Gwybodaeth COVID-19

Cefnogaeth Leol yn Y Felinheli

Ar y dudalen hon, rydym wedi casglu gwybodaeth a dolenni defnyddiol. Ein gobaith fydd i help i chi trwy'r argyfwng COVID-19. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.

Rydym wedi sefydlu ‘Cynllun Bydi’ yn y pentref i gefnogi trigolion lleol sy’n hunan-ynysu ac sydd angen help drwy’r Coronafirws.

Angen Help

Os ydych yn hynan ynysu ac ANGEN HELP hefo:

Siopa bwyd/nwyddau hanfodol

Casglu presgripsiwns newydd

GWIRFODDOLI

Os ydych yn gallu HELPU ERAILL hefo’r tasgau yma ac am WIRFODDOLI

Restr o fusnesau

Busnesau Barod i Helpu.


Beth yw ein nod? Cyfuno gwirfoddolwyr ac adnoddau o fewn ein cymuned.

Rôl 'Bydi'? Gall y 'Bydi' fod yna i helpu gyda chasglu a dosbarthu presgripsiynau, bwyd a siopa hanfodol.

Gofynnwn yn garedig I’r siopa cael ei dalu amdano o’ flaen llaw - felly ni chaiff unrhyw arian ei basio o un i llall (er enghraifft yn Londis, gellir prynu, archebu a thalu am fwyd dros y ffôn neu ddefnyddio gwasanaethau 'Cliciwch a Chasglu' mewn unrhyw archfarchnadoedd).

Pobol Bregus
Os yw gwirfoddolwr yn pryderu am blentyn neu oedolyn bregus, yna mae modd cysylltu efo'r Cynghorydd Gareth Griffith. Mi fydd yntau yn gallu cyfeirio at y corff perthnasol a mi fedr hyn arwain at asesu yr unigolyn ar gyfer gwasanaethau ychwanegol.


Llywodraeth Cymru a'r DU

Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth a chyngor gan Lywodraeth Cymru yn ystod argyfwng COVID-19 yma:
https://llyw.cymru/coronafeirws

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth ac arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar COVID-19 yma:
https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/

Llywodraeth y DU: Gwybodaeth a chyngor gan Lywodraeth y DU yn ystod argyfwng COVID-19 yma:
https://www.gov.uk/coronavirus


DOLENNI DEFNYDDIOL:

 

 

 

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.