Newyddion Diweddaraf

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

27.06.22

CYNGOR CYMUNED Y FELINHELI
Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2022
1. Dyddiad cyhoeddi 27 mehein 2022

2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Heather Jones,
Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor Cymuned,
3 Maes Padarn,
Llanberis,
LL55 4TE
07867982518 – clercfelinheli@aol.com

Rhwng yr oriau o 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 4 Gorffennaf 2022
Ac yn dod i ben ar 29 Gorffennaf 2022

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

CYNGOR CYMUNED Y FELINHELI

08.06.22

Cyfarfod mis Mehefin (Rhithiol) - 14/06/2022 7 yn yr hwyr

Mae croeso i’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod – os am drafod mater sydd ar yr agenda yna bydd angen i chi rhoi rhybudd I’r Clerc.

Er mwyn mynychu dyma’r linc priodol.

Join Zoom Meeting

https://us02web.zoom.us/j/84640220038?pwd=elc1L3p4RTB3NFJ6cWlqZmJmUVI1UT09

Meeting ID: 846 4022 0038
Passcode: 781959

Rhybudd - Bwriad i waredu Cychod Gweini a Ceufad

Cyngor Gwynedd - Uned Morwrol

19.05.22

Fe fydd y cychod hyn yn cael eu gwaredu oddi ar y safle ymhen mis dyddiad y rhybudd hwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r hysbysiad hwn cysylltwch:-

Uned Morwrol - 01758 704066

Dyddiad y rhybudd 18/05/2022

Rhybudd Bwriad i waredu Cychod Gweini a Ceufad

  • cwch-1
  • cwch-2
  • cwch-3
  • cwch-4
  • cwch-5
  • cwch-6
  • cwch-7
  • cwch-8

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol a Chyfarfod Misol Cyngor Cymuned y Felinheli Nos Fawrth 17 Mai 2022

16.05.22

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol a Chyfarfod Misol Cyngor Cymuned y Felinheli Nos Fawrth 17 Mai 2022 am 7 yn yr hwyr yn Y Neuadd Goffa. Gallwch hefyd ymuno yn y cyfarfod yn rhithiol. Gwelch isod y linc ar gyfer gwneud hynny. Os oes modd gadewch I’r Clerc wybod os ydych yn dymuno ymuno yn rhithiol. clercfelinheli@aol.com

Heather Jones is inviting you to a scheduled Zoom meeting.

Topic: Cyfarfod Blynyddol a Misol Mai 2022 (Annual and Monthly Meeting)
Time: May 17, 2022 07:00 PM London

Join Zoom Meeting
https://us02web.zoom.us/j/83683804068?pwd=Au3SALcBzxrDN_wEsMdq10nyjqntVx.1

Meeting ID: 836 8380 4068
Passcode: 425905

Find your local number: https://us02web.zoom.us/u/kbTcfKAE5

BUSNESAU GWYNEDD – Rydym eisiau clywed eich barn!

12.05.22

Fel busnes, mae eich barn yn hollbwysig i Gyngor Gwynedd, a felly dyma gyfle arbennig iawn i chi fedru dylanwadu ar sut gall Cyngor Gwynedd eich cefnogi chi yn y dyfodol. Mae'r arolwg hwn yn ceisio deall eich anghenion busnes, a sut y gall y Cyngor weithio yn agosach gyda chi i'ch helpu i oroesi, tyfu a ffynnu yn y dyfodol. Mae lot fawr o gyfleoedd yn dod i’r ardal, felly dyma gyfle unigryw i chi gynnig syniadau a manteisio ar y cyfle i gael dweud eich dweud!
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech neilltuo ychydig funudau i gwblhau'r arolwg. Y dyddiad cau yw dydd Mercher, Mai 11fed.
Arolwg Busnes Gwynedd

Gweledigaeth newydd Ysgol Y Felinheli 2022

01.03.22

Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 4 munud i'w gwblhau.
Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn dod i rym Medi 2022 ac 'rydym yn awyddus iawn i'ch cynnwys chi ar y daith gyffrous o ddiwygio cwricwlwm ein hysgol.
Ein bwriad yw creu Gweledigaeth ddiwygiedig sydd yn cyfleu YN GLIR y profiadau a chyfleoedd dymunwn ddarparu i ddisgyblion ein hysgol arbennig ni.
'Rydym yn ymgynghori gyda holl randdeiliaid yr ysgol gan gynnwys staff, dysgwyr, Llywodraethwyr, rhieni a gwarchodwyr, y gymuned leol a busnesau'r fro , yn ogystal ag ymarferwyr ym myd Addysg.

Dewch i gael gwybod pam fod eich llais chi mor bwysig i ni!
https://youtu.be/KIjrVXRYnI4?list=PLTZvaU9CIF5sLP-C9WYsyee9Mc6q6CTsf

Mae'r ddolen isod yn cyflwyno mwy o wybodaeth am y Cwricwlwm Newydd i Gymru
https://youtu.be/hJjUiPkJbLU

Gofynnwn i chi gwblhau'r holiadur hwn erbyn 11/03/2022

Cwblhewch y holiadur yma

Ysgol Y Felinheli

Cymorth Ariannol i Gymdeithasau Y Felinheli.

06.01.22

Mae modd gwenud cais gan y Cyngor Cymuned am gymorth ariannol I Gymdeithasau ac elusenau of fewn y pentref. Dyddiad cau 31 Ionawr 2022.

Anfonwch at Heather Jones y Clerc am ffurflen gais neu defnyddiwch y linc yma

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.