Archif Newyddion 2025

Ysgol y Felinheli yn chwilio am Lywodraethwyr

17.09.25

Mae Ysgol Y Felinheli yn chwilio am ragor o aelodau i fod yn rhan o’r Corff Llywodraethwyr

Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr.

Mae corff llywodraethu ysgol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sydd er budd y disgyblion. Ynghyd â'r Pennaeth, y corff llywodraethu sy'n pennu amcanion a blaenoriaethau'r ysgol.

Gall unrhyw un dros 18 oed fod yn llywodraethwr ysgol - does dim rhaid i chi fod yn rhiant sydd â phlentyn yn yr ysgol.

Fodd bynnag, mae pob corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sy'n rhieni. Gall hyn fod yn ffordd werth chweil o fod yn rhan o ysgol eich plentyn.

Os oes ganddoch diddordeb, cysylltwch gyda Clerc y Llywodraethwyr:
eleriannjones@gwynedd.llyw.cymru

Logo Ysgol y Felinheli

Bore Coffi Macmillan

27.08.25

Bore Coffi Macmillan ar y 6ed o Fedi 2025 er cof Sarah Williams a fu farw yn gynharach eleni o diwmor ar yr ymennydd.

Roedd hi'n gefnogwr brwd o'r elusen ac fe gododd filoedd o bunnoedd yn y blynyddoedd diwethaf . Os nad ydych yn gallu ymuno gyda ni yn y Clwb Hwylio yn y Felinheli am 10yb buasem yn ddiolchgar iawn pe gallech gyfrannu yn ei henw ar y cyfrif yma.

Am ragor o wybodaeth ac i gyfrannu

poster macmillan icon o paned a cacen

The Swellies yn cynnig bwyd am ddim i blant dros yr Haf

28.07.25

Bob dydd Mawrth i ddydd Iau yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'n cynnig pryd o fwyd plant am ddim gyda phob pryd oedolyn.

Mae'r cynnig ar gael yn ystod y horiau agor 9yb - 4yh. Dim ond i blant dan 12 oed.

Darllenwch mwy ar tudalen Facebook The Swellies


Gobaith Newydd i Neuadd yr Eglwys

21.07.25

Erthygl gan Menter Felinheli


Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi dod i gytundeb mewn egwyddor i feddiannu Neuadd yr Eglwys yn y pentref.

Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru ers nifer o fisoedd a bellach fe allwn ddweud ein bod wedi dechrau trafod termau lês tymor hir ar gyfer y safle.

v

eglwys felin

Agorwyd yr adeilad yn 1935, ond bu ar gau ers rhai blynyddoedd bellach a bydd angen buddsoddiad sylweddol cyn y gellir ei ddefnyddio unwaith eto.

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cytuno mewn egwyddor i drosgwlyddo’r adeilad i’r fenter ar gyfer cynnal gweithgareddau cymunedol, anfasnachol.

Ar hyn o bryd mae cyfranddalwyr wedi buddsoddi tua £80,000 yng nghoffrau y fenter, arian a fydd rwan yn ganolog i’n gwaith wrth i ni edrych ar ddenu grantiau i adfer yr adeilad.

Fel menter gymunedol, mae’n diolch ni yn fawr i’r bobol sydd wedi cadw eu harian yn y fenter.

Heb eich caredigrwydd a’ch hamynedd chi fydden ni ddim yn y sefyllfa yma rwan, lle rydan ni’n mawr obeithio y byddwn ni’n gallu adfer adeilad sy’n bwysig i’r pentref er budd pawb yma.

Fe fydden ni wedi hoffi rhyddhau mwy o wybodaeth cyn hyn ond oherwydd natur y trafodaethau doedd hynny ddim yn bosibl tan rwan.

Fe fyddwn ni rwan yn bwrw ymlaen gydag arolygon o’r adeilad i ddarganfod union faint a natur y gwaith atgyweirio sydd ei angen ac yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r Eglwys yng Nghymru i gytuno’r telerau terfynol.

Dywed yr Eglwys ei bod yn falch i gael y cyfle i weithio hefo’r gymuned i allu defnyddio’r neuadd unwaith eto. Mae tipyn mwy o waith i’w wneud cyn y gallwn ddod i gytundeb terfynol, ond mae’r Eglwys a Menter Felinheli yn rhannu gweledigaeth ar gyfer yr adeilad.

Ein gobaith hefyd, yn ogystal a chreu man i grwpiau a chlybiau lleol gyfarfod, yw gallu creu mwy o lefydd parcio oddi amgylch yr adeilad mewn pentref ble mae mannau o’r fath yn brin iawn.

Ond rydan ni hefyd yn chwilio am syniadau ganddoch chi am be ellir wneud gyda’r adeilad a fu ar un adeg yn ganolfan gymunedol i bob math o weithgareddau.

Gofod ar gyfer y pentre fuodd Neuadd yr Eglwys erioed, a gobeithio mai dyna’n union fydd o i’r dyfodol. Adeilad cynnes, cyfforddus, croesawgar, cyfoes sy’n diwallu anghenion pobol Y Felinheli.

Rydan ni eisioes wedi cynnal trafodaethau gyda’r grwpiau oedd yn cynnal gweithgareddau yno ddiwethaf, ac mae’n galonogol ei bod nhw’n gefnogol.

Ond be amdanach chi fel cyfranddalwyr a phobol y pentref? Be fyddech chi yn hoffi wneud hefo’r adeilad? Pa weithgareddau fyddech chi isho’i cynnal yno? Be allwn ni wneud i gael y budd mwyaf o’r lle?

Bydd y prosiect yma yn cymryd tipyn o amser i’w wireddu, ac fe fyddwn ni’n cynnal cyfarfod cyhoeddus yn fuan i glywed mwy am eich syniadau a’ch gobeithion am sut i wneud y mwyaf or adeilad pwysig yma a’i ddyfodol yng nghalon eion cymuned.

Gwefan Menter Felinheli


CPD Merched Felinheli

22.07.2025

Croeso i bawb!! Dewch i ymuno ar paratoi cyn dymor!!!!

Hyfforddiant bob dydd Mawrth a dydd Iau

Facebook CPD Merched Y Felinheli


Dewch i helpu Eisteddfod y Felinheli!

17.07.2025

Croeso i bawb i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a chyfarfod cyntaf y flwyddyn Eisteddfod y Felinheli.

Nos Fawrth, 22 Gorffennaf, 7yh
Tafarn y Fic, Y Felinheli

Cyfle i fwrw golwg ar lwyddiannau a gwelliannau posibl wedi’r Eisteddfod gyntaf ym mis Chwefror, yn ogystal ag edrych ymlaen a rhannu syniadau ar gyfer Eisteddfod 2026.

Croeso i wirfoddolwyr hen a newydd!

Manylion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Eisteddfod y Felinheli

logo Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli


Fuse Pilates

20.03.2025

Hyfforddi gyda'n gilydd, gweithio gyda'n gilydd, pilates gyda'i gilydd

Mae Ffion ac Emma wedi penderfynu cydweithredu i greu'r dosbarth Pilates gorau a mwyaf yn yr ardal! Ar ôl blynyddoedd o weithio gyda'i gilydd, maen nhw wedi penderfynu cyfuno eu busnes Pilates gyda'i gilydd am un diwrnod a rhoi'r holl gyfle i chi ddod i ymuno â'r dosbarth!

Ymunwch a sesiwn hwyliog ac egnïol lle bydd y ffocws ar gryfhau'ch craidd a gwella hyblygrwydd. P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n pro.

Mae'n hanfodol i archebu eich lle a thalu.

Croeso i bawb.

12.04.2025 | 9:00-10:00 | Neuadd Goffa, Y Felinheli | £10

Fwy o wybodaeth neu archebwch eich lle cysylltwch gyda Ffion

Poster Fuse Pilates


Gig Teulu

13.03.2025

Mae YWS GWYNEDD yn dod i Neuadd Goffa Felinheli!!

Prynwch docyn! Dewch yn llu! Mwynhewch - a chefnogi Ysgol Felinheli yr un pryd!!

05.04.2025 | 4:00yh

£27 (2 oedolyn / 2 blentyn) | £10 adult | £5 plentyn (3+)

Croeso i bawb

Ticedi ar werth rwan drwy Ticketsource

Poster Gig Teulu


YDYCH CHI EISIAU GWNEUD GWAHANIAETH YN EICH CYMUNED?

19.02.2025

Mae 5 sedd wag ar y Cyngor Cymuned ar hyn o bryd a mae modd i bobl gymwys ddangos diddordeb mewn bod yn Cynghorydd Cymuned wrth anfon llythyr o ddiddordeb.

A fwy o wybodaeth cysylltwch â clerc@felinheli.org


Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli

22.01.2025

Am y tro cyntaf ers degawdau, mae Eisteddfod yn ôl ym mhentra’r Felinheli!

I’w chynnal yn Neuadd Goffa’r Felinheli

Dydd Sadwrn 1 Chwefror, 2025
Cyfarfod y Dydd i ddechrau am 11.30 o’r gloch
Cyfarfod y Nos i ddechrau am 5.30 o’r gloch

Mynediad:
Prynhawn: £3 i oedolion, 50c i blant
Nos: £3 i oedolion, 50c i blant
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael am bris rhesymol

Rhaglen y Dydd a Noson (pdf)

logo Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli



Ceisiadau Grant 2025

10.01.2025

Mae cyngor Cymuned Y Felinheli yn derbyn ceisiadau grant gan elusennau, grwpiau, cymdeithasau o fewn y gymuned.
Ffurflenni cais ar gael gan y clerc clerc@felinheli.org.

Dyddiad Cau: 4ydd o Chwefror 2025

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2026 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.