Cynllun Llifogydd Cymunedol

Cyngor Cymuned Y Felinheli a Cyfoeth Naturiol Cymru Cynllun Llifogydd Cymunedol

Beth yw Cynllun Llifogydd Cymunedol?

  • Gwybodaeth i helpu’ch cymuned i baratoi ar gyfer llifogydd.
  • Helpu lleihau’r risg i bobl a difrod i eiddo trwy godi ymwybyddiaeth gyda phreswylwyr.
  • Mae’n cynnwys yr holl rifau ffôn perthnasol i adrodd materion.
  • Helpu rhannu gwybodaeth leol yn ystod llifogydd i gynorthwyo’r Gwasanaethau Brys.
  • Helpu trosglwyddo gwybodaeth leol, pryderon a materion i’r awdurdodau perthnasol cyn ac yn dilyn llifogydd.

Pwy fydd yn datblygu Cynllun Llifogydd Cymunedol Y Felinheli

  • Bydd aelodau y Cyngor Cymuned yn arwain y gwaith gyda chymorth y Wardeiniaid Llifogydd a Cyfoeth Naturiol Cymru

Beth yw rôl Warden Llifogydd gwirfoddol?

O ddydd i ddydd gall rôl Warden Llifogydd gwirfoddol gynnwys;

  • Ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth o’r risg o lifogydd yn y gymuned

Annog trigolion i gofrestru i dderbyn negeseuon Rhybuddion Llifogydd

Cymeryd rhan weithgar mewn unrhyw ymarferion llifogydd aml-asiantaethol (os yn berthnasol)

Yn ystod digwyddiad llifogydd gall rôl Warden Llifogydd gwirfoddol gynnwys;

  • Adrodd am faterion perygl llifogydd
  • Ymateb i negeseuon Rhybudd Llifogydd
  • Cadw log o ddigwyddiadau

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, a gellir ei deilwra i anghenion eich cymuned.

Pwy all fod yn Warden Llifogydd

  • Gall Wardeiniaid Llifogydd gwirfoddol fod yn unigolion sydd mewn perygl o lifogydd, ond hefyd unigolion na effeithir arnynt yn uniongyrchol.
  • Gall Wardeiniaid Llifogydd gwirfoddol derbyn cyngor a chymorth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag unrhyw sefydliad perthnasol arall, er enghraifft Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Mantell Gwynedd, y Groes Goch Brydeinig, National Flood Forum ac ati.

Gwybodaeth yn seiliedig ar gyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyngor Cymuned Y Felinheli Cynllun Llifogydd Cymunedol

Parthau:

    1. Glan y Mor
    2. Marina Newydd
    3. Marina Hen
    4. Afon Heulun
    5. Pen Ceunant, Stryd Menai, Uwch Menai
    6. Pen Y Bryn a Stryd Bangor hyd at Gofeb y Cloc
    7. Cofeb y Cloc I Halfway yn cynnwys Allt Penrallt
    8. Halfway I Nant Y Garth
    9. Seilo
    10. Bryn Ffynnon / at yr Eglwys
    11. Lon Llwyn I Bryn Ffynnon
    12. Tan Y Maes, Ger Y Nant, Tafarngrisiau
    13. Cartref Cerrig Yr Afon I Cwrt Menai
    14. Allt Dinas
    15. Stad y Wern at Rhes Gwelfor

 

map yw dilyn..

 

 

 



Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.