Ysgol y Felinheli yn chwilio am Lywodraethwyr17.09.25 Mae Ysgol Y Felinheli yn chwilio am ragor o aelodau i fod yn rhan o’r Corff Llywodraethwyr Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr. Mae corff llywodraethu ysgol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sydd er budd y disgyblion. Ynghyd â'r Pennaeth, y corff llywodraethu sy'n pennu amcanion a blaenoriaethau'r ysgol. Gall unrhyw un dros 18 oed fod yn llywodraethwr ysgol - does dim rhaid i chi fod yn rhiant sydd â phlentyn yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae pob corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sy'n rhieni. Gall hyn fod yn ffordd werth chweil o fod yn rhan o ysgol eich plentyn. Os oes ganddoch diddordeb, cysylltwch gyda Clerc y Llywodraethwyr: Bore Coffi Macmillan27.08.25 Bore Coffi Macmillan ar y 6ed o Fedi 2025 er cof Sarah Williams a fu farw yn gynharach eleni o diwmor ar yr ymennydd. Roedd hi'n gefnogwr brwd o'r elusen ac fe gododd filoedd o bunnoedd yn y blynyddoedd diwethaf . Os nad ydych yn gallu ymuno gyda ni yn y Clwb Hwylio yn y Felinheli am 10yb buasem yn ddiolchgar iawn pe gallech gyfrannu yn ei henw ar y cyfrif yma. The Swellies yn cynnig bwyd am ddim i blant dros yr Haf28.07.25 Bob dydd Mawrth i ddydd Iau yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'n cynnig pryd o fwyd plant am ddim gyda phob pryd oedolyn. Mae'r cynnig ar gael yn ystod y horiau agor 9yb - 4yh. Dim ond i blant dan 12 oed. CPD Merched Felinheli22.07.2025 Croeso i bawb!! Dewch i ymuno ar paratoi cyn dymor!!!! Hyfforddiant bob dydd Mawrth a dydd Iau |
Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd
© 2025 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.