Cyngor Cymuned Y Felinheli

GRANTIAU CYMUNEDOL

CEISIADAU GRANT 2023-2024

(CLICIWCH AR Y LINC AR WAELOD Y TUDALEN I LAWRLWYTHO FFURFLEN GAIS)

 

Egwyddorion Cymorth Ariannol

MAE Cyngor Cymuned y Felinheli yn anelu i weithredu sustem cymorth grant bychan pob blwyddyn.

Mae amcanion y sustem fel a ganlyn:
- Helpu grwpiau gwirfoddol y gymuned i gynyddu eu heffeithiolrwydd
- Helpu sicrhau darpariaeth sydd ei angen ar y trigolion gan y sector wirfoddol
- Cefnogi sefydliadau sydd angen ateb anghenion pobl sydd yn wynebu trafferthion cymdeithasol ac economaidd
- Sicrhau cyfartaledd o ran hygyrchedd a chyfleoedd i bawb o ran y gwasanaethau ac aria sy’n cael ei ddarparu.

Mae Cyngor Cymuned yn rhoi gwerth ar amrywiaeth a chryfderau’r sector wirfoddol leol ac yn cydnabod eu rôl annibynnol yn y gymuned fel:
- Darparwyr gwasanaethau gwerthfawr
- Modd i alluogi pobl i weithio gyda’i gilydd
- Cyfrwng ar gyfer ymgyrchu ac eiriolaeth

Mae Cyngor Cymuned yn diffinio grŵp gwirfoddol fel sefydliad “dim am elw” sydd wedi’i sefydlu a’i redeg gan bwyllgor rheoli gwirfoddol.

Mae’r ddogfen yn amlinellu egwyddorion ariannu cyffredinol y Cyngor Cymuned ac yn manylu ynghylch ei ddisgwyliadau ar gyfer grwpiau wrth dderbyn cymorth grant.

Dylai grwpiau sy’n ymgeisio am gymorth grant wneud y canlynol:
Yn ôl y gyfraith, mae grantiau wedi eu cyfyngu i geisiadau sydd wedi’u gwneud gan grwpiau yn unig a dim ond ar faterion sydd o fudd i fwyafrif y gymuned leol.

Cyflwynir grantiau i ateb diffygion ariannol ynghlwm wrth gostau rhedeg yn y
dyfodol, i annog grwpiau neu brosiectau newydd, neu helpu gyda chostau gwariant unwaith yn unig.

Dim ond ar gyfer grwpiau sydd angen cymorth ariannol y cyflwynir grantiau. Bydd arian wrth gefn sydd wedi’i grynhoi yn cael ei ystyried pan fo lefelau grantiau’n cael eu pennu.

Fel rheol rhoddir grantiau am wariant fesul blwyddyn ac fe ddylid gwario’r arian hwn o fewn y flwyddyn honno a hynny ar gyfer y diben a nodwyd yn wreiddiol. Ni ddylid eu hychwanegu, boed hynny’n llwyr neu’n rhannol ar yr arian wrth gefn oni bai eu bod yn rhan o raglen ariannu ar gyfer prosiect penodol oedd wedi’i gytuno ynghynt.

Ni roddir grantiau ar gyfer ateb costau arian sydd eisoes wedi’i wario.
Ni roddir grantiau i grwpiau sydd yn gweithredu er budd ariannol preifat neu sydd yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol; gellid cyflwyno grantiau i sefydliadau refyddol ar gyfer amcanion cymdeithasol neu les. Ond ddim ar gyfer costau addoli neu addasiadau.

Bydd gofyn i sefydliadau ddychwelyd cymorth grant os ydynt yn cau, neu os nad yw'r prosiect neu wasanaeth sydd yn cael eu hariannu gan y Cyngor, yn cael eu darparu’n foddhaol.

Bydd disgwyl i grwpiau gwirfoddol sy’n derbyn cymorth grant gan y Cyngor ddilyn y canllawiau canlynol
- Sicrhau lefelau effeithiol o weinyddiaeth, cynnal cyfarfodydd rheolaidd, cadw cofnodion a chylchredeg gwybodaeth i aelodau’r grŵp
- Cadw cyfrifon cywir. Dim ond i grwpiau sydd wedi cyflwyno cyfrifon boddhaol y cyflwynir grantiau , oni bai mai newydd ddechrau y mae’r grŵp hwnnw
- Adrodd yn ôl i’r Cyngor fel bo angen ynghylch eu gweithgareddau
- Cynnwys aelodau’r grŵp a ddefnyddwyr yn y broses o greu polisiau ac wrth reoli’r gweithgareddau a gwasanaethau
- Bod yn agored ar gyfer defnyddwyr cymwys, fel ag a ddiffinnir gan gyfansoddiad y grŵp
- Sefydlu a chadw golwg ar bolisïau ac ymarferion cyfle cyfartal
- Ateb cyfrifoldebau cyfreithiol cyflogwr fel bo hynny’n briodol; addasu, gweithredu a chadw golwg ar ymarferion a gweithdrefnau da o ran cyflogaeth
- Recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr ble bo hynny’n briodol
- Cydnabod cefnogaeth y Cyngor Cymuned yn eu hadroddiadau blynyddol.

Cafodd y polisi ei fabwysiadu gan Gyngor Cymuned y Felinheli yn ei gyfarfod ar Fawrth 10 2009, ac fe gaiff ei adolygu pob dwy flynedd.

 

Plîs cliciwch ar y ddolen isod i gael copïo’r ffurflen gais am y grant 2023-2024:

Ffurflen Gais!

 

 

Rhaid cwblhau'r ffurflen a'i dychwelyd yn nol i'r Clerc erbyn y 07.02.2024

Clerk to the Felinheli Community Council,
3 Maes Padarn,
Llanberis
LL55 4TE

clerc@felinheli.org

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2024 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.