Gobaith Newydd i Neuadd yr Eglwys21.07.25 Erthygl gan Menter Felinheli(Welsh Only...)
Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru ers nifer o fisoedd a bellach fe allwn ddweud ein bod wedi dechrau trafod termau lês tymor hir ar gyfer y safle. Agorwyd yr adeilad yn 1935, ond bu ar gau ers rhai blynyddoedd bellach a bydd angen buddsoddiad sylweddol cyn y gellir ei ddefnyddio unwaith eto. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cytuno mewn egwyddor i drosgwlyddo’r adeilad i’r fenter ar gyfer cynnal gweithgareddau cymunedol, anfasnachol. Ar hyn o bryd mae cyfranddalwyr wedi buddsoddi tua £80,000 yng nghoffrau y fenter, arian a fydd rwan yn ganolog i’n gwaith wrth i ni edrych ar ddenu grantiau i adfer yr adeilad. Fel menter gymunedol, mae’n diolch ni yn fawr i’r bobol sydd wedi cadw eu harian yn y fenter. Heb eich caredigrwydd a’ch hamynedd chi fydden ni ddim yn y sefyllfa yma rwan, lle rydan ni’n mawr obeithio y byddwn ni’n gallu adfer adeilad sy’n bwysig i’r pentref er budd pawb yma. Fe fydden ni wedi hoffi rhyddhau mwy o wybodaeth cyn hyn ond oherwydd natur y trafodaethau doedd hynny ddim yn bosibl tan rwan. Fe fyddwn ni rwan yn bwrw ymlaen gydag arolygon o’r adeilad i ddarganfod union faint a natur y gwaith atgyweirio sydd ei angen ac yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r Eglwys yng Nghymru i gytuno’r telerau terfynol. Dywed yr Eglwys ei bod yn falch i gael y cyfle i weithio hefo’r gymuned i allu defnyddio’r neuadd unwaith eto. Mae tipyn mwy o waith i’w wneud cyn y gallwn ddod i gytundeb terfynol, ond mae’r Eglwys a Menter Felinheli yn rhannu gweledigaeth ar gyfer yr adeilad. Ein gobaith hefyd, yn ogystal a chreu man i grwpiau a chlybiau lleol gyfarfod, yw gallu creu mwy o lefydd parcio oddi amgylch yr adeilad mewn pentref ble mae mannau o’r fath yn brin iawn. Ond rydan ni hefyd yn chwilio am syniadau ganddoch chi am be ellir wneud gyda’r adeilad a fu ar un adeg yn ganolfan gymunedol i bob math o weithgareddau. Gofod ar gyfer y pentre fuodd Neuadd yr Eglwys erioed, a gobeithio mai dyna’n union fydd o i’r dyfodol. Adeilad cynnes, cyfforddus, croesawgar, cyfoes sy’n diwallu anghenion pobol Y Felinheli. Rydan ni eisioes wedi cynnal trafodaethau gyda’r grwpiau oedd yn cynnal gweithgareddau yno ddiwethaf, ac mae’n galonogol ei bod nhw’n gefnogol. Ond be amdanach chi fel cyfranddalwyr a phobol y pentref? Be fyddech chi yn hoffi wneud hefo’r adeilad? Pa weithgareddau fyddech chi isho’i cynnal yno? Be allwn ni wneud i gael y budd mwyaf o’r lle? Bydd y prosiect yma yn cymryd tipyn o amser i’w wireddu, ac fe fyddwn ni’n cynnal cyfarfod cyhoeddus yn fuan i glywed mwy am eich syniadau a’ch gobeithion am sut i wneud y mwyaf or adeilad pwysig yma a’i ddyfodol yng nghalon eion cymuned. |
© 2025 Y Felinheli Community Council. All Rights Reserved. Website by Delwedd.