Archif Newyddion 2021

Hysbysiad o Waith

08.12.21

Enw’r Prosiect: A487 Ffordd Osgoi Felinheli – Gwaith cynnal arferol
Lleoliad: A487 Ffordd Osgoi Felinheli
Dyddiad Dechrau Rhaglen: Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021
Dyddiad Cwblhau Rhaglen: Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr 2021
Cleient: ACGCC
Prif Gontractwr: Cyngor Gwynedd

Cyfeiriaf at yr uchod a hoffwn eich hysbysu bod gwaith uchod yn digwydd yn y lleoliad uchod rhwng Dydd Mercher 8fed o Rhagfyr a Dydd Sadwrn 11fed o Rhagfyr 2021.
Gall hyn olygu lefel sŵn uwch na'r arfer bob hyn a hyn, a chymeraf y cyfle hwn i ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi.

Bydd y gwaith yn golygu cau yr A487 mewn un cyfeiriad am dair noson yn cychwyn nos Fercher 08.12.21 21:00 a 06:30.

Rhaglen o gyfyngiadau rheoli traffig arfaethedig:

Gwybodaeth am y gwyriad Dyddiad ac Amser Cychwyn ** Dyddiad ac Amser Gorffen ** Nodiadau
A487 Ffordd Osgoi Felinheli ar gau mewn un cyfeiriad am dair noson yn cychwyn Dydd Mercher 08/12/21 rhwng 21:00 – 06:30

21:00

08/12/21

06:30

11/12/21

Bydd y gwyriad yn defnyddio Ffordd Bangor / Ffordd Caernarfon drwy bentref Felinheli

** mae'r dyddiadau yn rhai dros dro, a gallent newid.

Parhau i ddarllen

lon ar gau

LON AR GAU

15.11.21

Ymhellach i'r mater yma mae Scottish Power wedi cadarnhau eu bod yn gwneud gwaith wrth ymyl Londis i'r cloc a bydd y lon ar gau ar y 16/11/21 - 18/11/21.

Maen nhw wedi trefnu i'r buses ddod trwy'r pentre’ fel arfer.

lon ar gau

SUL Y COFIO 2021

Blwyddyn yma rydym chynnal y Gwasanaeth Coffa yn y Neuadd Goffa am 10.15y.b ac yna cherdded at y Cloc i gwblhau'r gwasanaeth, cadw tawelwch a chyflwyno torchau.

Bydd y ffordd ar gau.

Poppy

Nadolig Yn Shed - Farchnad Nadoligaidd

Shed Felinheli

12.11.21

Tu ôl i 41 Stryd Bangor, Y Felinheli

05.12.21
10am-4pm

Stondinau Lleol
Gwin Cynnes
Cwmni Da!

Poster Nadolig yn shed

Marathon Llundain

27.09.21

Mae Rob yn dad i ddau o blant - Finn a Dara - sydd yn ddisgyblion yn Ysgol Y Felinheli, a'i fwriad ydi rhedeg y 26.2 milltir er mwyn codi ariian ar gyfer cyfeillion yr Ysgol, a mi fydd pob ceiniog yn help i ariannu adnoddau gwerthfawr er budd y plant a'r athrawon. Ond yr hyn sy'n anhygoel am ymdrech arwrol Rob ydi'r ffaith ei fod wedi cwblhau marathon bob mis eleni fel ffordd o baratoi, sydd yn dipyn o gamp.

Dangoswch eich cefnogaeth os gwelwch yn dda drwy gyfrannu gan ddefnyddio'r link isod. Diolch yn faw Rob. Pob hwyl, mwynha'r profiad a rheda fel y gwynt

https://uk.virginmoneygiving.com/19665_9050955_25066

Poster London Marathon

Bore Coffi Macmillan

10.09.21

Mae bore coffi Macmillan wedi ei drefnu gan Sarah Williams ar Ddydd Sadwrn Medi 25 am 10yb.
Ar y gwair dros ffordd ar Garddfon.

Croeso cynnes i bawb!!

Rhowch yr hyn a allwch ar gyfer yr achos gwych hwn: https://www.justgiving.com/fundraising/sarah-williams

Poster Bore Coffi Macmillan

#Haf o hwyl

12.07.21

Mai wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn ystod y flwyddyn diwethaf ac felly rŵan mae hi'n amser i bawb cael HWYL!

Dyma raglen o weithgareddau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ar draws Gwynedd:

Mae nifer am ddim ac wedi eu hariannu gan gronfa Llywodraeth Cymru #Hwyl yr Haf

Mae'r gweddill yn weithgareddau sy'n cael eu trefnu ledled Gwynedd.

Mae angen llogi lle o flaen llaw i amryw o weithgareddau er mwyn cyd-fynd â rheolau Covid, neu bydd angen ymaelodi e.e Byw'n Iach, Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd neu Llyfrgelloedd Gwynedd. Felly, ewch ati i drefnu.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar #Haf o hwyl

Poster #Haf o Hwyl

Disgyblion Blwyddyn 3 a'r barn a'r Baw Ci!!

06/07/21

Gwrandwch ar ddisgyblion Blwyddyn 3 yn Ysgol Y Felinheli yn dweud ei barn am Faw ci sydd gwmpas y pentref!

Cofiwch wneud be mae'r disgyblion yn ei dweud!

Dim Baw ci yn ei'n gymuned NI - Bagiwch - Biniwch a rhoi yn y Bin!

Diolch yn fawr iawn i'r holl ddisgyblion ag Mrs. Roberts am greu fideo arbennig!

Da 'Di Disco - Cyfeillion Ysgol Felinheli

05/07/21

Mi fydd Llyr (dad Jacob blwyddyn 2) yn mynd ati i ddawnsio yn ddidor am 8 awr ar dir Ysgol Y Felinheli, ac yn symud ei gorff i ganeuon sydd wedi eu dewis gan y disgyblion. Yn eu tro, mi fydd pob dosbarth yn cael mynd allan i ddawnsio a joio! Diwrnod llawn hwyl i gasglu arian sydd wir ei angen i brynu llyfrau ac offer technoleg gwybodaeth ar gyfer ein plant....darllenwch y poster fan yma

Plis cefnogwch yr achos teilwng yma a chyfrannwch fel y gallwch. Gwerthfawrogir eich help yn fawr iawn. Diolch o galon, criw Cyfeillion Ysgol Y Felinheli

Poster Da di Disco

Felinheli: Cynllun Gwarchod rhag Llifogydd

02.07.21

Gyda'r cynllun llifogydd wedi'i gwblhau, mi fasa ni fel arfer yn cael Agoriad Swyddogol i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac i ddiolch i'r gymuned am eu amynedd yn ystod y gwaith. Oherwydd y cyfyngiadau Covid, dydi digwyddiad felly ddim yn bosib ar hyn o bryd... felly da ni wedi paratoi fideo bach, fel Agoriad Swyddogol Rhithiol! Gobeithio gwnewch chi fwynhau!

Cliciwch yma i fynd i tudalen Facebook Felinheli: Cynllun Gwarchod rhag Llifogydd

Cae Chwarae Lan y Môr - Offer Newydd

24.06.21

Bydd offer chwarae newydd yn cael ei osod ar Lan y Môr o ddydd Iau ymlaen.
Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan y Cyngor Cymuned, efo cefnogaeth gan OBR Construction a Sunshine Playgrounds, er mwyn rhoi adnodd ychwanegol i blant hŷn yn y pentref.
Yn ddibynnol ar y tywydd, gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ddydd Mercher nesaf.
Bydd y cae chwarae ar agor fel arfer, ond bydd yr ardal a nodir ar y map yn cael ei ffensio tra bydd y gwaith gosod yn mynd yn ei flaen.

OBR Logo

Hwb Teuluoedd Gwynedd

23.06.21

Hwb Teuluoedd Gwynedd - y man cyswllt cyntaf i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sydd eisiau gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth yn ymwneud â phlant a theuluoedd.
Ewch i edrych ….

CYNGOR CYMUNED Y FELINHELI
SEDDI GWAG ACHLYSUROL

11.06.2021

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o 2 sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd ar Gyngor Cymuned Y Felinheli.

Cynhelir etholiad i lenwi’r dwy sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad gan ddeg etholwr o’r gymuned uchod i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Llun 5 Gorffennaf, 2021.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chlerc y Cyngor

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

01.03.2021

Daffidils

Enillwyr Clwb y Flwyddyn RYA a Hwylio

01.03.2021

Llongyfarchiadau mawr i Glwb Hwylio Y Felinheli ar ei llwyddiant!

Darllenwch erthyl difyr Sail World yma (Saesneg yn unig..)

Gwyliwch Sioe y 'RYA Virtual Dinghy Show' yn cyhoeddi'r enillydd

Rydym angen mwy o Wardeiniaid Llifogydd

22.02.2021

Cyngor Cymuned Y Felinheli a Cyfoeth Naturiol Cymru
Rydym yn ehangu ein Cynllun Llifogydd Cymunedol
Rydym angen mwy o Wardeiniaid Llifogydd – ym mhob ardal o’r pentref – nid dim ond Lan y Mor

Am fwy o fanylion ewch i tudalen Cynllun Llifogydd Cymunedol


Neu cysylltwch ein Clerc ar:

E-bost: clerc@felinheli.org neu Ffôn Symudol: 07867 982518

 

Cyfrifiad Cenedlaethol 21ain Mawrth 2021

11.02.2021

Helpu pawb i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021

Caiff y cyfrifiad ei gynnal ym mis Mawrth 2021.
Drwy gymryd rhan ac annog pobl eraill i wneud yr un peth, byddwch yn helpu i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch cymuned yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Darllenwch fwy o wybodaeth Helpu pawb i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021 yma

Poster - Mae'r cyfrifiad ar gyrraedd - Dydd Sul 21 Mawrth

Scam NHS Covid Vaccine emails…

28.01.2021 (Saesneg yn unig..)

Dyfed Powys Police Economic Crime Team have become aware of a new Covid Vaccine scam.

DC Gareth Jordan from the Cyber Crime Unit says that in the latest variant of the scam, the victim receives an email that they are on the Covid vaccination list and they need to select whether they do or don’t want the injection... Click here to read more on the NHS Covid Vaccine emails Scam Article

 

Report to Dyfed Powys Police: https://www.dyfed-powys.police.uk/en/contact-us/report-an-incident/ or call 101

Heddlu - Dyfed-Powys

Baw Cwn yn Y Felinheli

21.01.2021

Mae baw ci yn cael ei daflu yn y coed a'r llwyni ac ar ochor llwybrau a'r lonydd yn ein pentref.

Mae'r broblem o faw ci yn y pentref wedi bod ar gynnydd ers ddechrau y pandemig. Rydym yn hynod ffodus o gael nifer o lwybrau hyfryd ar ein stepan drws a does dim rheswm am y diffyg parch at iechyd a diogelwch eraill.

Mae peidio clirio baw ci yn drosedd ac er bod y rhan fwyaf o berchnogion cwn yn byhafio mewn ffordd gyfrifol, mi fyddwn yn gweithio i gymeryd safiad llym yn erbyn troseddwyr. Mae baw ci yn creu risg i iechyd pobol ac yn gallu achosi rhywun i golli eu golwg.

Erfynnwn perchnogion i gadw eu cwn ar denyn ac i GODI baw a chael gwared ohono fo yn y ffordd cywir. Mae yna biniau baw cwn mewn llefydd o gwmpas y pentref. Mae map yn fan hyn yn dangos eu lleoliad. Nid oes modd cael mwy o finiau. Mae ganddom mwy o finiau na nifer o bentrefi eraill yng Ngwynedd.

Os yw un o'r biniau yn llawn neu wedi torri, yna cysylltwch efo'r Cyngor Cymuned trwy ein gwefan https://felinheli.org/cysylltu neu trwy gysylltu yn uniongyrchol efo Cyngor Gwynedd i adrodd y broblem. Ar y wefan neu ar Ap: App Store/ Google Play

  • 210121-baw-ci-1
  • 210121-baw-ci-2
  • 210121-baw-ci-3
  • 210121-baw-ci-4
  • 210121-baw-ci-5
  • 210121-baw-ci-6

 

Panad a Chân

17.01.2021

Neges i'r pobol o'r Felinheli gan Eve Goodman:

Dwi'n rhedeg prosiect 'meet-up' ar-lein ac yn cynnig le i cael sgwrs, a rhannu straeon. Gyda’ch caniatâd, byddaf yn defnyddio eich straeon fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu caneuon gwerin. Efallai y bydd modd i ni fynd ar daith gerddorol a chreu rhywbeth difyr gyda’n gilydd. Nid oes angen profiad cerddorol arnoch. Croeso i bawb!

Plis rhannwch gydag unrhyw un a fyddai'n mwynhau!

I gofrestru eich diddordeb ac i gael sgwrs gychwynnol ar-lein, gadewch eich enw a'ch rhif ffôn yn siop y pentref neu anfonwch e-bost: evesarahgoodman@gmail.com

Comisiynwyd gan Opera Canolbarth Cymru trwy Gerddoriaeth eich Milltir Sgwâr gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

  • 160121-panad-a-chan

 

Darlunio gan Manon Dafydd

Llwybr ar gau

16.01.2021

Yn anffodus iawn - oherwydd peryg’ i gerddwyr, mae llwybyr Afon Heulyn wedi gorfod cael ei gau gan Cyngor Gwynedd. Edrych ymlaen at gael y llwybyr yn saff i’w gerdded eto.

  • 210121-llwybyr-afon-1
  • 210121-llwybyr-afon-2
  • 210121-llwybyr-afon-3

Diogelu Cymru - Math Newydd o'r coronafeirws

11.01.2021

Mae math newydd o'r coronafeirws yng Nghymru. Mae'n lledaenu'n llawer haws.

Mae'n bwysicach nag eirioed dilyn y rheolau.

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2024 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.