Croeso i wefan Cyngor Cymuned Y Felinheli

Newyddion Diweddaraf:

Ceisiadau Grant 2026

12.01.26

Mae Cyngor Cymuned y Felinheli yn derbyn ceisiadau ar gyfer grantiau bychan fel cymorth ariannol ar gyfer grwpiau gwirfoddol o fewn y gymuned.

Gellir anfon at y Clerc ar gyfer ffurflen gais. clerc@felinheli.org.

Dyddiad Cau 03/02/2026

Grantiau Cymunedol - Egwyddorion Cymorth Ariannol

Am fwy o newyddion...

Ysgol y Felinheli yn chwilio am Lywodraethwyr

17.09.25

Mae Ysgol Y Felinheli yn chwilio am ragor o aelodau i fod yn rhan o’r Corff Llywodraethwyr

Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr. Mae corff llywodraethu ysgol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sydd er budd y disgyblion.

Am fwy o newyddion...

Bore Coffi Macmillan

27.09.25

Bore Coffi Macmillan ar y 6ed o Fedi 2025 er cof Sarah Williams a fu farw yn gynharach eleni o diwmor ar yr ymennydd.

Roedd hi'n gefnogwr brwd o'r elusen ac fe gododd filoedd o bunnoedd yn y blynyddoedd diwethaf . Os nad ydych yn gallu ymuno gyda ni yn y Clwb Hwylio yn y Felinheli am 10yb buasem yn ddiolchgar iawn pe gallech gyfrannu yn ei henw ar y cyfrif yma.

Am ragor o wybodaeth ac i gyfrannu

Am fwy o newyddion...

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2026 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.