaf y mis : Bore Coffi a Stondinau

AR GAEL I’W LOGI YR AMSEROEDD ERAILL
DIGWYDDIADAU – GWELER CALENDR DIGWYDDIADU

Cymdeithas Heli’r Heulyn

Cyfarfodydd yng nghapel Bethania am 7.30 yn yr hwyr ar y trydydd dydd Iau yn y mis

2011

Hydref 20fed
GWION HALLAM
yn trafod ei waith
Cadeirydd Margaret Tuzuner

Tachwedd 17eg
CEFIN ROBERTS
“Dylanwadau”
Cadeirydd: Elen ap Robert

2012

Ionawr 20fed
GERAINT PERCY JONES
“John Eilian: Y Cymro a’r Ford Gron”
Cadeirydd: Grace Roberts

Chwefror 16eg
CATHERINE ARAN
“Y Storïwr a Storiau”
Cadeirydd: Mari Emlyn

Mawrth 15eg
GERAINT JONES
“Bandiau Pres:
Y Felinheli ac Ardal y Chwareli”
Cadeirydd: Dennis Roberts

Ebrill 19eg
CYFARFOD BLYNYDDOL
a Wyn Roberts
“Cwmni Roberts Portdinorwic”
Cadeirydd: Parch Eric Jones

 

Ffurflen Llogi y Neuadd Goffa - cliciwch yma

Ffurflen Gais Grwp - Llogi Bloc - cliciwch yma

DIGWYDDIADAU – GWELER CALENDR DIGWYDDIADU
NEU CLICIWCH YMA

  • Cor Cynta’r Felin
  • Sefyldiad y Merched
  • Clwb Henoed
  • Pnawn Te
  • Cic Beth

CYMDEITHAS HELI’R HEULYN
Yn cyfarfod yng nghapel Bethania am 7.30 yn yr hwyr

Hydref 15ed, 2009
MARI EMLYN - “O M EDWARDS a merched yn 1909”

Tachwedd 19eg, 2009
WILLIAM OWEN - “Paham y rhoddaist inni’r tristwch hwn”

Gwahoddir aelodau’r Gymdeithas i ymuno
yng ngwasanaeth y plygain am hanner awr wedi naw ar fore’r Nadolig.

Ionawr 21ain, 2010
ARFON GWILYM - “Canu’r Plygain”

Chwefror 18ed, 2010
ELFYN WILLIAMS - “Atgofion”

Mawrth 18ed, 2010
HARRI PARRI - “Fe’m ganed i yn fab i fy rhieni”

Ebrill 15eg, 2010
CYFARFOD BLYNYDDOL ac orig gyda’r Parch Lloyd Jones

Manylion yn dod

 

 

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni: