Croeso i wefan Cyngor Cymuned Y Felinheli

Newyddion Diweddaraf:

Ysgol y Felinheli yn chwilio am Lywodraethwyr

17.09.25

Mae Ysgol Y Felinheli yn chwilio am ragor o aelodau i fod yn rhan o’r Corff Llywodraethwyr

Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr. Mae corff llywodraethu ysgol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sydd er budd y disgyblion.

Am fwy o newyddion...

Bore Coffi Macmillan

27.09.25

Bore Coffi Macmillan ar y 6ed o Fedi 2025 er cof Sarah Williams a fu farw yn gynharach eleni o diwmor ar yr ymennydd.

Roedd hi'n gefnogwr brwd o'r elusen ac fe gododd filoedd o bunnoedd yn y blynyddoedd diwethaf . Os nad ydych yn gallu ymuno gyda ni yn y Clwb Hwylio yn y Felinheli am 10yb buasem yn ddiolchgar iawn pe gallech gyfrannu yn ei henw ar y cyfrif yma.

Am ragor o wybodaeth ac i gyfrannu

Am fwy o newyddion...

The Swellies yn cynnig bwyd am ddim i blant dros yr Haf

28.07.25

Bob dydd Mawrth i ddydd Iau yn ystod gwyliau'r ysgol, mae'n cynnig pryd o fwyd plant am ddim gyda phob pryd oedolyn.

Mae'r cynnig ar gael yn ystod y horiau agor 9yb - 4yh. Dim ond i blant dan 12 oed.

Darllenwch mwy ar tudalen Facebook The Swellies

Am fwy o newyddion...

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2025 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.