16.12.20 Diogelu CymruPeidiwch â gwahodd coronafeirws i'ch cartref y Nadolig hwn. |
29.07.20 Cerrig mawr wedi eu gweld ar y lon o Gors Bach i Gelli Gyffwrdd.Mae cerrig mawr wedi eu gweld ar y lon o Gors Bach i Gelli Gyffwrdd. Mae y mater wedi cael ei adrodd i'r Heddlu. Mae y cerrig wedi eu gwthio i ochor y lon. Does dim eglurhad am ymddangosiad y cerrig. Dylai gyrwyr fod yn wyliadwrus rhag ofn i fwy o gerrig ymddangos. |
17.06.20 Cae pêl-droed FelinheliMae uwchraddio cae pêl-droed Felinheli yn Seilo yn mynd yn dda. Dim esgus i beidio cefnogi’r timau pêl-droed oherwydd y tywydd - hyd yn oed os bydd yn rhaid i ni barhau i gadw at bellter cymdeithasol y tymor nesaf!
|
07.05.20 Cyfarfod blynyddol 2020 Cyngor Cymuned Y FelinheliBydd Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Eleni yn digwydd yn ddigidol ar y 12fed o Fai 2020 am 7 y.h. Mae modd i aelodau’r gymuned anfon cwestiynau erbyn y 10fed o Fai 2020 at y Clerc. Bydd ymateb i’r cwestiynau yn cael eu hanfon wedi’r cyfarfod neu mae modd i aelodau wneud cais i gael bod yn rhan o’r cyfarfod drwy wneud cais at y Clerc. |
01.04.20 Cefnogaeth Ariannol i Deuluoedd a Busnesau GwyneddMae Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi pecyn o fesurau economaidd i helpu pobl leol a chymuned fusnes Gwynedd trwy'r amser anodd o'n blaenau oherwydd pandemig Coronavirus (Covid-19)..... |
01.04.20 Be vigilant against coronavirus scams (saesneg yn unig)We are warning the public to be extra vigilant and be wary of scams related to coronavirus (Covid-19)....cliciwch yma i ddarllen fwy |
24.03.20 Oraiu LONDIS wedi ei newid.Mae oriau LONDIS Y Felinheli wedi newid ei oriau am ei tro o 8hy i 6yh |
23.03.20 DOSBARTHU NWYDDAUMae'r Cyngor Cymuned yn y broses o greu rhestr o fusnesau lleol fyddai yn fodlon dosbarthu nwyddau neu ddarparu gwasanaethau angenrheidiol i'r rhai sydd yn disgyn i'r categori risg uchel, neu yn hunan ynysu. Os byddai rhywun yn hoffi cael ei gynnwys ar y rhestr a wnewch chi anfon eich rhif ffôn, enw'r busnes a'r math o nwyddau neu wasanaeth sydd ar gael i clerc@felinheli.org
|
18.03.20 Cynllun CyfaillRydym yn trefnu ‘Cynllun Cyfaill’ yn y pentref ar gyfer y dibenion hyn:
|
|
|
Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd
© 2025 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.