Archif Newyddion 2018

20/12/2018 - Ceisiadau am grant

Mae’r Cyngor Cymuned yn derbyn ceisiadau am grantiau ar hyn o bryd. Gallwch lawrlwytho y ffurflen neu anfon at y clerc am ffurflen. Dyddiad cau 31 Ionawr 2019.

Egwyddorion Cymorth Grant - cliciwch yma


05/12/2018 - Nadolig Felinheli

Neuadd Goffa, Y Felinheli
16.12.18
16.00
Canu Carolau
Stondinau Nadolig
Sion Corn


100 Mlynedd - Y Rhyfel Mawr08/11/2018 - Sesiwn galw mewn

Neuadd Goffa, Y Felinheli
14.11.18
17.30-19.00

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Siop Thrifft24/10/2018 - Siop Thrifft

Dillad a dodrefn ail-law ar gael yn y ‘Siop Thrifft’ yn @shed_cymru Dydd Sadwrn yma!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Gofalwr/-aig Neuadd Goffa Y Felinheli17/10/2018 - Swydd

Gofalwr/-aig Neuadd Goffa Y Felinheli.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


100 Mlynedd - Y Rhyfel Mawr15/10/2018 - 100 Mlynedd: Y Rhyfel Mawr

Arddangosfa Dynion a Merched Y Felinheli

Sul 11eg o Dachwedd 2018, 11.30 y.b. - 5 y.h.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


defib poster12/10/2018 - Sesiwn Ymarfer De-fib

Cofiwch am y noson ymarfer Dydd Mercher nesa!

Croeso i pawb!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


10/10/2018 - Datblygu llwybr yr arfordir rhwng y Felinheli a Glan Faenol

New coastal path now connects Felinheli and Bangor - www.thebangoraye.com (saesneg yn unig)

Mae rhan newydd o lwybr yr arfordir wedi agor sy’n cysylltu pentref Y Felinheli a stad Glan Faenol yn dilyn gwaith uwchraddio gan Gyngor Gwynedd.

Datblygu llwybr yr arfordir rhwng y Felinheli a Glan Faenol - www.gwynedd.llyw.cymru

Clip Cynghorwr Gareth Griffiths a Llwybr arfordir newydd:

Datblygu llwybr yr arfordir rhwng y Felinheli a Glan Faenol

 


tesco vote24/07/2018 - Gwersi Yoga

Pwy oedd yn Yoga'r wyl eleni?
Yda chi awydd cario ‘mlaen? O fis Medi ymlaen mi fydd Leisa’n cynnal sesiynau Yoga bob nos Iau 7.30-9 yn y Neuadd Goffa.
Cysylltwch â Leisa Mererid am fwy o wybodaeth leisa.bywyoga@gmail.com


24/07/2018 - Siop pop-up

Helo Pawb!!
Un nos Fawrth ar ôl i dderbyn rhoddion i'r pop up shop rhwng 6.30 a 8.30 neu wrth gwrs Dydd Sadwrn olaf sef 28/7/18 - 10yb - 4yp
Angen Dillad rhan fwyaf er mwyn i ni gael pres mewn pwysa amdanynt os ddim yn gwerthu ar y diwrnod olaf!!!

Dewch rwan.

Cliriwch y cypyrddau na acw er mwy ni gael yr arian i gael De-fibs i Felin ag achosion da'r pentref

Diolch


17/07/2018 - Stondin Gŵyl Y Felin

Diolch i pawb wnaeth dod i'n gweld ni yn ein stondin yn ystod Gwyl Y Felin. Diolch am yr holl sylwadau, bydd y cyngor yn ei cysidro dros yr wythnosau nesaf.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Stondin Gŵyl Y Felin Stondin Gŵyl Y Felin
Stondin Gŵyl Y Felin Stondin Gŵyl Y Felin

Codi sbwriel17/07/2018 - Diolch i’r rhai ddaru helpu i godi sbwriel ddoe (15/07/2018)

Casglodd 14 bag o sbwriel ac un wheel trim rhyngddynt, i gyd mewn awr a hanner - gwaith gwych.
Casglodd un criw o Griffiths Crossing ar hyd y lon las tuag at y pentref hefo detour i lawr i Lanfairisgaer.
Casglodd ail griw ar hyd y stryd gan godi llwyth o wastraff ger Chan's ac wedyn i lawr at y lan y môr.
Aeth y trydydd criw ar hyd y lon las i Seilo ac yn ôl ar hyd y lon. Roeddent wedi casglu i lawr Ffordd Caernarfon cyn cyrraedd y Neuadd.
Bu criw olaf wrthi o gwmpas cae Rowen a'r lon las cyfagos.

Mae nifer o lefydd hefo tipyn o sbwriel ar ôl wedi eu canfod.
Tu ôl i safle bws ger yr eglwys.
Tu ôl i safle bws Cerrig Yr Afon
Ar y gwair o Cerrig yr Afon am Gaernarfon.
Dylem daclo'r rhain y tro nesaf.

Diolch i Gynghorydd Daniel am drefnu.
Casglu sbwriel nesaf ar y 27/07/18 am 11yb dechrau o Neuadd Goffa. Panad a bisgedi ar gael wedyn.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


17/07/2018 - Gwybodaeth

Seddi Gwag - cliciwch yma
Baner - cliciwch yma
Gwirfoddolwyr - cliciwch yma
Is-Bwyllgorau - cliciwch yma
Mudiadau sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor Cymuned - cliciwch yma
Y Neuadd Goffa adnodd i drigolion Y Pentref - cliciwch yma


Cyngor Gwynedd23/05/2018 - Cwyno neu gwneud cais am wybodaeth i Gyngor Gwynedd

Mae ffordd o gwyno i Gyngor Gwynedd neu gwneud cais am wasanaeth i Gyngor Gwynedd wedi newid yn ddiweddar. Gallwch wneud hyn drwy eu gwefan.

www.gwynedd.llyw.cymru


14/05/2018 - Cyngor Cymuned Y Felinheli - Seddi Gwag Achlysurol

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o 2 sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd ar Gyngor Cymuned Y Felinheli.

Cynhelir etholiad i lenwi’r dwy sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad gan ddeg etholwr o’r gymuned uchod i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Llun 4 Mehefin, 2018.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.


tesco vote06/03/2018 - Rydym Angen Eich Pleidlais!

Yn Tesco Bangor A Tesco Bethesda - Mis Mawrth A Ebrill

Mwy o wybodaeth - cliciwch yma

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.